|
Croeso i Gynllun Gwella Blynyddol Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam 2007/08. Dyma ddogfen perfformiad a chyflenwi gwasanaethau allweddol y Cyngor, sy'n amlinellu ein gweledigaeth a'n hymrwymiadau am y flwyddyn a ddaw ac sy'n rhoi manylion cynhwysfawr o'n cynnydd a pherfformiad y llynedd.
Disgwyliadau cynyddol cysylltiedig ag adnoddau gostyngol sydd bennaf ar agenda'r awdurdod lleol. Mae'r angen i ymateb a gweithredu'n rhagweithiol yn hanfodol i wella Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Bydd darparu'r gwasanaethau cywir, yn effeithlon, yn effeithiol ac mewn ffordd sy'n canolbwyntio ar y dinesydd, yn sicrhau bod cynnydd gweladwy a sylweddol yn cael ei wneud heddiw ac yn y dyfodol. Mae'r ymroddiad hwn i gyflawni'r hyn sydd o bwys yn sicrhau bod Wrecsam yn 'Addas i'r Dyfodol'. Yn 2006/07 cynhaliwyd ein perfformiad uchel, gan ragori ar y gwelliannau a welwyd yn 2005/06. Gwnaed gwir gynnydd gweladwy yn llawer o'n meysydd blaenoriaeth allweddol yn y 12 mis diwethaf..
Llwyddiannau Allweddol
- Darparu mwy o Ofal Cartref
- Cwtogi rhestrau aros am Therapi Galwedigaethol
- Cynyddu'r gyfradd ailgylchu i 19.53%
- Arwyddo'r Prosiect Gwastraff Menter Cyllid Preifat.
- Dangosodd arolwg Llais y Bobl bod dros 90% o'r boblogaeth yn teimlo'n ddiogel neu'n ddiogel iawn ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam
Yn gysylltiedig â'r llwyddiannau allweddol hyn, mae'r rheidrwydd i adeiladu ar ein llwyddiant ac edrych tu hwnt i'r gorwel i sicrhau bod Wrecsam yn gwella'n barhaol. Mae'r gallu i ddarparu gwasanaeth effeithlon yn gyson i'n cwsmeriaid ar flaen ein meddyliau gan weithredu fel prif yrrwr ein hymdrech barhaol i gyflenwi gwasanaethau rhagorol.
Ymrwymiadau Allweddol
- Cynyddu cyfartaledd sgôr pwyntiau cymwysterau allanol pobl ifanc 16 oed.
- Dal i ddatblygu gwaith ar y cyd a gweithredu ein strategaeth i ddal i weithio i leihau ymddygiad gwrthgymdeithasol.
- Cynyddu canran y gwastraff trefol sy'n cael ei ailddefnyddio, ei ailgylchu a'i gompostio i 35%.
- Lansio a chyflwyno ein Gwasanaeth Strydlun.
Bydd Cyfarwyddwyr Strategol a Phrif Swyddogion yn gweithio ochr yn ochr ag aelodau etholedig i sicrhau bod targedau'n cael eu cyrraedd a chynnydd yn parhau. Bydd gwaith parhaol gyda'n partneriaid yn y sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol yn ganolog i gyflawni'r hyn sydd o bwys i bobl Wrecsam yn 2007/08. Yn ddiamau bydd yr agwedd gydweithredol hon at yr heriau o'n blaen yn sicrhau bod 2007/08 yn flwyddyn lwyddiannus arall.
Mae llawer o heriau o'n blaen a dim ond ymroddiad ac ymdrech y gymuned, staff ac aelodau etholedig fydd yn peri'r llwyddiant y mae pawb yn ei geisio. Gobeithio y bydd cynnwys y cynllun hwn yn eich ysgogi a'ch annog i feddwl am y rhan y gallwch chi ei chwarae i sicrhau bod Wrecsam yn lle ffyniannus a bywiog i fyw, gweithio ac ymweld.
Ymateb I'r Cynllun Gwella
Rydym yn croesawu barn ar y Cynllun Gwella. Anfonwch unrhyw sylwadau neu geisiadau am gopi o'r ddogfen hon mewn print bras, ieithoedd eraill neu ar ffurf arall, at y cysylltiadau isod:
Rheolwr Perfformiad a Gwelliant
Adran Cyllid a Pherfformiad
Cyngor Bwrdeistref Sirol
Wrecsam
Stryt y Lampint
Wrecsam
LL11 1AY
E-bost: finance@wrexham.gov.uk
Ffôn: 01978 292259.
Cynllun Gwella 2007/08 - Fersiwn Llawn
Cynllun Gwella 2007/08 - Fersiwn Llawn - Fersiwn PDF 1.8Mb 
Cynllun Gwella 2007/08 - Fersiwn Crynodeb
Cynllun Gwella 2007/08 - Fersiwn Crynodeb - Fersiwn PDF 344Kb 
I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Gwasanaeth Newid Abobe. |