Beth yw Gofalu am ein Hiechyd 2008-2011?
Gofalu am ein Hiechyd 2008-2011 yw ail Strategaeth Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles Wrecsam. Ein gweledigaeth yw 'gwella iechyd, cynhwysiad cymdeithasol a lles plant, pobl ifanc ac oedolion yn Wrecsam.'
Rhagair
Rydym yn falch o gyflwyno Gofalu am ein Hiechyd 2008-2011, ail Strategaeth Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles ar gyfer Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Pwrpas Gofalu am ein Hiechyd yw gwella iechyd, gofal cymdeithasol a lles trigolion Wrecsam drwy ganfod a delio ag adrannau blaenoriaeth angen.
Datblygwyd y ddogfen strategol allweddol hon drwy Bartneriaeth Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles Wrecsam ac mae’n dangos ein hymrwymiad i weithio mewn partneriaeth.
Mae’r Strategaeth yn cynnwys ein gweledigaeth, ein nodau a’n blaenoriaethau iechyd a gofal cymdeithasol a lles yn Wrecsam dros dair blynedd ac mae’n canfod y deilliannau yr ydym yn dymuno eu cyflawni erbyn 2011. Mae’r ddogfen yn cadarnhau ymhellach y blaenoriaethau a’r deilliannau a nodwyd o fewn Gofalu am ein Hiechyd 2005-2008.
Rydym yn cydnabod bod ein gweledigaeth yn un heriol ac y bydd yn rhaid i ni flaenoriaethu’r deilliannau y dymunwn eu cyflawni yn ôl yr adnoddau sydd ar gael i bartneriaid dros gyfnod y Strategaeth.
Fodd bynnag, byddwn yn parhau i weithio mewn partneriaeth i wireddu ein gweledigaeth ac i sicrhau gwelliannau mesuradwy mewn iechyd, gofal cymdeithasol a lles ar gyfer pobl Wrecsam erbyn 2011.
I gael gwybodaeth bellach cysylltwch â ni ar:
Ffôn: 01978 297064
Ffondestun/Minicom: 01978 292067
Ebost: health@wrexham.gov.uk
Strategaeth Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles Ar Gyfer Wrecsam (2008-2011)
Mae'r ddogfen yma ar gael i ddadlwytho yn y fformat isod:
Strategaeth Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles Ar Gyfer Wrecsam (2008-2011) - Fersiwn PDF 1.4Mb
I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Gwasanaeth Newid Abobe.
|