Mae’r Cyfansoddiad yn nodi sut mae'r Cyngor yn gweithredu, sut y mae penderfyniadau’n cael eu gwneud, a'r gweithdrefnau rydym yn eu dilyn i sicrhau ein bod yn effeithlon, yn dryloyw ac yn atebol i bobl leol.

Mae’n cynnwys 22 rhan sydd yn nodi’r rheolau sylfaenol sy’n llywodraethu sut rydym ni’n gwneud pethau.

Mae adran 13 yn manylu ar y ‘swyddogaethau’ rydym ni’n gyfrifol amdanynt, gan gynnwys rhestr o swyddogaethau y gall gweithwyr eu gwneud mewn swyddi allweddol – sy’n hysbys fel ‘Swyddogion y Cyngor’.

Mae hefyd yn cynnwys rhannau am reolau, protocolau a chodau ymarfer y mae cynghorwyr a gweithwyr yn gweithio oddi tanynt, gan gynnwys sut rydym ni’n rheoli taliadau a threuliau cynghorwyr.