Llamu Cysylltiadau    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd

Strategaeth Gymunedol

 

Croeso i Weledigaeth Gymunedol gyntaf Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn dwyn yr enw ‘Adfywio Wrecsam’.

Datblygwyd y weledigaeth hon gan Bartneriaeth Strategaeth Gymunedol Wrecsam a’i bwriad yw gwella ffyniant cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol y gymuned gyfan. Ein gweledigaeth bwysicaf ar gyfer yr un mlynedd ar bymtheg nesaf yw:

'Gwella ansawdd bywyd pawb ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam'

Mae’r weledigaeth hon yn cynnwys y camau sydd angen i ni eu cymryd gyda’n gilydd i beri gwir welliannau yn ansawdd bywyd pawb yn y Fwrdeistref, fydd yn newid bywydau er gwell yn unol â’r weledigaeth. Deilliodd y blaenoriaethau ac amcanion yn y ddogfen hon o’r hyn a deimlwch chi, y cyhoedd, sy’n bwysig, yn ogystal ag ymchwil a wnaed gan bartneriaid ar amrywiol agweddau ar y Fwrdeistref Sirol. Rydym yn bwriadu adolygu’r blaenoriaethau hyn bob pedair blynedd i sicrhau eu bod yn dal i adlewyrchu eich disgwyliadau.

Mae’r Weledigaeth Gymunedol hon yn rhoi fframwaith trosfwaol sy’n cael ei gefnogi trwy amrywiaeth o strategaethau a chynlluniau gweithredu mwy manwl a gynhyrchwyd gan y Cyngor, y Bwrdd Iechyd Lleol, yr Heddlu, ac eraill – a’u gweithredu fydd y cam pwysig sy’n gwneud gwahaniaeth i fywyd bob dydd pobl. Swyddogaeth Partneriaeth y Strategaeth Gymunedol yw cydgysylltu ac arolygu’r sefydliadau a grwpiau hyn i ddod â gwelliannau sylweddol a pharhaol er lles pawb.

Fel Partneriaid Strategaeth Gymunedol, rydym wedi adeiladu ar gydweithredu presennol ac eisoes wedi dechrau dangos ein hymroddiad i weithio’n fwy effeithiol gyda’n gilydd a chyda’r gymuned i helpu gwella ansawdd bywyd pobl yn y Fwrdeistref Sirol. Ein helpu i beri’r gwelliannau’r ydym i gyd eisiau eu gweld yn ein cymuned. Mae gennym oll ran i chwarae i wneud iddo ddigwydd.

Strategaeth Gymunedol

Strategaeth Gymunedol - Fersiwn PDF 975Kb

I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Cyswllt o llun hon i wefan Adobe i ddadlwytho Adobe Acrobat Reader

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Gwasanaeth Newid Abobe.

 

 
English
 
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 


CBSW
Hawlfraint