Llamu Cysylltiadau    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd

Côd Rheolaeth Gorfforaethol

 

Logo Cyngor Bwrdeistref Sirol WrecsamGellir diffinio ‘Rheolaeth Gorfforaethol’ fel ‘y systemau a ddefnyddir gan awdurdodau lleol i gyfeirio a rheoli eu swyddogaethau ac ymwneud â’u cymunedau’.

Fel pob awdurdod lleol, mae CBS Wrecsam, yn ôl ei natur, yn sefydliad cymhleth sy’n effeithio ar fywydau holl ddinasyddion a chymunedau’r ardal. Yn ogystal â bod yn gyfrifol am ystod amrywiol o wasanaethau, mae gennym hefyd gyfleoedd pwysig i ddylanwadu ar a chreu arweinyddiaeth yn yr ardal, er enghraifft drwy ddarparu gwasanaethau cyhoeddus eraill megis Iechyd a’r Heddlu, neu drwy annog eraill i fuddsoddi yn economi’r ardal.

Mae ein gweledigaeth a’n hamcanion strategol addefedig yn adlewyrchu’r cyfrifoldebau a’r swyddogaethau hyn. Os ydym am gwrdd â’r rhain, yna mae’n rhaid i ni ennill a chynnal ymddiriedaeth ein holl ddinasyddion, cymunedau lleol a phob unigolyn arall sydd â budd ym musnes y Cyngor. Mae’n rhaid bod yna ymddiriedaeth:

  • yn yr aelodau, sef y rhai hynny a etholwyd yn ddemocrataidd, a’r rhai sy’n creu polisïau ac yn atebol drostynt yn wleidyddol, ac sy’n gyfrifol am arwain y Cyngor ac archwilio ei fusnes,

  • ym mhob uwch swyddog, sy’n darparu cefnogaeth amhleidiol i’r aelodau ac yn cynghori ar bolisïau’r Cyngor a’u deddfu,

  • ym mhob un o’n gweithwyr, gweithredwyr a sefydliadau partner sy’n darparu gwasanaethau i’r Cyngor,

  • ym mhob un o’n strwythurau a phrosesau,

  • ym mherthynas y Cyngor â sefydliadau eraill sy’n darparu gwasanaethau.

Rydym hefyd yn sylweddoli bod gosod safonau uchel o ran hunanreolaeth yn darparu arweiniad clir a dangosadwy i bartneriaid presennol a phartneriaid dichonol.

Er mwyn creu’r fath ymddiriedaeth, mae’n rhaid i ni gael rheolaeth gorfforaethol o safon – mae’n rhaid i ni gyfeirio a rheoli ein swyddogaethau’n dda ac ymwneud â’n cymunedau. Mae’r côd lleol hwn, sy’n seiliedig ar gyfarwyddyd a ddarparwyd ar y cyd gan CIPFA (Sefydliad Siartredig Cyllid a Chyfrifeg Cyhoeddus) a SOLACE ( Cymdeithas Prif Weithredwyr Awdurdodau Lleol), yn mynegi ein hymrwymiad i ymarfer rheolaeth gorfforaethol o safon a’n hymrwymiad i’w hegwyddorion sylfaenol. Y rhain yw:

  • gonestrwydd – rydym yn ceisio ymgynghoriad diffuant â phob un o’n budd-ddeiliaid ac yn darparu mynediad i wybodaeth gyflawn, cywir a chlir,

  • cynwysoldeb - rydym yn ceisio sicrhau bod gan bob un o’n budd-ddeiliaid a budd-ddeiliaid dichonol gyfle i ymuno â’r broses o wneud penderfyniadau,

  • uniondeb – byddwn yn cynnal ein busnes yn onest, yn ddihunan ac yn wrthrychol, a byddwn yn gweithredu i’r safonau uchaf o briodoldeb a chywirdeb wrth reoli ein holl fusnes a gofalu am gronfeydd cyhoeddus,

  • atebolrwydd – mae pob aelod o staff yn gyfrifol am eu penderfyniadau a’u gweithredoedd a byddant yn caniatáu i’r archwiliad allanol priodol gael ei gynnal,

  • effeithiolrwydd – byddwn yn monitro effeithiolrwydd pob un o’n systemau a’n prosesau y sonnir amdanynt o fewn y côd hwn,

  • cyfoes - caiff ein systemau a’n prosesau hefyd eu hadolygu’n barhaus er mwyn sicrhau eu bod yn parhau’n ddiweddar bob amser.

Mae’r côd yn disgrifio’r amryw systemau, prosesau a’r ddogfennaeth sy’n nodi sut rydym yn rheoli ein busnes yn unol â’r egwyddorion hyn. Maent wedi eu gosod ar draws pum agwedd sylfaenol ein busnes:

  1. Canolbwyntio ar y Gymuned
  2. Trefniadau ar gyfer Darparu Gwasanaethau
  3. Strwythurau a Phrosesau
  4. Rheoli Risg a Rheolaeth Fewnol
  5. Safonau Ymddygiad.

Mae ein hymrwymiad i reolaeth gorfforaethol o safon hefyd yn cynnwys datblygu, mabwysiadu a chynnal y côd yn barhaus, gan fonitro ei effeithiolrwydd a mesur i ba raddau rydym yn cydymffurfio ag ef. O ganlyniad, caiff canlyniadau asesiadau blynyddol eu cyhoeddi yn natganiad y cyfrifon.

Côd Rheolaeth Gorfforaethol

Mae'r ddogfennau ar gael ar y ffurfiau canlynol:

Côd Rheolaeth Gorfforaethol - Fersiwn Word 88Kb

Côd Rheolaeth Gorfforaethol - Fersiwn PDF 133Kb

Côd Rheolaeth Gorfforaethol - Fersiwn Testun Plaen 174Kb

I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Cyswllt o llun hon i wefan Adobe i ddadlwytho Adobe Acrobat Reader

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Gwasanaeth Newid Abobe.

 
English
 
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 


CBSW
Hawlfraint