Beth yw Newid i'r Digidol?
Rhwng 2008 a 2012, bydd gwasanaethau teledu'r DU yn troi'n gyfan gwbl ddigidol. Gelwir y broses hon yn Newid i'r Digidol.
Bydd y broses hon yn golygu diffodd y rhwydwaith trawsyrru teledu daearol analog sydd wedi bod mewn bodolaeth ers y 1930au a rhoi rhwydwaith daearol cwbl ddigidol yn ei le. Ar hyn o bryd, caiff signalau digidol ac analog eu darlledu'n gyfochrog. Ond tra bo'r signal analog yn dal i weithredu, ni ellir darlledu'r signal digidol yn llawn gan ddefnyddio pŵer llawn ledled y DU a galluogi pawb i dderbyn signal digidol.
Mae'r broses hon yn digwydd er mwyn rhoi manteision gwasanaethau teledu digidol i bob cartref yn y DU a bydd hefyd yn galluogi'r Llywodraeth ac Ofcom i wneud mwy o le i donnau awyr a lansio gwasanaethau newydd yn y dyfodol, megis teledu diffiniad uchel (HDTV).
Dros y blynyddoedd diwethaf, mae manteision teledu digidol wedi trawsffurfio'r ffordd yr ydym yn gwylio teledu yn y DU. Mae wedi dod â llawer mwy o sianeli, gwella ansawdd y llun, darparu ffyrdd newydd o ddarparu gwasanaethau a gwell opsiynau mynediad i'r rhai hynny â nam ar eu golwg a'u clyw.
Bydd newid i'r digidol yn digwydd fesul rhanbarth teledu a 2009 yw'r flwyddyn y bydd HTV Wales, Granada, BBC1 Wales ac ati yn newid i'r digidol yng ngogledd Cymru. Er mwyn bod yn barod ar gyfer y broses hon, ac os nad ydych wedi gwneud hynny eisoes, bydd angen trosglwyddo eich offer teledu i rai digidol. I wneud hyn, mae gennych 4 opsiwn:
- Prynu blwch digidol a'i blygio yn eich teledu (mae'r rhain yn integredig mewn rhai setiau teledu newydd erbyn hyn).
- Tanysgrifio i wasanaeth cebl digidol
- Tanysgrifio i wasanaeth lloeren digidol
- Tanysgrifio i wasanaeth sy'n darparu teledu digidol trwy linell ffôn
Gwerthfawrogir na fydd pob un o'r gwasanaethau hyn ar gael yn eich ardal a thrwy ddefnyddio'r gwirydd côd post ar www.digitaluk.co.uk (gweler y cyswllt isod) gellwch ddarganfod beth yw eich opsiynau. Fel arall, gellwch gael cyngor gan unrhyw fanwerthwr trydanol a chwiliwch am arwydd y tic digidol sy'n nodi bod ganddynt nwyddau neu wasanaethau i helpu pobl i newid i'r digidol.

Am wybodaeth fanwl bellach a chwestiynau a ofynnir yn aml am Newid i'r Digidol, defnyddiwch y linciau a ddangosir isod.
Cysylltau
www.digitaluk.co.uk/cy (sy'n cynnwys gwirydd côd post i weld pa wasanaethau sydd ar gael yn eich ardal)
www.digitaltelevision.gov.uk
|