Gwasanaeth Teledu Digidol Wrecsam
Mae Teledu Digidol Wrecsam yn wasanaeth am ddim sydd ar gael i gwsmeriaid Sky.
Gan ddefnyddio’r teclyn rheoli o bell ar gyfer eich teledu gallwch:
- Cael gwybodaeth leol a chysylltiadau defnyddiol
- Dweud eich dweud am faterion lleol
- Cynllunio taith a chael y newyddion diweddaraf am gludiant
- Rhoi gwybod am finiau coll, gwneud cais am waith trwsio yn eich tŷ cyngor, adnewyddu eich llyfrau llyfrgell a llawer mwy…
Lluniwyd y gwasanaeth i’ch galluogi i gysylltu â’r Cyngor o’ch cadair esmwyth. Mae’n ffordd hawdd a chyflym arall i gysylltu â’r awdurdod sy’n ategu at wasanaethau presennol fel ymweliadau personol â swyddfeydd, cyswllt dros y ffôn neu trwy www.wrecsam.gov.uk
I ddefnyddio’r gwasanaeth, dilynwch y cyfarwyddiadau syml hyn:
- Pwyswch Interactive
- Sky Active
- A-Z
- Looking Local
- Wales
- Wrexham CBC
Am fwy o wybodaeth am deledu digidol a throsiad gwasanaethau teledu analog
Cysylltau
www.digitaluk.co.uk
|