Bwrdd Gweithredol (10 aelod)

Bydd y Bwrdd Gweithredol yn ymgymryd â phob un o swyddogaethau’r awdurdod lleol nad ydynt yn rhan o ddyletswyddau unrhyw ran arall o’r awdurdod lleol, p’un a yw hynny yn ôl y gyfraith neu’n unol â Chyfansoddiad y Cyngor.

Bydd y Bwrdd Gweithredol yn cynnwys 10 o aelodau, sef Arweinydd y Cyngor a 9 cynghorydd arall sy’n cael eu penodi’n flynyddol gan y Cyngor ar sail wleidyddol gytbwys, i adlewyrchu’r darpariaethau yn y Ddeddf Llywodraeth Lleol a Thai 1989.

Mae cylch gorchwyl y Bwrdd Gweithredol wedi’i osod allan yng Nghyfansoddiad y Cyngor.

Yn ei gyfarfod blynyddol ar 24 Mai 2006, adolygodd y Cyngor ei drefniadau cyfansoddiadol i ganiatáu i Arweinydd y Cyngor roi rolau arweiniol i aelodau’r Bwrdd Gweithredol. Aelodau Arweiniol y Bwrdd Gweithredol a’u cyfrifoldebau

Bwrdd Gweithredol - Aelodau Arweiniol

Gweld Dyddiadau Bwrdd Gweithredol

Cwestiynau Cyhoeddus

Aelodaeth

Grwp Llafur (4 Cadair)

Grwp Annibynnol Wrecsam (2 Cadair)

Grŵp Annibynnol Democrataidd (2 Cadair)

Grwp Ceidwadwyr (1 Cadair)

Grwp Democrat Rhyddrydol (1 seat)

Jane Johnson, Rhif Ffôn: 01978 292236

yn ôl i'r brig