|
Y Cyngor yw’r corff penderfynu eithaf a bydd holl elfennau eraill y strwythur yn deillio o’i awdurdod. Y Cyngor sy’n penderfynu ar fframwaith polisi y mae’r Bwrdd Gweithredol yn gweithio oddi fewn iddo. Prif swyddogaethau’r Cyngor yw:-
- Penodi’r Bwrdd Gweithredol
- Penodi ar gyfer Pwyllgorau a chyrff allanol (heb gynnwys y rhai a ddirprwyir i’r Bwrdd Gweithredol i’w penderfynu)
- Penderfynu ar gyfrifoldebau ac amodau gorchwyl y Pwyllgorau
- Mabwysiadu rheolau sefydlog ar ran y Cyngor
- Gwneud trefniadau ar gyfer penodi Pennaeth y Gwasanaethau Cyflogedig ac ystyried materion sy’n ymwneud ag unrhyw gamymddygiad
- Cymeradwyo graddfa Treth y Cyngor
- Ethol y Maer
- Penodi Arweinydd y Cyngor
-
Penderfynu ar fframwaith polisi’r Cyngor trwy gymeradwyo cynlluniau strategol pwysig a restrir isod –
- Datganiad Strategaeth Corfforedig
- Cynllun Cymunedol (hanfod gan Werth Gorau)
- Cynllun Datblygu Unedol
- Cynllun Strategol a Gweithredol Tai
- Cynllun Gwasanaethau Plant
- Cynllun Gofal Cymdeithasol
- Cynllun Addysg Strategol
- Strategaeth Datblygiad Economaidd
- Strategaeth Cludiant Integredig
Nodyn – monitrir y rhestr hon yn barhaol i adlewyrchu amgylchiadau newidiol, gofynion llywodraethol ac anghenion y Cyngor.
Cwestiynau Cyhoeddus
Gweld dyddiadau Pwyllgoraru'r Cyngor
|