Mae’r Cyngor yn gosod ei broses gyllidebol flynyddol yn gynnar ac mae’n gorffen pan gymeradwyir y gyllideb a lefel treth y cyngor ym misoedd Chwefror/Mawrth bob blwyddyn. Gymaint ag y gellir trefnir dyddiadau’r gweithdai a’r cyfarfodydd o flaen llaw.
Mae’r Pwyllgor Craffu Cyllid a Pherfformiad, y Bwrdd Gweithredol a chyfarfodydd y Cyngor i gyd ar agor i’r cyhoedd. Darperir yr amserlen i gynorthwyo aelodau’r cyhoedd a allai fod eisiau gwrando ar y ddadl gyfredol ar gyllideb 2009/10.
Os hoffech drafod y broses gyllidebol, cysylltwch â’r Prif Swyddog Cyllid a Pherfformiad, ffôn: 01978-292704 neu ebost finance@wrexham.gov.uk
| Dyddiad |
Digwyddiad |
17/04/08 |
Pwyllgor Craffu Cyllid a Pherfformiad Adolygu proses gyllido 2008/09 ac ystyried gwelliannau ar gyfer proses 2009/10. Bydd hyn yn cynnwys amserlen fanwl ar gyfer y broses |
03/06/08 |
Bwrdd Gweithredol – Ystyried alldro 2007/08. Rhoi sêl bendith ar broses fanwl cynhyrchu cyllideb 2009/10 budget. |
11/06/08 |
PSCPh (Prif Swyddog Cyllid a Pherfformiad)– Amlinellu rhagolygon ariannol a’r broses gyllido i’r CPS (Cyfarfod Tîm y Cyfarwyddwr a’r Prif Swyddogion) h.y. Prif Weithredwr, Cyfarwyddwyr Strategol a Phrif Swyddogion. |
25/06/08 |
Fforwm Cyllideb Ysgolion Wrecsam |
29/07/08 |
Bwrdd Gweithredol – Derbyn gwybodaeth am ragolygon ariannol. |
30/07/08 |
1. Gofyn yn ffurfiol i’r Tîm Rheoli Strategol am feysydd lle mae pwysau ar y gwasanaeth a meysydd lle gellid gwneud arbedion.
2. Gofyn yn ffurfiol i Brif Swyddogion am feysydd lle mae pwysau ar y gwasanaeth a meysydd lle gellid gwneud arbedion. |
23/09/08 |
Gweithdy i’r holl aelodau – i ystyried benthyca darbodus a diweddariad ar weithio fformiwla gan Is-grŵp Dosbarthu. |
24/09/08 |
Fforwm Cyllideb Ysgolion Wrecsam |
Diwedd mis Medi/ Dechrau mis Hydref 2008 |
Llywodraeth Cynulliad Cymru – Cyhoeddi cyllideb gyffredinol LlCC (nid yw’n cynnwys gwybodaeth benodol am lywodraeth leol). |
Wythnos yn dechrau 06/10/08 |
Tîm Rheoli Strategol/Aelod Arweiniol – Ystyried ein sefyllfa. |
21/10/08 |
Gweithdy i’r holl aelodau – Y gyllideb arfaethedig ddiweddaraf. |
Diwedd mis Hydref/dechrau mis Tachwedd 2008 |
Llywodraeth Cynulliad Cymru – Cyhoeddi setliad dros dro ar gyfer llywodraeth leol. |
Tachwedd 2008
Cyfarfod arbennig |
Pwyllgor Craffu Cyllid a Pherfformiad – ystyried y gyllideb ddiweddaraf a lefelau arian wrth gefn a balansau. |
Misoedd Tachwedd/Rhagfyr |
Pwyllgorau craffu eraill yn ystyried materion penodol fel y bo’r angen. |
04/11/08 |
Bwrdd Gweithredol - Rhoi sêl bendith i’r gyllideb ddiweddaraf er mwyn ymgynghori gyda’r cyhoedd a’r undebau. |
Tachwedd 2008 |
Prif Swyddogion – Asesiad risg y gyllideb. |
03/12/08 |
Fforwm Cyllideb Ysgolion Wrecsam |
Canol mis Rhagfyr 2008 |
Llywodraeth Cynulliad Cymru – Cyhoeddi setliad refeniw a chyfalaf terfynol. |
04/12/08 |
Bwrdd Gweithredol – Rhoi sêl bendith ar y gyllideb ar gyfer craffu terfynol. |
Yn gynnar mis Ionawr 2009 |
Llywodraeth Cynulliad Cymru – Cymeradwyaeth ffurfiol i’r Setliad Llywodraeth Leol. |
Mis Ionawr 2009 Cyfarfod arbennig |
Pwyllgor Craffu Cyllideb a Pherfformiad yn ystyried y gyllideb derfynol. |
19/01/09 |
Fforwm Cyllideb Ysgolion Wrecsam |
20/01/09 |
Bwrdd Gweithredol – Argymell cyllideb i’w chymeradwyo gan y Cyngor. |
Mis Chwefror 2009 |
Ymgorffori’r dreth dân, heddlu a threthi cymunedau lleol. |
20/02/09 |
Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno gwelliannau arfaethedig i’r gyllideb i PSCPh. |
25/02/09 |
Cyngor – Gosod y gyllideb a lefelau treth y cyngor ar gyfer 2009/10. |
Mis Mawrth 2009 |
CFPO – Anfon hawliadau treth y cyngor at drethdalwyr. |