Llamu Cysylltiadau    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd

Llyfr Cyllideb ar gyfer 2008/09

 

Mae’r dudalen hon yn rhoi gwybodaeth am lyfr cyllideb Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ar gyfer 2008/09, sy’n cynnwys cynigion gwario cyllid pob un o wasanaethau Cyngor y Fwrdeistref Sirol am y flwyddyn ariannol.

Mae copïau o’r llyfr cyllideb fanwl ar gael yn eich llyfrgell leol. Mae’r wybodaeth ganlynol yn rhoi crynodeb o gyllideb 2008/2009:

1. Fel ymhobman, mae proses cynllunio cyllideb yr awdurdod lleol yn Wrecsam yn gofyn edrych yn gynnar ar obeithion cyllideb y Cyngor ar sail dangosyddion economaidd cenedlaethol a chyfansymiau cynllunio’r llywodraeth ar gyfer gwariant awdurdodau lleol.

2.  Er mwyn cefnogi’r ymgyrch i wella cyflawniad gwasanaethau derbyniodd y Cyngor bod angen cyfuno cynllunio ac ariannol / cyllidebol corfforaethol. Cytunwyd ar broses gynllunio’r gyllideb ar gyfer 2008/09 ym mis Mehefin 2007 ac, yn dilyn adolygiad o obeithion ariannol y Cyngor ym mis Gorffennaf 2007, gofynnwyd i adrannau gwasanaeth nodi arbedion o 4% (ysgolion 1%) a rhoi manylion unrhyw bwysau “eithriadol” disgwyliedig

3. Datblygwyd y cynlluniau ariannol tymor canolig gan ddefnyddio’r paramedrau canlynol:

  • Tybio cynnydd mewn gwariant arian o 2.5% (a newidiwyd i 2.75% yn dilyn cyhoeddi’r setliad terfynol) yn 2008-09, gyda chynnydd arian parod o 3.6% yn 2009-10 a 2010-11.
  • Tybiaethau amcangyfrif chwyddiant:
    - Codiad cyflog athrawon o 2.45% ar gyfer 2008-09, 2.36% ar gyfer 2009-10 a 2.3% ar gyfer 2010-11 ar ben hyn y newidiadau yng nghost graddfeydd cyflogau.
    - Codiad cyflog o 2.45% heblaw athrawon ar gyfer 2008-09, a 2.3% yn 2009-10 a 2010-11.
    - Codiadau pris o oddeutu 2% ar gyfer pob un o’r tair blynedd.
  • Y bydd y grant cymell perfformiad heb ei neilltuo (PIG), a’r grant amddifadedd yn cael eu derbyn yn y tair blynedd. Dylai aelodau nodi y bydd y grant PIG yn cael ei ddisodli gan Gytundeb Gwella Llywodraeth Cynulliad Cymru fwy na thebyg a lefelau taliadau newidiol yn amodol ar berfformiad.
  • Bod digon o ddarpariaeth ar gyfer y prosiect Gwastraff Menter Cyllid Preifat ar sail ar amcangyfrif o’r costau ar hyn o bryd.

4. Defnyddiwyd y cynlluniau cyllideb tair blynedd fel sail i gyfrifo’r dangosyddion darbodus fel y disgrifir yn ddiweddarach yn yr adroddiad. Bydd angen adolygu’r cynllun ariannol tymor canolig yn gyfnodol

yn ôl i'r brig

Adolygiad o’r Flwyddyn Gyfredol 2007/08

5. Roedd cyfyngiad ariannol o £187,890,807 ar y gyllideb am y flwyddyn

6. Arolygwyd a rheolwyd y gyllideb yn agos yn ystod y flwyddyn yn unol â’r trefnau a argymhellodd y Cyngor. Bu’n rhaid talu am bwysau ar nifer o wasanaethau a chostau uwch yn ystod y flwyddyn trwy gael hyd i arbedion digolledu er mwyn cadw o fewn cyfansymiau cymeradwy’r gyllideb arian cyfyngedig. Fodd bynnag, erbyn hyn mae disgwyl y bydd y Cyngor yn mantoli’r gyllideb ar ddiwedd y flwyddyn.

7. Bydd holl gyllidebau’n dal i gael eu harchwilio’n ofalus yn unol â’r trefnau a gytunwyd a bydd y gwir ganlyniadau’n cael eu hysbysu yn yr haf. Yn unol â rheolau cyllidebu arian cyfyngedig, fe all unrhyw wario dros neu dan gael ei ddwyn ymlaen i 2008/09.

yn ôl i'r brig

Dyfarniad Cyllid y Cynulliad

8. Mae’r dyraniad grant i awdurdodau unigol yn dibynnu ar fformiwla’r asesiad gwariant safonol (SSA). Ar gyfer 2008/09 roedd newidiadau yn y fformiwla, gyda’r mwyaf arwyddocaol yn y meysydd Grant Strategaeth Anabledd Dysgu, Cynnal a Chadw Ffyrdd, PSS Plant a Phobl Ifanc, Datblygiad Economaidd a Grant Blynyddoedd Cynnar.

9. Cyhoeddodd Llywodraeth Cynulliad Cymru (LlCC) fanylion ei setliad refeniw dros dro i awdurdodau lleol ar 14 Tachwedd 2007. Er bod y setliad dros dro yn rhoi cynnydd o 2.3% yn y grant i awdurdodau lleol ar gyfartaledd, oedd islaw disgwyliadau awdurdodau lleol. Gwnaed cynrychioliadau gan y Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) ac awdurdodau lleol ynghylch y setliad gwael. Cyhoeddodd LlCC ei setliad cyllid terfynol ar gyfer 2008/09 ar 22 Ionawr 2008 ac er ei fod yn cynnwys £4.7 miliwn ychwanegol i sicrhau bod pob awdurdod lleol yn derbyn cynnydd mewn grantiau oedd o leiaf 2%. Er mawr siom, cynnydd bychan i grant cefnogi refeniw a gyhoeddwyd yn bennaf o ganlyniad i ddarpariaeth bellach yn elfen gofal plant Cymorth a throsglwyddo cyfrifoldeb am gŵn crwydr oddi ar awdurdodau’r heddlu.

10.  Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 yn rhoi pŵer i’r Gweinidog dros Gyllid, Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus (y Gweinidog), gyfyngu ar neu gapio gofyniad cyllideb unrhyw awdurdod lleol, y mae’n ystyried yn ormodol. Nid yw’r Gweinidog wedi gwneud unrhyw gyhoeddiad perthnasol i dybiaethau ynghylch gwariant y Cyngor ar gyfer 2008/09. Mae wedi nodi na ddylid codi treth y Cyngor mwy na 5%. Roedd asesiad o wariant safonol y Cyngor, yr asesiad tybiannol at ddibenion dosbarthu grant o angen y Cyngor i wario ar ei wasanaethau.£192,936,469.

yn ôl i'r brig

Cyllideb 2008/09

11. Adeiladwyd cyllideb y flwyddyn nesaf fel a amlinellir ar Gyllideb Refeniw 2008-09 (gweler isod) yn unol â’r fframwaith a gytunodd y Cyngor. Addaswyd y gyllideb yn y flwyddyn gyfredol (h.y. y gyllideb arian cyfyngedig ar ôl cyfrif hawl trosglwyddo arian) oherwydd newidiadau swyddogaethol, cost chwyddiant, ymrwymiadau anochel, pwysau ar wasanaethau ac arbedion.

12. Amcangyfrif o gyfanswm y gwariant cyllid clir yw £193,877.142. Dengys y Gyllideb Refeniw hefyd gofynion cyllideb y Cyngor fel £192,198,638. Mae’n cynrychioli cynnydd o £5,148,894 (2.75%) ar ofyniad cyllideb y flwyddyn gyfredol wedi’i addasu.

13.  Mae’n ofyniad Deddf Llywodraeth Leol 2003 y dylwn gyflwyno adroddiad i’r aelodau ar gadernid yr amcangyfrifon a wnaed at ddiben cyfrifo’r gofyniad cyllideb clir. Dylwn felly dynnu eich sylw at nifer o feysydd risg allweddol a nodais yn y gyllideb a sut i reoli’r rhain. Bydd materion yn ymwneud â’r risgiau allweddol hyn yn cael eu hysbysu i’r aelodau fel bo angen yn ystod y flwyddyn a ddaw fel rhan o weithdrefnau arolygu a rheoli’r gyllideb.

14. Ymgynghorwyd a’r Fforwm Cyllideb Ysgolion ac Undebau Llafur am y gyllideb a bu eu cefnogaeth yn gadarnhaol.

Adnoddau wrth Gefn a Gweddillion

15. Mae awdurdod lleol angen swm darbodus o weddillion gweithio i gynnal llif arian digonol, yn enwedig yn ystod rhan gyntaf y flwyddyn ariannol cyn derbyn incwm treth y cyngor, ac ar gyfer gwariant annisgwyl

16. Yn ystod y cylch cyllideb diwethaf argymhellodd yr aelodau bod cyfraniad blynyddol o £500k yn cael ei wneud i weddillion fel rhan o bennu’r gyllideb. Nid oes cyfraniadau arfaethedig i weddillion 2008-09. Fodd bynnag, rwy’n fodlon bod swm y gweddillion a darpariaethau’n ddigonol ar gyfer y flwyddyn ariannol a ddaw a strategaeth ariannol tymor canolig yr awdurdod.

17. Ceir ansicrwydd fodd bynnag, yn dal yn y gyllideb sy’n ymwneud â chodiad cyflog athrawon a staff nad ydynt yn athrawon sydd ag eto i’w setlo.

18. Mae dadansoddiad o amcangyfrif o adnoddau wrth gefn a glustnodwyd, gweddillion a darpariaethau allweddol y Cyngor am y flwyddyn a ddaw fel a ganlyn:

  Gweddill Gwirioneddol ar 1 Ebrill 2007 £k Amcangyfrif o’r Gweddill ar 1 Ebrill 2008 £k Symudiad yn y flwyddyn £k Amcangyfrif o’r Gweddill ar 31 Mawrth 2009 £k
Gweddill Cronfa’r Cyngor 5,941 6,910   6,910
Gweddillion ysgolion 2,577 2,577   2,577
Adnoddau wrth Gefn Gwasanaethau 2,133 1,894 (681) 1,213
Adnoddau wrth Gefn Eraill a Glustnodwyd 10,823 11,158 (917) 10,241
Cyfanswm Gweddillion ac Adnoddau wrth Gefn 21,474 22,539 (1,598) 20,941

19. Seiliwyd amcangyfrifon y gweddillion ar 1 Ebrill 2008 yn y tabl uchod ar yr amcangyfrifon gorau oedd ar gael ar adeg ysgrifennu’r adroddiad. Mae symudiad gweddillion Cronfa’r Cyngor yn cynnwys y sefyllfa a adroddwyd yn y flwyddyn gyfredol (CFPO/05/08). Bydd y sefyllfa’n newid wedi cau cyfrifon 2007-08 a bydd yn cael ei hysbysu i’r aelodau fel rhan o’r adroddiad canlyniad ar ôl diwedd y flwyddyn ariannol. O’r £681k arfaethedig ar gyfer symudiad yn y flwyddyn ar adnoddau wrth gefn gwasanaethau ni fydd dim yn cael ei ddefnyddio i dalu am wariant rheolaidd.

20. Nid yw’r dadansoddiad uchod yn tybio unrhyw ddefnydd o weddillion cyffredinol ar gyfer ôl-ddyledion cyflog yn dilyn yr adolygiad Statws Unigol a Chyflog Cyfartal. Os yw’r cyfrifoldebau hyn, neu gyfrifoldebau eraill yn uwch na’r dyraniadau a glustnodwyd yna, yn amlwg bydd galw am y gweddillion cyffredinol.

Incwm

20. Grant Cymorth Incwm Cyllid – cyfran y Fwrdeistref Sirol o’r Grant Cynnal Refeniw terfynol oedd £115,886,298.

21. Trethi Busnes – Mae’r Cynulliad wedi pennu’r dreth fusnes ar gyfer 2008/09 fel 46.6 ceiniog yn y bunt. Cyfran y Fwrdeistref Sirol o incwm ardreth annomestig genedlaethol yn 2008/09 yw £34,528,013.

22. Grant Cymell Perfformiad – Dosbarthwyd y grant hwn i holl awdurdodau lleol ar sail asesiadau cyfredol o wariant safonol a chyfran y Cyngor hwn yw £1,276,806.

23. Grant Amddifadedd – Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi dosbarthu £22 miliwn i holl awdurdodau lleol trwy gyfeirio at fynegrif amlamddifadedd a dyrannwyd £321,698 i’r Fwrdeistref Sirol.

24. Cymhelliad Grant Busnes Awdurdodau Lleol – Caiff y grant hwn ei ddosbarthu i awdurdodau lleol fel gwobr am eu cyfraniad at ddatblygiad economaidd. Dyfarnwyd cyfran o £321.698 i’r Cyngor.

25. Fel cyfanswm bydd y Cyngor yn derbyn grantiau cyffredinol o £152,012,815 oddi wrth Lywodraeth Cynulliad Cymru.

yn ôl i'r brig

Treth y Cyngor

26. Ar ôl ystyried y grantiau cyffredinol a chyfraniad gweddillion, mae gweddill y gwariant clir o £41,864,327 yn aros i’w gyllido gan drethdalwyr y cyngor.

27. Y bwriad yw codi rhan o gost goleuo palmentydd fel traul arbennig ar y pedair ardal gymunedol o fewn y dref (£3.83 ar gyfer band D).

28. Ar ôl addasu am dreuliau arbennig o £60,767 y gweddill i’w gael fel treuliau cyffredinol gan drethdalwyr y cyngor yw £41,803,560.

29. Cytunodd y Bwrdd Gweithredol ar gyfrifiad sail treth y cyngor ar 20 Tachwedd 2007 ar gyfer 2008/09, fel 51,351 eiddo cywerth â band D ar ôl ystyried:

  • gostyngiadau band i’r anabl
  • eiddo a eithriwyd
  • gostyngiadau deiliaid unigol
  • gostyngiadau dwbl ar eiddo gwag
  • ffactorau i adlewyrchu tâl cymharol y gwahanol fandiau
  • amcangyfrif o’r gyfradd gasglu
  • cyfraniadau yn gyfnewid oddi wrth y Weinyddiaeth Amddiffyn Adeiladwyd y sail drethi gyflawn o’r un cyfrifiadau ar gyfer pob un o’r 34 ardal gymunedol ac mae’r “cywerthoedd band D” yn cael eu dangos yng Ngwybodaeth Treth y Cyngor 2008-09 (gweler isod).

30. Bydd rhannu gweddill y gwariant clir (£41,803,560) â’r sail drethi o 51,351 yn rhoi tâl o £814.08 i’w ysgwyddo gan bob aelwyd sy’n talu’n llawn sydd â chartref gyda gwerth band D. O ran eiddo band A mae’r taliad yn chwe nawfed ran o’r ffigur hwn drwodd i eiddo band I lle mae’r taliad yn un ar hugain nawfed ran o’r ffigur band D. Mewn llawer achos bydd y ffigurau hyn yn cael eu haddasu ar gyfer yr anabl a gostyngiadau eraill ac, wrth gwrs, budd-dal treth cyngor.

31. Mae Gwybodaeth Treth y Cyngor 2008-09 yn cyflwyno cyfradd treth y cyngor i’r trethdalwr band D yn ardal pob cyngor cymuned ac mae’n dangos, ar ôl cynnwys archebiant yr heddlu, mai cyfanswm treth y cyngor band D ar gyfartaledd ar gyfer 2008/09 yw £1,034.53.

yn ôl i'r brig

Dangosyddion Darbodus

32. Mae Cod Ymarfer Darbodus y Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth (CIPFA) yn gofyn bod y Cyngor yn mabwysiadu dangosyddion sy’n dangos bod cynlluniau cyfalaf y Cyngor yn fforddiadwy, yn ddarbodus ac yn gynaliadwy.

Diweddglo

33. Mae setliad ariannol y Cynulliad ar gyfer 2008/09 ond yn rhoi’r gallu i’r Cyngor bennu cyllideb sy’n cynnwys ymrwymiadau anochel ynghyd â phwysau gwario cyfyng ar wasanaethau. Fodd bynnag, gwnaed pob ymdrech i ddiogelu gwasanaethau gofal cymdeithasol ac ysgolion yn ystod paratoi’r gyllideb hon.

34. Mae Deddf Llywodraeth Leol 2003 yn gofyn bod y Cyngor yn cadw golwg ar ei gyllideb a chymryd camau priodol. Felly, bydd angen arolygu a rheoli’r gyllideb yn fanwl yn ystod y flwyddyn a bydd angen adolygu’r sefyllfa ariannol yn barhaol.

35. Yn olaf, rwy’n dal yn ddiolchgar iawn i’r holl Aelodau a Swyddogion am eu cymorth, cydweithrediad a gwaith caled wrth gynorthwyo paratoi’r gyllideb hon.

M S OWEN
PRIF SWYDDOG CYLLID A PHERFFORMIAD

yn ôl i'r brig

Côd Ymarfer Cyfrifeg Gwerth Gorau

1. Ail-ffurfiwyd y cyllidebau arian cyfyngedig yng ngholofn (i) ar Gyllideb Refeniw 2008-09 i gydymffurfio â’r Cod Ymarfer Gwerth Gorau (BVA ACOP). Mae hyn yn effeithio’n arbennig ar gostau canolog a gwasanaethau cefnogi.

2. Bu’n rhaid codi’n llawn am gostau cynnal canolog ac adrannol ar y gwasanaethau y maent yn eu cefnogi. Caiff hyn ei adlewyrchu trwy ychwanegu colofn (j) ar Gyllideb Refeniw 2008-09 yng nghorff tudalennau’r gyllideb.

3. Dylid nodi y codwyd yn llawn ar adrannau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol, Dylunio Eiddo, Cyllid a Pherfformiad a Systemau Gwybodaeth a’u bod yn dangos cyllidebau clir o ddim.

4. Fel rhan o’r Cod, ad-drefnwyd y costau canolog fel a ganlyn:

  • Craidd Corfforaethol a Democrataidd (gan gynnwys Cynrychiolaeth a Rheolaeth Ddemocrataidd a Rheolaeth Gorfforaethol)
  • Costau Annosbarthedig (gan gynnwys Costau Gwasanaethu Blaenorol a chostau cysylltiedig â chyfrannau diddefnydd rhannu o gyfleusterau TG)
  • Gwasanaethau Canolog i’r Cyhoedd (gan gynnwys costau casglu Treth y Cyngor, Crwneriaid, Cofrestru Etholiadol ac ati)
  • Incwm a Gwariant Gweithredu Arall (gan gynnwys ardollau o gyrff eraill a chodi cyfalaf).

5. Yn amlwg mae’r rhain yn newidiadau sylweddol dros ben ond mae grym gwario sylfaenol gwasanaethau’n aros yn union fel y cymeradwywyd gan y Cyngor. Un o brif ddibenion y newid yw caniatáu mwy o gyffelybrwydd rhwng awdurdodau yn y dyfodol.

yn ôl i'r brig


Cyllideb Refeniw 2008/09

Mae'r ddogfen yma ar gael i ddadlwytho yn y fformat isod:

Cyllideb Refeniw 2008/09 - Fersiwn PDF - 9Kb

Gwybodaeth Treth y Cyngor 2008/2008

Mae'r ddogfen yma ar gael i ddadlwytho yn y fformat isod:

Gwybodaeth Treth y Cyngor 2008/2009 - Fersiwn PDF - 6Kb


I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Cyswllt o llun hon i wefan Adobe i ddadlwytho Adobe Acrobat Reader

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Gwasanaeth Newid Abobe.

 
English
 

Cyswllt i

Cyflwyniad
Arolwg o'r Flwyddyn Bresennol
Dyfarniad Cyllid y Cynulliad
Cyllideb
Dangosyddion Darbodus
Diweddglo
Côd Ymarfer Cyfrifeg Gwerth Gorau
Cyngor


Lawrlwytho'r Gwybodaeth Cyllideb
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 


CBSW
Hawlfraint