Asymmetrical Digital Subscriber Line (ADSL)
'Asymmetrical Digital Subscriber Line'; sef y ffurf fwyaf cyffredin o fynediad band eang a ellir ei drosglwyddo dros y llinell ffôn ac sydd ar gael drwy uwchraddio cyfnewidfeydd ffôn. Oherwydd ei fod yn anghymerur mae'n ymelwa ar natur unffordd mwyafrif y cyfathrebiadau amlgyfrwng lle bo llawer iawn o wybodaeth yn llifo tuag at y defnyddiwr ac ychydig iawn o wybodaeth rheoli rhyngweithiol yn cael ei dychwelyd.
Ystod
Faint o ddata electronig y gellir ei gludo ar unrhyw bryd h.y. cyflymder. Po fwya'r cyflymder o'ch cysylltiad â'r Rhyngrwyd, po fwyaf y 'bandwidth'. Bydd angen 'ystod uchel ar gymwysiadau busnes, lawr lwytho ffeiliau neu lawr lwytho amlgyfryngau.
Band Eang
Cysyllitad digidol â'r rhyngrwyd sydd â chyflymder uchel a 'bandwidth uwch na 512 Kbps sydd bob amser arnodd.
Band Eang Gwifren
Gwifren cynhwysedd uchel sydd wedi ei gysyllu i gartrefi a busnesau unigol gan gwmniau gwifren, mewn ardaloedd trefol fel rheol. Mae defnyddio modem gwifren yn caniatáu i ddefnyddwyr gael mynediad at y rhyngrwyd yn ogystal â sianeli teledu o ansawdd.
Rhyngrwyd Deialu
Mynediad at y rhyngrwyd drwy wneud galwad ffôn gyffredin. Sefydlir a chedwir cysylltiad deialu am gyfnod cyfyngedig. Gellir ond trosglwyddo data (i fwyafswm o 56 Kbps) cyfyngedig yn unig.
DSLAM
Digital Subscriber Line Access Multiplexer. Mae hwn yn declyn a arsefydlir mewn cyfnewidfa ffôn sy'n cysylltu cylched ADSL â'r rhwydwaith BT.
IP
IP neu Internet Protocol yw'r ffordd yr anfonir data rhwng cyfrifiaduron ar y rhyngrwyd. Os ydych yn dymuno anfon neu dderbyn data yna fe'i rhennir yn rannau llai a adnabyddir fel 'pecynnau'IP. Bydd pob 'pecyn' yn cynnwys cyfeiriad yr un sy'n anfon a chyfeiriad yr un sy'n derbyn y neges a flaenyrrir gan gadwyn o gyfrifiaduron hyd nes y byddant yn cyrraedd eu cyrchfan.
ISDN
Integrated Services Digital Network. Mae ISDN fel arfer yn cynnig cysylltiad gyda chyflymder o 128Kbps fan bellaf. Mae'r dechnoleg ar gael yn gyffredinol mewn sawl ardal, er ei fod yn llai poblogaidd wrth i Band eang a'i debyg ddod yn rhatach.
ISP
Internet Service Provider, h.y. cwmni sy'n darparu mynediad i'r rhyngrwyd.
Mbps a Kbps
Mesur o faint o wybodaeth electronig a drosglwyddir dros gysylltiad rhyngrwyd. Mae 1Mbps yn un Megabeit (million o bitiau) yr eiliad tra fo 1Kbps yn un Kilobit (mil) yr eiliad.
Microhidlydd
Taclau y mae'n rhaid eu cysylltu at bob soced ffôn ac estyniadau i'r llinell ffôn i sicrhau nad yw'r signal ADSL ar y llinell ffôn yn ymyrryd â galwadau ffôn llais.
Modem
Byrfodd sy'n deillio o mo dulator/ dem odulator, mae modem yn declyn ar gyfer cysylltu cyfrifiaduron drwy'r rhyngrwyd.
PSTN
Y cysylltiad bydeang o rwydweithiau ffôn lleisiol cyhoeddus sy'n ryng-gysylltiol, yn fasnachol neu'n eiddo i'r llywodraeth a elwir yn Public Switched Telephone Network.
Band eang Lloeren
Dull bandwidth uchel i gael mynediad at y rhyngrwyd a ddefnyddir mewn ardaloedd gwledig gan fwyaf, pan fo dulliau eraill yn aflwyddiannus neu'n anymarferol. Mae'n gweithredu ar yr un egwyddorion â teledu lloeren.
SDSL
'Symmetrical Digital Subscriber Line'; math o gysylltiad band eang a ddefnyddir i drosglwyddo gwybodaeth 'ystod' uchel dros linellau ffôn cyffredin i gartrefi a busnesau bychain. Mae'r gyfradd data ar SDSL yr un fath yn y ddau gyfeiriad (llifo ar i mewn ac ar allan) ac felly'n gymesur. Am y rheswm hwn, mae well gan rai pobl y dechnoleg hon nag ADSL- yn arbennig ymysg defnyddwyr busnes.
Ar allan /Ar i mewn
Mae hyn yn cyfeirio at drosglwyddo data. Os yw data yn teithio o'r defnyddiwr i'r gweinyddwr gwybodaeth yna maen teithio ar allan ac os yw'r data'n cael ei drosglwyddo o'r gweinyddwr gwybodath at ben y defnyddiwr yna mae'n teithio ar i mewn. Er enghraifft mae ADSL yn addas iawn ar gyfer pori ar y we gan ei fod yn galluogi 'ystod' uchel ar i allan, ond 'ystod' cul ar i mewn.
VPN
Mae Virtual Private Network yn ddull o ddefnyddio'r rhyngrwyd i gael mynediad diogel i ddefnyddwyr unigol neu swyddfeydd unigol at rwydwaith eu cwmni.
Band eang radio
Technoleg sy'n galluogi defnyddwyr o fewn ardal i gael mynediad at y rhyngrwyd drwy amleddau radio. Cynigir yn bennaf gan ddarparwyr gwasanaethau arbenigol. Mae band eang radio yn ardderchog ar gyfer tanysgrifwyr mewn ardaloedd anghysbell fel y gallant gysylltu â rhwydwaith heb osod gwifrau ar draws cefn gwlad.
|