Y Cynllun Broceriaeth Band Eang
Mae’r Cynllun Broceriaeth Band Eang, a ddatblygwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru mewn partneriaeth â Gwylfa Band Eang Cymru, yn gynllun newydd a gynlluniwyd i ganiatáu i drigolion a busnesau ‘ddweud eu dweud’.
Yn ei hanfod, mae’r cynllun yn gyfleuster cofrestru ar gyfer defnyddwyr preifat, busnesau a chyrff gwirfoddol i gofrestru galw posibl am y band eang sylfaenol (512kps), lled band uwch a gwasanaethau cymesur (SDSL).
Prif nodau’r Cynllun Broceriaeth Band Eang yw:
- ategu at yr ‘achos busnes’ i fynnu bod darparwyr isadeiledd a llywodraeth yng Nghymru’n buddsoddi mewn band eang
- nodi galw anfodlon/heb ei fodloni ymysg defnyddwyr, busnesau a chyrff gwirfoddol ar gyfer band eang ‘genedlaeth gyntaf’ h.y. gwasanaethau anghymesur â chyflymdra rhwng 512kbps a 2Mbps
- nodi galw anfodlon/heb ei fodloni ymysg defnyddwyr, busnesau a chyrff gwirfoddol am fand eang ail genhedlaeth h.y. gwasanaethau cymesur ac anghymesur â chyflymdra rhwng 2Mbps a 10 Mbps
I wybod mwy am y cynllun a sut i gofrestru eich diddordeb, ewch i’r cyswllt gwe ar gyfer Gwylfa Band Eang Cymru isod.
www.abec.org.uk - (Cyswllt allanol)
|