Y Cyngor

Y Cyngor (52 aelod)

Mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam 52 o gynghorwyr, sy’n cynrychioli 47 o wardiau. Fe’u hetholir yn ddemocrataidd bob pedair blynedd, a byddant yn ffurfio’r corff sy’n gwneud y penderfyniadau eithaf. Bydd holl elfennau eraill y strwythur yn deillio o’i awdurdod.

Edrych ar Weledigaeth a Gwerthoedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Rheolaeth Wleidyddol y Cyngor

Cyn i’r Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 ymddangos, cymeradwyodd y Cyngor strwythurau rheolaeth wleidyddol newydd a oedd yn cynnwys:

Bydd y Maer, sy’n cael ei ethol yn flynyddol, yn cadeirio’r Cyngor ond bydd hefyd yn ymgymryd ag ystod o ddyletswyddau dinesig.

Gweld Cyfansoddiad Gwleidyddol Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Adrannau'r Cyngor

Mae’r Cyngor fel awdurdod unedol yn darparu ystod lawn o wasanaethau awdurdod lleol y mae pobl yn dibynnu arnynt – o ofal cartref i gasglu sbwriel. Mae’r Cyngor yn gweithredu drwy 16 adran, wedi’u trefnu mewn 6 chyfarwyddiaeth – bob un â chyfrifoldeb am weithredu gwasanaethau penodol, i gefnogi amcanion strategol a pholisïau corfforedig y Cyngor.

  • Gwasanaeth Plant a Phobl Ifanc (Addysg)

  • Cludiant a Pheirianneg

  • Adran Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd

  • Cynllunio

  • Datblygu Economaidd

  • Gwasanaethau Amgylcheddol

  • Gwasanaethau Cyllidol

  • Gwasanaethau Cymdeithasol

  • Hamdden, Llyfrgelloedd a Diwylliant

  • Personél

  • Systemau Gwybodaeth

  • Tai

yn ôl i'r brig