Ydych chi’n byw yn llety’r Cyngor?
Ydych chi angen help i reoli’ch cartref?
Gall y Gwasanaeth Cefnogi Tenantiaid helpu.
Os ydych yn symud i gartref Cyngor newydd neu os ydych eisoes yn denant
sy’n teimlo nad ydych yn ymdopi’n dda ar eich pen eich hun,
gallwn ni eich helpu.
Gall y Tîm Cefnogi Tenantiaid roi’r cymorth
sydd ei angen arnoch i fyw bywyd annibynnol.
Beth all y Gwasanaeth Cefnogi Tenantiaid ei wneud?
Gallwn
eich helpu i sefydlu a rhedeg eich cartref drwy droi’r nwy, trydan
a’r dwr ymlaen, dod o hyd i ddodrefn, trefnu rhent a biliau, rhoi
cyngor ar reoli materion ariannol a hawlio budd-daliadau, rhoi cyngor
am yswiriant a gwybodaeth diogelwch a chadw at y cytundeb tenantiaeth.
Fyddwch chi’n fy helpu i ffeindio’m ffordd o gwmpas os
wyf yn newydd i’r ardal?
Byddwn, gallwn ddangos i chi sut i ddod o hyd i siopau a gwasanaethau,
chwilio am waith neu gyrsiau hyfforddi a defnyddio eich amser rhydd.
A all gweithiwr cefnogi tenantiaid roi cymorth mwy arbenigol i mi?
Na all, ond drwy siarad am broblemau, gall eich helpu chi i gael cyngor
arbenigol am bethau fel dyledion, iechyd meddwl, cyffuriau ac alcohol,
cysylltu â’r gwasanaethau cymdeithasol neu gyrff eraill.
Beth sy’n digwydd nesaf?
(Bydd pob cyfeiriad yn destun asesiad a chymeradwyaeth rheolwr).
Cysylltwch a'ch swyddfa
ystadau leol neu cwblhewch ffurflen hunangyfeirio
ar-lein.
Bydd
gweithiwr cefnogi’n cysylltu â chi i drefnu ymweliad. Bydd
yn treulio amser yn siarad am unrhyw broblemau sydd gennych. Bydd yn cytuno
ar ‘gynllun cefnogi’ sy’n dweud wrthych yr hyn y gallwch
ei ddisgwyl a pha mor aml fydd yn ymweld â chi.
Ein nod yw eich cael chi ar eich traed i fyw’n annibynnol. Ymhen
amser, mae’n bosibl na fyddwch ein hangen ond byddwn yn dal i’ch
croesawu os teimlwch y bydd angen help arnoch yn y dyfodol.
Os oes gennych ddiddordeb ac yr hoffech wybodaeth bellach, cwblhewch
y ffurflen hunangyfeirio neu cysylltwch â
Cydlynydd Cefnogi Tenantiaid, ar 01978 315439.
|