Croeso i wybodaeth am dai cysgodol yn Wrecsam. Cynlluniwyd y tudalennau hyn i roi gwybodaeth i chi a’ch teulu am gynlluniau tai cysgodol.
Mae ar gyfer unrhyw un sydd â diddordeb yn y math hwn o lety, boed yn denant nawr neu’n rhywun sy’n dymuno mwy o wybodaeth cyn penderfynu a ddylent ymgeisio am lety cysgodol.
Sut fyddech chi’n ateb y cwestiynau hyn?
- Ydych chi o oed ymddeol?
- Ydych chi’n mwynhau eich annibyniaeth ond yn cael budd o gael rhywun i alw mewn argyfwng?
- Ydych chi’n mwynhau cymysgu gyda phobl eraill pan y dymunwch?
- Ydy’r eiddo lle rydych yn byw nawr yn rhy fawr i chi?
- Ydych chi wedi ystyriad llety cysgodol?
Beth yw Llety Cysgodol?
Mae’n grwp neu’n ‘gynllun’ o anheddau heb ddodrefn a gynlluniwyd gydag anghenion pobl hyn mewn golwg. Nid yw’r un fath â chartref preswyl neu nyrsio ac mae gan bob tenant ei fflat, fflat un ystafell neu fyngalo ei hun.
Mae warden a chanolfan larwm gymunedol yn darparu gwasanaeth 24 awr mewn achos argyfwng.
Mae 22 chynllun tai cysgodol ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam.
Ewch i’n llyfryn Springfield
Ewch i’n llyfryn Springfield - Fersiwn Word 5.7Mb 
Ewch i’n llyfryn Springfield - Fersiwn PDF 431Kb 
I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Accessible Adobe® Reader.
yn ôl i'r brig
Beth mae’n ei gynnig?
Mae rhai gwahaniaethau rhwng cynlluniau tai cysgodol. Fodd bynnag, maent yn cynnig y rhan fwyaf o’r canlynol fel arfer:
- Fflatiau, fflatiau un ystafell neu fyngalos gyda’u ceginau eu hunain, wedi eu haddurno’n llawn
- Mae gan y rhan fwyaf ystafell i westeion a gall y warden wneud trefniadau os oes gan denantiaid berthynas neu ffrind agos sy’n dymuno aros am noson neu fwy. Nid oes tâl am yr ystafell hon.
- Mae lolfa gyffredin ar gael ar gyfer gweithgareddau cymdeithasol a hamdden tenantiaid, am adloniant fel bingo, nosweithiau cwisiau a chymdeithasu, partïon neu fel lle i gyfarfod a siarad.
- Ystafelloedd golchi dillad â pheiriannau golchi a sychu am ddim. Mewn rhai cynlluniau, mae rota ar gyfer defnyddio’r peiriannau.
- Wardeiniaid sy’n byw yn yr eiddo neu gerllaw.
- Lifft neu lifft grisiau. Mae gan y rhan fwyaf o’r cynlluniau un o’r rhain i helpu pobl sy’n cael problemau wrth ddefnyddio’r grisiau.
- Cyfleusterau ymolchi i bobl anabl.
- System larwm yn rhoi cyswllt uniongyrchol o bob fflat a man cyffredin i’r warden. Os nad yw’r warden ar ddyletswydd, bydd y ganolfan larwm gymunedol a gynhelir gan Gyngor Wrecsam yn cysylltu â pherthnasau neu’r gwasanaethau brys.
yn ôl i'r brig