Llamu Cysylltiadau    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd

Pan Fyddwch yn Symud i Mewn

 

Byddwn yn sicrhau bod yr eiddo mewn cyflwr glân a bod holl wastraff a sbwriel wedi cael ei symud o’r tu mewn ac o ardd yr eiddo.

Byddwn yn sicrhau bod gwaith trwsio’n cael ei wneud i’r safon ‘osod’ newydd, ac mae manylion honno yn y pecyn ymuno, o fewn amserlenni a gytunwyd a/neu ddyddiad apwyntiad.

Fel arfer byddwn yn rhoi taleb addurno sy’n helpu tuag at gost addurno’r eiddo. Os dyluniwyd yr eiddo’n arbennig ar gyfer pobl gydag anabledd neu bobl hŷn, byddwn yn ei addurno fel arfer cyn iddynt symud i mewn.

Os gofynnwch i ni, byddwn yn gosod ffitiad bidog ar gyfer popty nwy ar ddechrau eich tenantiaeth, ond bod cyflenwad nwy i’r eiddo eisoes.

Fel arfer ni sy’n gyfrifol am unrhyw osodion neu ffitiadau a osodwyd eisoes oddi mewn neu oddi allan i’r eiddo cyn i chi symud i mewn. Mae rhai eithriadau fel pan fydd cyfnewid yn digwydd.

Chi sy’n gyfrifol am fân waith trwsio, yn ôl y rhestr isod, ond efallai y gallwn helpu os ydych dros 60 oed neu’n ddifrifol anabl.

  • plygiau a chadwyni ar y sinc, bath a basn ymolchi
  • seddau a chaeadau toiled
  • leiniau dillad a sychwyr tro (heblaw mewn iardiau ar y cyd)
  • gwaelodion grât cyn pen 12 mis ar ôl adnewyddu
  • newid cloeon os byddwch yn colli allweddi
  • cost cael mynediad os ydych yn cloi eich hun allan
  • profi larymau mwg
  • os gosodwyd synhwyrydd mwg batri cysylltwch â gwaith trwsio ar radffôn 0800 0855 808 i drefnu i gael ei newid i brif gyflenwad

Yn ogystal â’r uchod rydych yn gyfrifol am wneud gwaith trwsio i unrhyw un o’n gosodion a ffitiadau a ddifrodwyd gennych chi, rhywun yn byw gyda chi (gan gynnwys plant) neu unrhyw ymwelwyr. Os byddwn yn gorfod trwsio difrod, a wnaethoch chi neu hwy, byddwch yn gorfod talu costau’r gwaith hyd yn oed oes ydych dros 60 oed neu’n ddifrifol anabl.

Chi sy’n gyfrifol am drwsio a/neu gynnal unrhyw osodyn neu ffitiad os mai chi a dalodd amdano a’i osod.

 
English
 

Cysylltiadau Defnyddiol

Atgyweirio
Hysbysu Atgyweirio
Trfn Apwyntiadau
Allan o Oriau
Gofyn Am Atgyweirio Ar-lein
Pan Fyddwch yn Symud i Mewn
Cael Gwneud yn Atgyweirio
Mynediad
Categorïau Atgyweirio
Iawndal
Cyfrifoldebau
Gofalu am Eich Ffenstri Plastig Newydd
Addurno
Erialau Teledu Cymunedol
Atgyweirio i Godi Amdano
Ein Hymrwymiad i Ansawdd Atgyweirio
Diogelwch
Mynegai Tai
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 


CBSW
Hawlfraint