Diogelwch Nwy
Yn ôl y gyfraith rhaid i ni wasanaethu ein taclau nwy bob blwyddyn. Er mwyn cydymffurfio â’r rheoliadau mae angen i ni sicrhau bod diogelwch pibelli, offer a, phan fo hynny’n berthnasol, eu ffliwiau yn cael i gadarnhau ar gyfnodau o ddim mwy na 12 mis.
Rydym hefyd yn gyfrifol am wneud archwiliad diogelwch nwy bob blwyddyn ym mhob eiddo sydd â chyflenwad nwy. Mae hyn yn cynnwys cadarnhau eich offer chi.
Pryd bynnag y gallwn, byddwn yn rhoi 24 awr o leiaf o rybudd i chi. Byddwn yn gwneud trefniant gyda chi.
Nwy'n Gollwng
Os ydych yn amau bod nwy’n gollwng dylech ddiffodd y teclyn a’r cyflenwad nwy wrth y mesurydd a chysylltu â TRANSCO ar unwaith. Rhif argyfwng TRANSCO yw 0800 111 999.
- PEIDIWCH â gweithredu unrhyw switshis ar daclau trydanol.
- Agorwch ffenestri i adael i’r nwy wasgaru a diffoddwch danau, fflamau agored a sigaréts.
Bydd TRANSCO’n ceisio gweld lle mae’r nwy’n gollwng a gwneud gwaith trwsio ar unwaith os yw’n hawdd ei wneud. Os oes angen gwaith helaethach bydd TRANSCO’n capio’r cyflenwad. Yna dylech hysbysu’r Cyngor fydd yn trefnu i gael gwneud y gwaith angenrheidiol mor fuan ag y bo modd wedyn.
Diogelwch Trydanol
Mae modd osgoi’r rhan fwyaf o ddamweiniau’n cynnwys trydan wrth ddilyn y rheolau syml canlynol:
- peidio fyth â gwifro mwy nag un teclyn i un plwg
- defnyddio addaswyr yn unig ar gyfer eitemau llwyth isel fel lampau bwrdd, radios, clociau larwm ac ati
- peidio â mynd â thaclau trydanol i’r ystafell ymolchi
- peidio fyth â chyffwrdd unrhyw declyn trydanol gyda dwylo gwlyb
- tynnu plygiau offer bob amser pan nad ydynt yn cael eu defnyddio
- peidio fyth â rhedeg fflecs i declyn trydanol dan garped am na fyddwch yn gwybod os bydd y cebl yn rhwbio
- newid fflecsys sydd wedi rhwbio ar unwaith
- sicrhau bod ffiws cywir ym mhlwg pob teclyn
- peidio â chuddio uned y defnyddiwr (blwch ffiwsiau) – gallwn fod angen mynd ato’n gyflym a rhwydd mewn argyfwng
- er mwyn eich diogelwch eich hun, mae’n hanfodol eich bod yn gosod torrwr cyswllt ar y soced plygiau wrth ddefnyddio unrhyw declyn neu beiriant yn yr awyr agored e.e. tociwr gwrychoedd, peiriant torri gwair, strimiwr ac ati
Tanwydd Soled
Defnyddiwch danwydd cymeradwy’n unig sy’n addas ar gyfer eich teclyn (bydd eich gwerthwr glo’n eich cynghori pa danwydd sy’n addas). Yr argymhelliad yw defnyddio tanwydd di-fwg. Ni ddylech ddefnyddio golosg petrolewm oherwydd y gall hyn arwain at ddifrodi’r teclyn a gorfod codi arnoch am ei drwsio.
Defnyddiwch warchodwr tân bob amser pan fo plant yn bresennol neu pan nad oes neb y gwylio’r tân. Cofiwch y gall dŵr poeth fod yn boeth iawn yn enwedig pan fo rheiddiaduron y gwres canolog wedi cael eu diffodd. Mae’n ddoeth peidio â defnyddio’r twymwr tanddwr pan fo’r tân yn llosgi.
Cofiwch sicrhau bob amser nad oes dim yn rhwystro’r twll awyr yn y mur. Dylid ysgubo eich simnai bob 6 mis. Os byddwch yn meddwl bod yr ysgubwr yn hwyr, cysylltwch â gwaith trwsio am ddim - rhif ffôn 0800 0855 808.
|