|
Ni sy’n gyfrifol am gynnal adeiledd a thu allan eich cartref.
Byddwn yn trwsio:
- toeau, sylfeini, muriau allanol, drysau allanol
- draeniau, landeri, pibelli allanol
- fframiau ffenestri, siliau ffenestri
- llwybrau, grisiau, mynedfeydd eraill i’r adeilad, ffensys
- simneiau, cyrn simnai
Oddi mewn i’ch cartref byddwn yn trwsio:
- ffitiadau’r gegin a’r ystafell ymolchi – basnau, sinciau, toiledau a baths.
- drysau a fframiau mewnol, byrddau sgertin, cypyrddau cegin.
- offer gwresogi, taclau nwy ac offer twymo dŵr.
- gwifrau trydanol, socedi plygiau, offer golau, switshis.
Mewn ardaloedd cyffredin adeiladau fflatiau byddwn yn cynnal:
- grisiau, coridorau, mynedfeydd
- cyfleusterau ar y cyd gan gynnwys erialau teledu, systemau agor drws, llithrenni sbwriel, lifftiau, goleuadau’r ardal gymunedol
Rydym yn dilyn cyfarwyddyd Llywodraeth Cynulliad Cymru (sy’n ein rheoleiddio) wrth reoli eich cartref. Mae Siarter y Tenantiaid hefyd yn berthnasol i’r cytundeb hwn. Gofynnwch i’ch swyddfa dai leol am fanylion.
|