| |
|
|
|
|
 |
Categorïau Atgyweirio |
|
|
|
|
| |
|
Mae amser pob categori’n dechrau o’r adeg gyntaf y byddwch yn hysbysu atgyweirio.
GWAITH ARGYFWN targed cwblhau o fewn 24 awr a dim archwiliodd o flaen llaw.
Yma mae’r holl eitemau allai beryglu bywyd a’r adeilad ei hun.Colli trydan / goleuadau
- Colli gwresogi
- Colli dŵr
- Colledion dŵr yn yr eiddo
- Diogelu eiddo
- Draeniau wedi tagu
- Toiled wedi tagu os mai dim ond un sydd mewn eiddo
- Toiled pobl oedrannus ac anabl heb fod yn llifolchi
- Ailosod canllawiau rhydd
- Nwy (dim cyflenwad, tân / twymwr dŵr os nad oes dewis arall)
- Synhwyro mwg / carbon monocsid
Back to top of page
GWAIT TRWSIO BRYS targed cwblhau o fewn 7 diwrnod calendr fan bellaf.
- Sinc, bath, basn ymolchi, toiled wedi tagu
- Trwsio tapiau / falfiau cau lle bydd ffitiadau’n dal i redeg
- Ailosod estyll rhydd, wedi torri neu wedi pydru
- Gwaith trwsio trydanol cyffredinol ar socedi golau, switshis, colli trydan yn rhannol, elfennau tanau a gwresogyddion / ffaniau gwagio.
- Pibelli gwastraff ffitiadau mewnol yn gollwng
- Sisternau llifolchi toiledau heblaw pensiynwr / pobl anabl
- Trwsio systemau agor drws
- Systemau erial teledu cymunedol
- Gorlifoedd
- Draeniau dŵr arwyneb wedi tagu (priffyrdd / draenio)
- Offer gwresogi diffygiol – tanau agored yn unig (lle bo gwresogi arall mae ar gael)
- Toeau’n gollwng gan gynnwys selau plwm a thoeau fflat
- Gwaith ar lwybrau pobl oedrannus ac anabl (perygl baglu)
- Ail-wydro (lle bo’r eiddo’n ddiogel) – gwydr sengl yn unig
- Newid tapiau
- Trwsio / newid cloeon drysau allanol a ffenestri
- Trwsio drysau gan gynnwys drysau modurdai
- Pibelli dan ddaear yn gollwng
- Diogelu eiddo gwag
- Nwy (gwres canolog / tân / twymwr dŵr os oes dewis arall ar gael)
- Newid seddau toiledau pensiynwyr / pobl anabl
Back to top of page
GWAITH TRWSIO HEB BRYS - targed cwblhau 60 diwrnod (archwilio o flaen llaw o fewn 5 diwrnod sydd ei angen).
- Muriau terfyn
- Bricwaith
- Potiau simnai
- Ardaloedd cymunedol (ar y cyd) mewn fflatiau
- Cypyrddau
- Lleithder neu anwedd
- Drysau
- Pibelli glaw
- Byrddau diferu
- Trwsio / paentio gwaith coed allanol
- Ffasgia / byrddau bondo
- Ffensys
- Selau plwm
- Lloriau (ac eithrio lloriau pren)
- Newid drysau modurdy
- Adwyau a physt adwyau
- Landeri
- Twymwr tanddwr
- Ffitiadau cegin
- Pyst leiniau dillad
- Tai allan
- Llwybrau (ac eithrio pensiynwyr / pobl anabl)
- Plaster
- Rendro
- Ailweirio trydanol
- Sinciau
- Unedau sinc
- Byrddau sgertin
- Cloeon drysau mewnol / cliciedau / cytiau
- Ffenestri
- Dysglau toiled – newid
- Basnau ymolchi – newid
- Balwnau gwifren ar bibelli carthion
- Cownteri
- Teils mur / teils llawr
- Newid unedau gwydr dwbl
GWAITH TRWSIO HEB YMATEB – targed cwblhau 6 mis.
Gwaith gwelliant e.e.:
- Adnewddu ardaloedd mawr o ffensys
- Adnewddu llwybr
- Adnewddu landeri, ffasgia i’r / byrrddau bondo / i’r eiddo
- Ailrendro tai
- Adnewyddu canopis
Arweiniad yw’r rhestri uchod o bryd y gallwch ddisgwyl cael gwneud gwaith trwsio. Mae gan y Rheolwr Ardal / Gwasanaethau’r Cwsmer hawl i newid blaenoriaeth pan fo’r amgylchiadau’n gofyn. I gael gwybodaeth fwy penodol am waith trwsio, defnyddiwch y rhif rhadffon 0800 0855 808.
Ar ôl i with trwsio gael ei wneud, cofiwch ateb a dychwelyd yr holiadur trwsio rhagdal i ni. Rydym yn croesawu eich barn ar ansawdd y gwasanaeth trwsio gan ein bod yn ymrwymo i welliant parhaol.
|
|
|
|
|
|
|