|
Mae’r amser i wneud gwaith trwsio’n dibynnu ar y math o drwsio sydd ei angen. Mae gennym 4 blaenoriaeth trwsio: Argyfwng, targed cwblhau hyd at 24 awr; Brys, targed cwblhau hyd at 7 diwrnod; Heb Brys - hyd at 60 diwrnod a heb ymateb, targed hyd at 6 mis.
Dan amgylchiadau eithriadol, e.e. lle bydd rhywun hŷn neu ddifrifol anabl yn byw yno mae modd rhoi blaenoriaeth uwch i waith trwsio.
Ni fydd swyddog trwsio’n yn arferol galw i edrych ar drwsio argyfwng neu frys sy’n gorfod cael ei orffen o fewn 7 diwrnod. O ran heb brys bydd y gwaith naill ai’n cael ei archwilio o flaen llaw neu’n cael ei wneud gan staff y Gwasanaeth Cynnal Symudol gan ddefnyddio stoc o’u cerbydau.
|