Hawl i Atygweirio
Ein nod yw gwneud holl atgyweirio i safon dda o fewn amserlenni blaenoriaeth. Os ydym wedi methu gwneud atgyweirio arbennig mewn amser penodol a chithau wedi rhoi mynediad rhesymol i ni, yna gallwch ddefnyddio eich ‘Hawl i atgyweirio’ cyfreithiol.
Cynllun yw’r ‘Hawl i atgyweirio’ sy’n sicrhau bod mân atgyweirio brys penodol, all effeithio ar eich iechyd, diogelwch neu sicrwydd, yn cael ei wneud yn gyflym ac yn ddiogel.
Enw’r atgyweirio hwn yw atgyweirio Cymhwysol ac mae’n gyfrifoldeb y Cyngor:
- socedi trydan neu oleuadau neu ffitiadau trydanol anniogel
- ffliw tân agored neu fwyler wedi tagu
- to’n gollwng
- toiledau’n gwrthod llifolchi
- sinc, bath neu fasn wedi tagu
- pibelli dŵr, tanciau neu sistern yn gollwng
- ffyn canllaw neu ganllawiau’n rhydd neu wedi torri
Pan fyddwch yn hysbysu unrhyw atgyweirio byddwch yn cael derbynneb. Bydd hon yn dweud wrthych ba Gontractwr fydd yn gwneud y atgyweirio a phryd y dylid cwblhau’r gwaith. Os nad yw’r Contractwr cyntaf yn gwneud y atgyweirio mewn pryd, gallwch gysylltu â’r rhif rhadffon 08000 855 808 a gofyn am ail Gontractwr i wneud y gwaith. Mae gan yr ail Gontractwr yr un amser â’r cyntaf i orffen y atgyweirio.
Mae’r cyfnod diwrnod gwaith ar y Rhybudd Trwsio’n dechrau ar y diwrnod ar ôl derbyn yr adroddiad. ‘Nid yw penwythnosau’n cyfrif fel diwrnodau gwaith.’ Mewn achosion o argyfwng liw nos a thros y penwythnos cofiwch ffonio rhadffon 0800 0855 808.
Os yw’r ail Gontractwr yn methu gwneud eich gwaith trwsio mewn pryd gallwch hawlio iawndal. Am bob diwrnod ychwanegol y byddwch yn aros, fe gewch daliad hyd at uchafbwynt yr iawndal a bennwyd. Byddwn yn talu iawndal i chi oni bai fod arnoch chi unrhyw arian i ni. Os oes, byddwn yn ei dynnu o’r swm sydd arnoch.
Mae gwybodaeth a thaflen ar yr ‘Hawl i atgyweirio’ ar gael o’ch Swyddfa Dai leol neu drwy ffonio Rhadffon 0800 0855 808.
Iawndal am Ddifrod
Efallai y gallwch hawlio digollediad gan y Cyngor os difrodwyd eich pethau yn ystod gwaith trwsio, neu oherwydd eich bod wedi hysbysu problem a’n bod ni heb ddod i’w thrwsio o fewn ein hamserlenni.
Ni fyddwn yn talu iawndal os nad arnom ni oedd y bai – er enghraifft allwch chi ddim hawlio os yw pibell yn byrstio a’r dŵr yn difetha carped ar unwaith, ond efallai y gallwch hawlio os byddwch wedi hysbysu pibell yn gollwng ar unwaith a bod difrod ychwanegol am na wnaethom ymateb o fewn ein hamserlenni.
Byddwn yn delio â’ch hawliad yn gyflym, ond byddwn yn ymweld â’ch cartref i weld y difrod, ac yn ymchwilio i’r amgylchiadau’n llawn i weld ai ni sydd ar fai. Wnaethoch chi hysbysu’r gwaith trwsio ar unwaith er enghraifft? Oedd yna rywun gartref pan ddaethom i’w wneud? A gymrodd y gweithiwr trwsio ofal rhesymol i osgoi difrod? Os credwch y gallwch hawlio iawndal?
Gofynnwch yn eich Swyddfa Dai leol i gael rhagor o wybodaeth.
Digolledu am Welliannau a Wnaethoch Chi: Atgyweirio Cymhwysol
Os byddwch yn gadael eich tŷ cyngor, efallai y byddwch yn gymwys i dderbyn digollediad os ydych wedi gwneud gwelliannau cymhwysol.
Gallwch fod yn gymwys i dderbyn digollediad os ydych wedi gwneud unrhyw un o’r gwelliannau hyn:
- Bath neu gawod
- Basn ymolchi
- Toiled
- Sinc cegin
- Cypyrddau cadw
- Cownteri cegin
- Gwres canolog neu dwymo dŵr
- Falfiau thermostatig rheiddiaduron
- Ynysu pibelli, tanc dŵr neu silindr
- Ynysu llofft
- Ynysiad wal geudod
- Selio drysau allanol a ffenestri rhag drafftiau
- Gwydro dwbl, gwydro eilaidd neu ffenestri newydd eraill
- Ail-wifro ffitiadau trydanol
- Unrhyw waith sy’n gwella sicrwydd y cartref – heblaw larwm byrgler
Gofynnwch yn eich Swyddfa Dai leol i gael rhagor o wybodaeth
Cael Yswiriant!
Y ffordd orau o gael tawelwch meddwl ynghylch eich eiddo yw cael yswiriant cartref da. Gallwch feddwl bod rhentu o’r cyngor yn golygu ein bod yn awtomatig yn yswirio eich dodrefn, meddiannau ac addurniadau. Ond nid dyna fel y mae — ac mae llawer o bobl yn cael eu gadael gyda biliau annisgwyl pan fydd y difrod wedi digwydd. Mae cynllun yswiriant y Cyngor, sy’n cael ei dalu bob wythnos, yn ei gwneud yn hawdd i chi gael yswiriant. Cael gwybod mwy am ein cynllun yswiriant cartref.
|