|
Byddwn yn rhoi derbynneb i chi pan fyddwch yn hysbysu gwaith trwsio.
Byddwn yn cario cardiau adnabod i chi weld pan fyddwn yn galw i archwilio neu wneud eich gwaith trwsio.
Byddwn yn rhoi manylion y gwaith sydd i’w wneud a thrafod unrhyw broblemau all ddigwydd fel bod angen i chi godi carpedi a symud dodrefn cyn gwneud gwaith trwsio.
Byddwn yn dweud wrthych os nad oes modd cwblhau gwaith ar yr un diwrnod, a threfnu gyda chi pryd i ddod i orffen y gwaith.
Byddwn yn gadael cerdyn pawb allan, i chi gysylltu â ni, os na chawsom fynediad i archwilio neu wneud gwaith trwsio ar eich cartref.
Yn ogystal â’r uchod byddwn:
- yn foesgar, cwrtais ac ystyriol bob amser
- yn peidio ag ysmygu yn eich eiddo heb eich caniatâd
|