|
Os bydd swyddog trwsio neu grefftwr yn galw ac yn methu cael mynediad bydd yn gadael cerdyn pawb allan. Mae hwn yn gofyn i chi ateb i ddweud a ydych yn dal i fod eisiau’r gwaith trwsio.
Rhaid i chi adael ein gweithwyr neu bobl a anfonwyd gennym ddod i’ch cartref i edrych ar gyflwr unrhyw ran o’ch cartref, gwneud unrhyw wasanaethu neu archwilio a thrwsio a gwneud gwelliannau i’ch cartref neu eiddo drws nesaf. Peidiwch fyth â gadael i neb ddod i mewn heb weld rhyw ddull adnabod swyddogol. (Os ydych yn amheus o gwbl, cysylltwch â’ch swyddfa dai leol yn ystod oriau swyddfa. Neu gallwch ddefnyddio’r rhif argyfwng 0800 0 855 808 ar adegau eraill). Os nad ydym wedi gallu dod i mewn i’ch cartref, byddwn yn rhoi 24 awr o leiaf o rybudd ysgrifenedig i chi i ddweud pryd fyddwn yn galw. Os ydym yn meddwl bod argyfwng, gallwn ddod i mewn i’ch cartref ar unwaith. Os na fyddwch yn gadael i ni ddod i mewn, gallech fod yn peryglu eich hun a’ch cymdogion. Os achoswyd unrhyw argyfwng gan rywbeth a wnaethoch neu na wnaethoch chi neu rywun dan eich cyfrifoldeb, gallwn godi arnoch am ei gywiro neu unrhyw gostau cysylltiedig.
Gyda diogelwch cartrefi mewn golwg mae ein holl staff neu gontractwyr yn ein cyflogaeth yn cario cerdyn adnabod. Dylech ofyn am gael gweld hyn cyn gadael neb i’ch cartref. Mae cynrychiolwyr cwmnïau nwy, trydan a dŵr i gyd yn cario cardiau adnabod.
Os oes gennych unrhyw amheuon ynghylch rhywun sy’n galw yn eich cartref, peidiwch â gadael iddynt ddod i mewn. Gofynnwch i’ch Swyddfa Dai leol neu ffoniwch yr Heddlu.
|