| |
|
|
|
|
 |
Gwybodaeth i Denantiaid |
|
|
|
|
| |
|
Dim ond rhai tenantiaid yn y sector rhentu preifat y bydd Lwfans Tai Lleol (LTLl) yn effeithio arnynt. Mae LTLl yn decach a hefyd yn rhoi mwy o ddewis ynghylch lle i fyw i denantiaid.
- Telir LTLl yn seiliedig ar faint, cyfansoddiad a lleoliad y teulu. Felly byddai dau deulu mewn sefyllfaoedd tebyg yn yr un ardal yn gymwys i dderbyn yr un swm o LTLl, lle nawr mae pobl sy’n byw mewn eiddo sy’n llai o ran maint ac o ran atyniad yn derbyn llai o fudd na phobl sy’n byw mewn eiddo mwy ac sy’n rhagori o ran atyniad.
- Mae LTLl yn rhoi mwy o ddewis i denantiaid. Gall tenantiaid siopa o gwmpas gyda’i lwfansau a dewis rhwng ansawdd a phris eu llety. Gall tenantiaid ddewis tenantiaet sy’n is na’r raddfa LTLl a chadw budd-dâl hyd at £15 yn uwch na’r LTLl y gellir ei wario ar bethau eraill.
Er enghraifft, codir tâl rhent o £70 yr wythnos ac mae graddfa’r LTLl yn £90 –mae gan y tenant fudd o £85 yr wythnos.
- Bydd tenantiaid yn gwybod ymlaen llaw faint o rent cymwys sy’n daladwy am eiddo, yn wahanol i’r system bresennol lle mae’n rhaid i denantiaid aros am sawl wythnos. Bydd system symlach hefyd yn cyflymu gweinyddu Budd-daliadau Tai.
Talu eich rhent
- Fel arfer telir LTLl yn uniongyrchol i chi a’ch cyfrifoldeb chi fydd talu eich landlord. Gallech gael eich troi allan o’ch eiddo os na fyddwch yn talu eich rhent.
- Os nad oes gennych gyfrif banc eisoes bydd angen i chi agor un. Bydd hyn yn eich galluogi i dalu eich rhent i’ch landlord drwy ddebyd uniongyrchol neu orchymyn banc. Cewch gyngor ynglŷn ag agor a rhedeg cyfrif banc oddi wrth unrhyw fanc neu gymdeithas adeiladu o’ch dewis chi. Cewch gyngor hefyd oddi wrth sefydliadau lles fel Cyngor ar Bopeth.
- Os ydych yn poeni am reoli eich arian dewch i gysylltiad â ni. Mewn amgylchiadau arbennig gallwm wneud taliadau i’ch landlord.
|
|
|
|
|
|
|