|
Mae’r Lwfans Tai Lleol, LTLl, yn dibynnu ar ba ardal yr ydych yn byw ynddi a nifer yr ystafelloedd gwely sydd eu hangen ar bawb sy’n byw yn y tŷ.
Rhennir Wrecsam yn dair ardal LTLl a elwir yn Ardaloedd Marchnad Rhenti Eang neu AMRhE. Mae’r AMRhE yng Nghymru yn cael eu gosod gan Wasanaeth y Swyddogion Rhenti, sy’n rhan o Lywodraeth Cynulliad Cymru. Mae AMRhEau yn Lloegr yn cael eu gosod gan y Gwasanaeth Rhenti, asiantaeth weithredol o’r Adran Gwaith a Phensiynau. Cytunir ar AMRhEau trawsffiniol ar y cyd gan y ddau wasanaeth. Mae Gwasanaeth y Swyddogion Rhenti a’r Gwasanaeth Rhenti yn annibynnol o Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Mae cyfraddau’r LTLl yn cael eu darparu’n fisol gan Wasanaeth y Swyddogion Rhenti ac ar gael ar ein gwefan ar ddechrau pob mis. Nid yw’r cyfraddau’n newid bob mis.
Gan gyfrif pob preswylydd unwaith yn unig ac yn y grŵp cyntaf y maent yn perthyn iddo, caniateir un ystafell wely ar gyfer:
- pob pâr o oedolion
- unrhyw oedolyn arall dros 16 oed
- unrhyw ddau blentyn o’r un rhyw sydd dan 16 oed
- unrhyw ddau blentyn dan 10 oed beth bynnag fo’u rhyw
- unrhyw blentyn arall
Mae hawliwr sengl o dan 25 mlwydd oed yn gallu cymhwyso am dreth ystafell rhannol.
Lefelau rhent Lwfans Tai Lleol Medi 2008 (wythnosol)
| Nifer ystafelloedd |
Wrecsam a De Clwyd |
Sir Amwythig |
Gorllewin Sir Gaer |
| Ystafell a rennir |
£55.00 |
£69.12 |
£63.46 |
| 1 Ystafell wely |
£80.77 |
£94.62 |
£103.85 |
| 2 Ystafell wely |
£106.15 |
£114.23 |
£132.69 |
| 3 Ystafell wely |
£126.92 |
£135.00 |
£150.00 |
| 4 Ystafell wely |
£145.96 |
£183.46 |
£194.31 |
| 5 Ystafell wely |
£184.62 |
£222.12 |
£276.92 |
|