Mae Budd-dâl Tai yn gwella!
O Ebrill 2008 cyflwynir ffurf newydd o Fudd-dâl Tai (BT) a enwir Lwfans Tai Lleol (LTLl).
Bydd LTLl yn berthnasol i’r rhan fwyaf o geisiadau a newidiadau cyfeiriadau oddi wrth denantiaid landlordiaid preifat a wnaed ar neu ar ôl 7fed Ebrill 2008. Bydd ceisiadau a wnaed cyn 7fed Ebrill 2008 yn gymwys i dderbyn budd-dâl tai o dan y ddarpariaeth bresennol hyd nes y daw’r
- dyfarniad i ben ac fe wneir cais newydd, neu
- mae gan yr ymgeisydd gyfeiriad newydd
Beth yw Lwfans Tai Lleol?
Mae LTLl yn ffordd newydd o weithio allan BT i denantiaid y sector breifat sydd ar incwm isel. Bydd graddfeydd LTLl yn seiliedig ar y nifer o ystafelloedd a ganiateir i bobl ac nid am faint yn union yw’r rhent. O dan LTLl byddai’r mwyafswm a delir i denantiaid yn seiliedig ar faint, cyfansoddiad a lleoliad y tŷ. Hefyd yn y mwyafrif o achosion fe wneir taliadau’n uniongyrchol i denantiaid yn hytrach na landlordiaid.
Prif amcanion y cynllun LTLl yw:
- Tegwch: O dan LTLl bydd y mwyafswm a delir i denantiaid yn seiliedig ar faint, cyfansoddiad a lleoliad y teulu. Felly bydd dau deulu mewn amgylchiadau tebyg yn yr un ardal yn gymwys i’r un swm o fudd-daliadau.
- Dewis: Mae LTLl yn annog tenantiaid i gymryd rhagor o gyfrifoldeb a dewis sut i wario eu hincwm mewn ffordd debyg i denantiaid eraill sydd ddim yn derbyn budd-daliadau.
- Tryloywder: Mae’r cyswllt presennol rhwng budd-daliadau Tai a rhent unigol yn gymhleth. Nid yw’n nodi’n eglur pa lefel o gefnogaeth sydd ar gael i bobl ar incwm isel. Byddai graddfeydd lwfans clir a thryloyw yn galluogi tenantiaid a landlordiaid i wybod y mwyafswm BT sydd ar gael oddi wrth yr ystâd.
- Cyfrifoldeb Personol: Mae’r Llywodraeth yn credu, lle bo hynny’n bosibl, y dylai LTLl gael ei dalu i denantiaid fel y mwyafrif eraill o fudd-daliadau a chredydau treth, gan roi grym i bobl i gyllidebu a thalu eu rhent eu hunain. Bydd hyn yn datblygu sgiliau sydd eu hangen ar denantiaid di-waith i ddychwelyd i weithio.
- Cynhwysiad Ariannol: - Yn ddelfrydol rydym eisiau i bobl dalu eu taliadau tai yn uniongyrchol i gyfrif banc ac i drefnu gorchymyn banc i dalu’r rhent i’w landlord.
- Gwelliant gweinyddiaeth a lleihau rhwystrau rhag gweithio: Byddai system symlach yn cyflymu gweinyddu budd-daliadau tai. Hefyd, efallai y byddai system dryloyw yn annog pobl i symud ardal i geisio cyfleoedd gyflogaeth.
Cais i dalu’r Lwfans Tai Lleol yn uniongyrchol i’ch landlord
Cais i dalu’r Lwfans Tai Lleol yn uniongyrchol i’ch landlord - fformat Word - 76Kb 
Cais i dalu’r Lwfans Tai Lleol yn uniongyrchol i’ch landlord - fformat PDF - 91Kb 
Cais i dalu’r Lwfans Tai Lleol yn uniongyrchol i’ch landlord - fformat Testun Plaen - 192Kb 
Polisi Sicrwydd
Polisi Sicrwydd - fformat Word - 128Kb 
Polisi Sicrwydd - fformat PDF - 88Kb 
Polisi Sicrwydd - fformat Testun Plaen - 1.2Mb 
I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Gwasanaeth Newid Abobe. |
|
I weld ac argraffu ffeiliau Microsoft Word, rhaid fod Microsoft Word wedi ei sefydlu ar eich cyfrifiadur neu gallwch ddadlwytho Meddalwedd Gwyliwr Microsoft Word: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

|
|