|
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn ymroddedig i ofal cwsmeriaid. Fel rhan o'n hymdrech i ddarparu gwasanaethau effeithiol ac effeithlon, mae angen i ni wybod os oes gennych unrhyw broblemau.
Hoffem glywed gennych hefyd os oes gennych unrhyw argymhellion o ran sut y gallwn wella'n gwasanaethau, neu os ydych yn ei chael hi'n anodd defnyddio unrhyw rai o'n gwasanaethau, neu os bydd angen unrhyw wybodaeth arnoch am sut y gallwn eich helpu.
Gweithdrefn sylwadau a chwynion yr Adran Tai
Mae'r weithdrefn gwyno yn ymdrin â phob cwyn, canmoliaeth, hawl am iawndal, deisebau a materion sy'n ymwneud â niwsans gan gymdogion.
Mae'r adran am gofnodi unrhyw achosion o fodlonrwydd ac anfodlonrwydd cwsmeriaid a'u cyfathrebu i'r swyddog perthnasol sy'n gyfrifol am yr agwedd honno o'r gwasanaeth.
Canmoliaeth yw unrhyw glod neu foddhad a fynegir gan gwsmer am y gwasanaeth neu'r ffordd y cawsant eu trin gan aelod o staff, y mae'r cwsmer yn teimlo y dylid ei gofnodi. Fel rheol, bydd hyn yn cynnwys mwy na'r cwsmer yn cydnabod y gwasanaeth a dderbyniwyd trwy ddweud diolch yn unig.
Cwyn yw unrhyw fath o anfodlonrwydd a fynegir gan gwsmer, am y gwasanaeth neu'r ffordd y cawsant eu trin gan aelod o staff. Dylid cofnodi pob math o gwyn.
Mae'r adran yn cydnabod fod cwynion a chanmoliaeth yn offerynnau rheoli i fesur bodlonrwydd ein cwsmeriaid â'r gwasanaeth a ddarparwn. Mae'r cyfathrebiadau'n rhoi prawf ar realaeth, ac mae'n rhaid i ni ystyried y rhain a gweithredu'n unol â nhw. Mae'r wybodaeth hon yn gyfle i ni adolygu ein systemau, atal cwsmeriaid rhag derbyn gwasanaeth gwael eto a gwella'r gwasanaeth a ddarparwn.
Beth yw gweithdrefn gwyno'r Adran Tai?
Dylid anfon pob cwyn gwreiddiol at Swyddog Cwynion yr Adran Tai i'w chofrestru ar Gam 1 o'r weithdrefn gwyno.
Cam 1 y weithdrefn gwyno
Cydnabyddir y gwyn o fewn 2 ddiwrnod gwaith a bydd y cwsmer yn cael gwybod pwy yw'r swyddog archwilio. Dylai'r sawl sy'n cwyno dderbyn ymateb ysgrifenedig llawn o fewn 20 diwrnod ar ôl i'r Adran Tai dderbyn y gwyn. Os na ellir rhoi ymateb llawn, darperir ymateb dros dro o fewn y terfyn amser, gydag ymateb ysgrifenedig llawn i ddilyn.
Os nad yw'r cwsmer yn fodlon â'r ymateb ysgrifenedig neu os nad ydynt yn derbyn ymateb ysgrifenedig, gall y cwsmer symud y gwyn ymlaen i:
Cam 2 y weithdrefn gwyno
Unwaith eto, cydnabyddir y gwyn, a bydd y cwsmer yn cael gwybod pwy yw'r swyddog archwilio newydd. Dylai'r sawl sy'n cwyno dderbyn ymateb ysgrifenedig llawn o fewn 20 diwrnod ar ôl i'r Adran Tai dderbyn y gwyn Cam 2.
Os yw'r cwsmer yn parhau i fod yn anfodlon â'r ymateb ysgrifenedig, neu os nad ydynt yn derbyn ymateb ysgrifenedig, gallant symud y gwyn ymlaen i:
Cam 3 y weithdrefn gwyno
Unwaith eto, cydnabyddir y gwyn a bydd y cwsmer yn cael gwybod y bydd Rheolwr Cefnogi Archwilio'r Cyngor, Swyddog Cwynion Corffedig, yn ymchwilio ymhellach i'r gwyn. Dylai'r sawl sy'n cwyno dderbyn ymateb ysgrifenedig llawn o fewn 10 diwrnod ar ôl i'r Adran dderbyn y gwyn Cam 3.
Sut i gwyno i'r Adran Tai?
Swyddog Sylwadau a Chwynion
Gwasanaethau Tai
Ffordd Rhuthun
Wrecsam
LL13 7TU
Ffôn: 01978 315442
Ebost: housing@wrexham.gov.uk
Bydd yr Adran Tai'n ymdrechu i ddod â'ch cwynion neu'ch sylwadau i ganlyniad boddhaol. Fodd bynnag, os ydych yn parhau i fod yn anfodlon â chanlyniad eich cwyn, gellwch gwyno'n uniongyrchol i:
Ombwdsmon Llywodraeth Leol
1 Ffordd yr Hen Gae
Pencoed
Pen-y-bont ar Ogwr
CF35 5LJ
Ffôn: 01656 641150
Ffacs: 01656 641199
|