|
Ni fydd rhai ymgeiswyr yn gymwys a gallant gael eu heithrio rhag ymuno â'r rhestr aros am dy.
Mae'r rhain yn cynnwys:
- Categorïau penodol o bobl o wledydd tramor oherwydd eu cenedligrwydd, statws mewnfudo neu fwriadau i fyw yn y wlad hon.
- Pobl sy'n euog o ymddwyn mewn modd annerbyniol
megis ôl-ddyledion rhent difrifol, ymddygiad gwrthgymdeithasol neu unrhyw fath arall o ymddygiad sy'n torri amodau tenantiaeth. Rhaid i'r ymddygiad hwn fod yn ddigon difrifol i ni allu meddu ar orchymyn meddiant llwyr os oedd yr ymgeiswyr yn un o'n tenantiaid ni pan wnaed y cais.
Os ydym yn penderfynu nad ydych yn gymwys i ymuno â'r rhestr aros, byddwn yn rhoi gwybod i chi'n ysgrifenedig, gan roi'r rhesymau pam. Gellwch wneud cais i ni adolygu'r penderfyniad hwn o fewn 21 diwrnod.
Gweler ein "Polisi Gwahardd" am fwy o wybodaeth.
|