Houseproud

Mae newidiadau mewn trefniadau ariannol gan Lywodraeth Cynulliad Cymru dros y blynyddoedd wedi arwain at ostyngiad arwyddocaol yn y cyllideb y mae’r cyngor yn ei roi i’r adran tai preifat. O ganlyniad nid yw’r Strategaeth Adnewyddu Cartrefi wedi cael ei ariannu’n ddigonol.

Mae wedi dod yn amlwg fod angen ymchwilio i ddulliau newydd o ariannu’r strategaeth. Ynghyd â chydweithwyr o Sir Ddinbych a Sir y Fflint, sefydlwyd Cynllun Prawf Benthyciad Tai gyda chefnogaeth gan y Cynulliad trwy’r Ymddiriedolaeth Gwella Tai i atodi cymorth grant gyda benthyciadau a hefyd i ddarparu gwasanaeth adnewyddu cynhwysfawr llawn i’r rhai hynny sy’n barod i dalu.

I annog perchenogion / preswylwyr i gymryd mwy o gyfrifoldeb am welliannau i’w cartrefi, bydd cymorth grant ar gael ar gyfer ffïoedd ategol sy’n gysylltiedig â sicrhau benthyciadau o dan gynllun Houseproud ac am wasanaeth Asiantaeth Fewnol y Cyngor i baratoi a goruchwylio’r gwelliannau o dan y fenter yn gyfatebol i 12% o swm y cytundeb.

Polisi

Cymorth grant am gostau ffïoedd atodol a chostau cyfreithiol yn unig. Costau Asiantaeth Mewnol ac Asiantaeth Weinyddol 12% o swm net y cytundeb.

Cymhwyster

Perchenogion/ Preswylwyr dros 60 oed neu’r perchenogion / preswylwyr hynny sydd â pherson anabl yn byw o fewn y cartref.

Cysylltwch â ni

Adran Grantiau
Adran Gwasanaethau Tai
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Ffordd Rhuthun
Wrecsam
LL13 7TU

Ffôn: 01978 315300
Ffacs: 01978 315580
Ebost: housing@wrexham.gov.uk

yn ôl i'r brig