Swyddfa Ystadau Tai Rhosllanerchrugog

Tŷ'r Orsaf
Brook Street
Rhos
Wrecsam
LL14 2ED

Swyddfa Ystadau Tai y Rhos sy’n gyfrifol am reoli tai, fflatiau ac ati Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn ardaloedd Johnstown, Penycae, Ponciau a Rhosllannerchrugog.

Ffôn: 01978 832900
Ebost: rhoseo@wrexham.gov.uk

Ar Agor: 9.00am - 4.30pm Dydd Llun - Dydd Iau; 9.00am - 4.00pm Dydd Gwener.

Cyhoeddiadau Swyddfa Ystadau Tai Rhosllanerchrugog

Mae’r staff yn swyddfa ystadau Rhos yn y broses o wneud eu gwiriadau chwarterol o’r eiddo i gyd – hoffem atgoffa’r tenantiaid bod ganddynt ddyletswydd i ofalu am eu gerddi a’r ardaloedd cymunedol. Mae’r swyddogion wedi mynd allan i edrych ar y gerddi a’r tir o amgylch ein eiddo i gyd i sicrhau eu bod yn cael eu cadw i safon dda fel sydd wedi’i nodi yn eich cytundeb tenantiaeth. Gwnewch yn siŵr bod eich gardd yn daclus os gwelwch yn dda fel nad oes raid i ni gymryd unrhyw gamau yn eich erbyn.

Ar Fawrth 27ain 2013 rydym yn darparu sgip i denantiaid Maes y Gornel rhwng 10am a 12 canol dydd.

Mae yna garejis Cyngor ar gael ar draws yr ardal.

Gwybodaeth i Bobl Sydd Am Wneud Cais Am Dŷ

Mae gwybodaeth am y tai, fflatiau ac ati y mae Swyddfa Ystadau Tai y Rhos yn gyfrifol amdanyn nhw i’w chael yn y ddogfen Gwybodaeth i Bobl Sydd Am Wneud Cais Am Dŷ yn ardal Swyddfa Ystadau Tai Rhosllanerchrugog.

Mae'r pwyntiau a oedd gan y rhai a gafodd dai yn y gwahanol ardaloedd yn ystod Ebrill a Gorffennaf 2012 i'w gweld yn y tabl isod:

ALLWEDDOL:
A = NIFER O DAI
B = OSODIADAU YN Y 4 MIS DIWETHAF

ARDAL CYSGODOL 1 LLOFT 2 LLOFT 3 LLOFT 4 LLOFT CYFANSWM
A B A B A B A B A B A B Nifer Pwyntiau
(ar gyfartaledd)
Johnstown     40 1 89   140   2   269 1  
Penycae     36   117 3 246 4 1   399 7 145
Ponciau 27 2 69 2 48 2 11 2     128 6 87
Rhosllanerchrugog 58 2 131 1 157 5 175 1 1   463 7 101

Fe ddylai’r rhai sydd am wneud cais nodi nad ydi’r ffigurau ond yn ganllaw a bod gwir nifer y pwyntiau sydd eu hangen yn amrywio yn ôl maint y gofyn a’r math o dŷ neu fflat.

yn ôl i'r brig