|
Ym Medi 2002, cyhoeddodd Llywodraeth Cynulliad Cymru’r Cynllun Gweithredu i Gymru
ar Dai i Bobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig. Mae’n ddisgwyliedig, yn ôl y ddogfen hon, i’r holl
landlordiaid cymdeithasol yng Nghymru gynhyrchu Strategaeth Tai i Bobl Dduon a
Lleiafrifoedd Ethnig erbyn Ebrill 2004. Unodd chwe sir Gogledd Cymru (Ynys Môn. Conwy,
Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd a Wrecsam) i ddarparu’r Strategaeth Ranbarthol hon.
Credwn fod digon o debygrwydd rhwng y siroedd o fewn y rhanbarth i gyfiawnhau fframwaith
cyffredin, rhanbarthol.
Dyma’r pwyntiau sy’n ymdebygu i’w gilydd yn y chwe sir:
-
Poblogaeth o bobl dduon a lleiafrifoedd ethnig (BME) sy’n amrywiol, ar wahân ac yn
wasgaredig.
-
Canran fach iawn o bobl BME o gymharu â gweddill y DG.
-
Ychydig o hanes am bobl BME yn symud ac yn setlo wrth chwilio am waith.
-
Cymuned amrywiol a nifer sylweddol ohonynt yn bobl broffesiynol, pobl fusnes a
myfyrwyr.
-
Dim nifer sylweddol o geiswyr lloches na ffoaduriaid.
-
Diffyg ymwybyddiaeth yn gyffredinol am faterion BME o fewn y boblogaeth ac yn
yr awdurdodau lleol a sefydliadau eraill.
-
Awdurdodau lleol â pholisïau, strategaethau ac ymwybyddiaeth heb eu datblygu’n llawn.
Bydd gan bob awdurdod Gynllun Gweithredu Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig (BME) ei hun
yn rhan o’r strategaeth ranbarthol hon. Y rheswm am hyn yw fod rhai gwahaniaethau rhwng ethnigrwydd pob sir, ac yn amodau lleol pob sir ac felly rhaid wrth gynllun gweithredu unigoli bob un. Hefyd amrywia’r siroedd o ran cyflawni eu strategaeth cydraddoldeb hiliol. Mae gan
Adrannau Tai Sir y Fflint a Wrecsam, er enghraifft, ill dwy strategaeth cydraddoldeb, ac mae
eu cynlluniau gweithredu mewn fformat gwahanol.
Mae’n bwysig, hefyd, i bob awdurdod, y staff a’r aelodau etholedig berchnogi strategaeth y
bydd tenantiaid a phreswylwyr yn medru perthnasu â hi ac y bydd yr awdurdod a’r aelodau
etholedig yn atebol iddi.
Wrth gynllunio’r strategaeth hon, rydym yn ofalus iawn fod cydraddoldeb ac amrywiaeth yn
cynnwys, nid yn unig ethnigrwydd, ond hefyd anabledd, rhyw, crefydd, oed a rhywioldeb. Nid
yw hyn yn fater o wyro oddi wrth bwrpas cyffredinol Strategaeth BME, ond yn hytrach osgoi
gadael allan grwpiau eraill sydd ar yr ymylon yn y gymuned.
Mae gan Heddlu Gogledd Cymru agenda amrywiaeth sy’n cynnwys materion sy’n ymwneud â rhywioldeb a maent wedi mynegi dymuniad i’n strategaeth ni fod mor gynhwysfawr ag y bo modd.
Strategaeth Tai Pobl Ddu a Lleiafrifoedd Ethnig ar gyfer Gogledd Cymru.
Mae'r strategaeth ar gael ar y ffurfiau canlynol:
Strategaeth Tai Pobl Ddu a Lleiafrifoedd Ethnig ar gyfer Gogledd Cymru - fersiwn PDF 1,665Kb 
I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Gwasanaeth Newid Abobe. |