Beth yw Cymdeithas Tai?
Arweiniad i Dai Fforddiadwy yn Wrecsam
Mae Cymdeithasau Tai yn gyrff annibynnol nid er elw sy’n adeiladu ac yn rheoli tai ac yn darparu cefnogaeth i’r rheiny sydd ag anghenion tai.
Mae dros 1,800 o dai yn ardal Wrecsam sy’n cael eu rheoli gan nifer o wahanol Gymdeithasau Tai.
Os byddwch yn denant i Gymdeithas Tai, bydd eich tenantiaeth yn debyg iawn i denantiaeth y Cyngor, er y bydd eich hawliau ychydig yn wahanol. Yn gyffredinol, gellwch gadw’r denantiaeth am ba bynnag hyd y dymunwch. Mae’r rhenti’n fforddiadwy a gellwch hawlio budd-dal tai os ydych yn ennill incwm isel.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam “enwebu” ymgeiswyr sydd ar ei restr aros
Beth yw “enwebiad”?
Yn ogystal â’r 11,000 o dai sydd gennym i’w dyrannu’n unol â’n Polisi Gosod, rydym hefyd yn “enwebu” neu’n argymell ymgeiswyr oddi ar ein rhestr aros i fod yn denantiaid newydd mewn tai gwag sy’n perthyn i Gymdeithasau Tai.
Sut mae’n gweithio?
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi ei gwneud hi’n ofynnol i Gymdeithasau Tai ein helpu i ddod o hyd i gartrefi i bobl sydd mewn angen. Rhaid iddynt ofyn i ni ddarparu enwau h.y. “enwebeion” ar gyfer o leiaf 50% o’u tai sy’n dod yn wag.
Bydd y cymdeithasau’n cysylltu â ni pan fyddant yn gwybod bod tŷ ar fin dod yn wag ac yn gofyn i ni am enwebiadau.
Byddwn yn rhoi 2 neu 3 o “enwebeion” ar gyfer pob eiddo gwag, lle bynnag y bo hynny’n bosibl, gan ddewis ymgeiswyr sydd: - wedi gofyn am eiddo o’r math a’r maint hwnnw yn y lleoliad hwnnw - wedi nodi bod ganddynt ddiddordeb mewn cael eu henwebu ar eu ffurflen gais am dŷ - â’r flaenoriaeth uchaf yn ôl ein Polisi Gosod.
Os cewch eich dewis, byddwn yn ysgrifennu atoch i roi gwybod i chi ein bod yn anfon eich manylion at y Gymdeithas Tai ac y byddant yn cysylltu â chi cyn bo hir.
Yn y rhan fwyaf o achosion bydd y gymdeithas yn trefnu i ymweld â chi cyn penderfynu p’un a ydynt am gynnig yr eiddo i chi ai peidio. Os byddwch yn llwyddiannus, byddwch yn cael cynnig ysgrifenedig o denantiaeth a gofynnir i chi a ydych am ei dderbyn.
Bydd ymgeiswyr sy’n derbyn cynnig y Gymdeithas Tai yn cael eu tynnu oddi ar restr aros y Cyngor.
Os ydych wedi cyflwyno’ch hunan yn ddigartref i Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a bod gennym ddyletswydd gyfreithiol i'ch helpu i ddod o hyd i lety, byddwch yn derbyn llythyr i’ch hysbysu bod y cynnig tenantiaeth gan y Gymdeithas Tai yn cyflawni ein dyletswydd i chi. Mae hyn oherwydd y credwn fod yr eiddo’n addas i’ch anghenion. Gellwch ofyn i ni adolygu’r penderfyniad hwn.
Beth ddylech ei wneud os ydych am gael eich enwebu?
Os ydych am i ni ystyried eich enwebu chi, dylech nodi hynny ar dudalen 12 y Ffurflen Gais am Dŷ.
Rhestrau aros Cymdeithasau Tai
Mae gan Gymdeithasau Tai eu rhestrau aros eu hunain a ddefnyddir i ddyrannu’r 50% arall o’u tai gwag. Gellwch wneud ceisiadau uniongyrchol i’r Cymdeithasau Tai yn ogystal â bod ar restr aros y Cyngor.
Cymdeithasau Tai sy’n rhan o’r Cytundeb Enwebiadau
Unit 72
Ffordd William Morgan
Parc Fusnes St Asaph
St Asaph
LL17 OLJ
Ffôn: 01745 536800
Uned 2, Parc Busnes Acorn, Ffordd yr Aber, Y Fflint, CH9 5YN
Ffôn: 0800 0522526
54 Stryd Y Dyffryn, Dinbych LL16 3BH
Ffôn: 01745 815220
(Yn darparu tai i bobl ag anawsterau symud yn unig)
Regional Office, Beech House, Woodland Park, Bradford Road, Chain Bar, Bradford, BD19 6BW
Ffôn: 0845 6023626
(Yn darparu tai i bobl hŷn)
5 Derwen Villas, Ffordd Wrecsam, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint, CH7 1HZ
Ffôn: 01352 751992
|