Taliadau Treth y Cyngor
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn ymroddedig i wneud gwasanaethau yn haws eu defnyddio ac yn fwy hygyrch.
Fel rhan o'r rhaglen ddatblygu barhaus, 'rydym yn cynnig amrywiaeth o ddulliau talu ar gyfer Treth y Cyngor a Threthi Busnes, Rhenti Tai, Amrywiol Ddyledion megis anfonebau, ynghyd â chyfleusterau i dalu biliau Nwy Gogledd Cymru a Dwr Dyffryn Dyfrdwy - yn uniongyrchol ac yn ddiogel i'r Cyngor.
Cwestiynnau a ofynnir yn aml ar dalu ar lein | Darllen ein Polisi Preifatrwydd
Talu Biliau Ar-lein
Mae'r cyfleusterau talu ar lein yn caniatáu i chi dalu'r biliau canlynol yn uniongyrchol, ac yn ddiogel, i'r Cyngor 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos:
- Treth y Cyngor
- Trethi Busnes
- Rhenti Tai,
- Amrywiol ddyledion megis anfonebau'r Cyngor
- Nwy Gogledd Cymru
- Dwr Dyffryn Dyfrdwy
Talu ar lein >>
Cwestiynnau a ofynnir yn aml ar dalu ar lein | Darllen ein Polisi Preifatrwydd
^ yn ôl i'r brig
Talu gyda Ffôn Digidol
Medrwch wneud taliadau i Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos, trwy ddefnyddio'r opsiwn talu newydd ffôn digidol rhyngweithiol.
Trwy ffonio 01978 292059, a dilyn y cyfarwyddiadau syml, medrwch dalu gan ddefnyddio eich cerdyn credyd neu ddebyd, trwy wthio'r botymau priodol.
Mae'r cyfleusterau hyn yn caniatáu i chi dalu'r biliau canlynol yn uniongyrchol i'r Cyngor:
- Treth y Cyngor
- Trethi Busnes
- Rhenti Tai,
- Amrywiol ddyledion megis anfonebau'r Cyngor
- Nwy Gogledd Cymru
- Dwr Dyffryn Dyfrdwy
^ yn ôl i'r brig
Debyd Uniongyrchol
Rydym yn argymell eich bod yn defnyddio'r dull hwn os ydych yn dymuno talu fesul 10 rhandal. Mae Gorchmynion Debyd Uniongyrchol ar gael isod i'w llwytho i lawr:
Gorchymyn Debyd Uniongyrchol Treth y Cyngor
Gorchymyn Debyd Uniongyrchol Treth Fusnes
^ yn ôl i'r brig
Talu dros y Ffôn
Gellir talu dros y ffôn gyda cherdyn credyd a cherdyn debyd drwy ffonio (01978) 292851 neu 292852 o 9.00am hyd 4.30pm, dydd Llun i ddydd Gwener.
^ yn ôl i'r brig
Talu drwy'r Post
Os ydych am dalu fesul 10 rhandal drwy'r post, dyfynnwch Gyfeirnod eich Cyfrif os nad oes angen derbynneb arnoch NEU anfonwch y ddogfen gyfan gydag amlen hunan gyfeiriedig os oes angen derbynneb arnoch.
^ yn ôl i'r brig
Ymweliad Personol
Gallwch dalu yn y Swyddfa Arian Parod, Neuadd y Dref, Wrecsam o 8.45am hyd 4.00pm Dydd Llun i Ddydd Gwener. Dewch â'r ddogfen gyfan os oes angen derbynneb arnoch.
Gallwch dalu yn eich Swyddfa Ystad hefyd.
^ yn ôl i'r brig
Cysylltwch â ni
I gael rhagor o wybodaeth am y gwasanaethau hyn ffoniwch ni ar (01978) 292031 neu e-bostiwch atom ar:
counciltax@wrexham.gov.uk
Fel arall gallwch ysgrifennu i Is-adran Treth y Cyngor yn
Swyddfa Ystad Ganolog Wrecsam
Stryt y Lampint
Wrecsam
LL11 1AY
neu cysylltwch ag un o'n Swyddfeydd Ystad.
Sut ydych yn graddio'r wybodaeth / gwasanaeth hwn?
|