Llamu Cysylltiadau    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd

Llythyr yr Arweinydd

 

Bu'r flwyddyn ddiwethaf yn flwyddyn arall o newid sylweddol o fewn y cyngor. Eglurwyd y llynedd bod y setliadau isel parhaus gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i bob awdurdod lleol yn golygu bod rhaid i ni fod yn fwy effeithlon yn y modd yr ydym yn cynnal ein busnes. Fodd bynnag, rhaid i ni sicrhau ein bod yn parhau i wella'n gwasanaethau i'n preswylwyr.

Bydd y £3.3 miliwn o arbedion effeithlonrwydd a wnaethom eleni yn golygu ein bod wedi gwneud arbedion o £17 miliwn yn ystod y 5 mlynedd diwethaf. Er hyn oll rydym wedi diogelu ysgolion rhag arbedion effeithlonrwydd Llywodraeth y Cynulliad ac mae gwasanaethau rheng flaen eraill wedi gweld buddsoddiad cynyddol, yn arbennig gwasanaethau cymdeithasol i oedolion a fydd yn derbyn £2 filiwn ychwanegol yn ystod y flwyddyn sydd i ddod er mwyn ymateb i'r galw cynyddol.

Rydym hefyd wedi gweld gwelliannau mawr mewn gwasanaeth yn y meysydd canlynol:-

  • Fel yr addawyd rydym wedi cyflwyno gwasanaeth i bron bob t~ yn y sir ac mae'n graddfeydd ailgylchu bellach gyda'r gorau yng Nghymru

  • Buddsoddiad hir-ddisgwyliedig mewn ffyrdd a phalmentydd er y gwyddom fod llawer mwy i'w wneud eto.

  • Perfformiad amgylcheddol gwell yn dilyn cyflwyno Strydoedd o Fri a ddilynir gan siop-un-stop ar gyfer gwasanaethau eraill y Cyngor eleni. Rhaid i'n gwasanaethau fod yn ymatebol i anghenion ein cwsmeriaid

  • Buddsoddiad mewn 56 o Swyddogion Cefnogi Cymuned yr Heddlu yn arwain at leihad sylweddol mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol

Caiff ein perfformiad gwell ei gydnabod gan sawl rheolydd allanol ac yn ystod yr wythnosau diwethaf hyn rydym wedi derbyn ein hadroddiadau gorau erioed gan Swyddfa Archwilio Cymru, Estyn ar gyfer addysg a'r Arolygiaeth Safonau Gofal. Rhaid i'n gwelliant barhau.

Bydd y cynnydd o 2.9% yn nhreth y cyngor gyda'r isaf yng Nghymru am yr ail flwyddyn yn olynol. Mae'n bwysig bod y cyngor yn parhau i ymdrechu am fwy o effeithlonrwydd er mwyn cadw costau i lawr. Amcangyfrifwn y buasai'r cynnydd wedi bod yn 12% am y flwyddyn sydd i ddod oni bai am yr arbedion a nodwyd gennym gan ein bod unwaith eto wedi cael un o'r setliadau isaf yng Nghymru gan Lywodraeth Cynulliad Cymru. Hyderaf eich bod yn cydnabod bwriad y cyngor i ganolbwyntio ar ei gwsmeriaid ac fel y dywedais y llynedd mae pob croeso i chi gysylltu â mi os oes gennych unrhyw sylwadau.

Hefyd, ar ein biliau, rhaid i ni gynnwys y swm y mae Heddlu Gogledd Cymru ei angen i ddarparu ei wasanaethau a thaflen ar wahân i egluro'r rhesymau am ei gynnydd o 4.5%.

Y Cynghorydd Aled Rhys Roberts
Arweinydd y Cyngor

 
English
 

Cyswllt i

Taliadau Treth y Cyngor
Llythyr yr Arweinydd
Treth y Cyngor
Taliadau yn ol Band D
Newyddion
Sut Caiff Eich Arian Ei Wario
Taliadau yn ol Band A-I
Eich Hawliau
Os wyf angen help?
Gostyngiadau A Disgowntiau
Apelio
Gwybodaeth Treth y Cyngor
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 


CBSW
Hawlfraint