Pobl ag Anableddau
Os oes angen ystafell neu le ychwanegol yn eich cartref arnoch chi neu unrhyw un sy'n byw gyda chi oherwydd anabledd, mae'n bosibl y gallech gael gostyngiad i'ch bil. Byddai'r gostyngiad hwn yn cael ei roi drwy osod eich cartref mewn band prisiad is. Os yw eich cartref ym Mand A, gallech nawr fod yn gymwys i gael gostyngiad. Cysylltwch â'r Cyngor am wybodaeth bellach, os teimlwch eich bod yn gymwys.
Disgowntiau
Os mai dim ond un oedolyn sy'n byw mewn eiddo, bydd disgownt o 25%. Bydd disgownt yn berthnasol i rai grwpiau o bobl gan gynnwys myfyrwr, nyrs-fyfyrwyr, rhai dan Hyfforddiant leuenctid a rhai sydd a nam meddyliol difrifol. Os ydych yn meddwl bod gennych hawl i ddisgownt, dylech gysylltu â'r Cyngor. Os ydych wedi cael disgownt, ac yn meddwl nad oes gennych hawl iddo mwyach, yna rhaid i chi hysbysu'r Cyngor o fewn 21 diwrnod. Gall methu â gwneud hynny arwain at gosb.
Budd-dâl Treth y Cyngor
Bydd budd-dâl Treth y Cyngor yn helpu pobl ar incwm isel i dalu eu biliau Treth y Cyngor. Er enghraifft, os ydych yn derbyn Cymorth Incwm, fel rheod nid oes raid i chi dalu Treth y Cyngor. Efallai fod gennych hawl i fudd-dâl os ydych yn gweithio ac os yw eich incwm yn isel o gymharu gyda'ch amgylchiadau. Cysylltwch â:
- Tenantiaid Awdurdod Lleol: eich Swyddfa Stâd Leol (rhifau ffôn ar gael yn y llfyr ffôn)
- Perchennog-Ddeiliaid a Thenantiaid Preifat: Is-Adran Budd-daliadau, Stryt y Lampint, Wrecsam. Rhif Ffôn 01978 292032.
- Ar gyfer tenantiaid y Cyngor cysylltwch ar (01978) 292033.
Anheddau Eithriedig
Mae gofyn talu Treth y Cyngor ar y rhan fwyaf o dai, ond bydd rhai yn cael eu heithrio ac ni fydd unrhyw Dreth y Cyngor i'w thalu arnynt. Mae'r rhain yn cynnwys eiddo lle mai'r unig breswylwyr yw myfyrwyr neu bobl gyda nam meddyliol difrifol, ac eiddo gwag, sydd:
- mwy neu lai heb eu dodrefnu (eithriad am hyd at chwe mis).
- yn eiddo i elusen (am hyd at chwe mis).
- wedi'u gadael yn wag gan rywun sydd wedi mynd i'r carchar, ysbyty neu gartref gofal preswyl.
- yn aros am grant profiant (ac am hyd at chwe mis ar ôl grant profiant).
- yn ffurfio rhan o eiddo sengl sydd ynghlwm wrth annedd arall ac sy'n gartref i aelod dibynnol o'r teulu (rhandy).
- yn amhosibl byw ynddynt neu'n cael eu hatgyweirio/newid (eithriedig am uchafswm o 12 mis)
Os credwch y dylid eithrio eich eiddo, dylech gysylltu ag Is-Adran Treth y Cyngor yn Stryt y Lampint. neu ffonio (01978) 292031
|