Llamu Cysylltiadau    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd

Eich Hawliau Mewn Perthynas  Thalu Treth y Cyngor

 

Talu

Os dymunwch, cewch dalu'r bil cyfan mewn yn taliad ar neu cyn Ebrill 15, 2007, neu mewn dau randaliad ar neu cyn Ebrill 15 a Medi 15, 2007.

Rhandaliadau

Mae gennych hawl statudol i dalu mewn deg rhandaliad o fis Ebrill 2007 i Ionawr 2008. Os yw eich atebolrwydd yn dechrau yn ddiweddarach yn y flwyddyn, bydd gennych hawl i nifer llai o randaliadau.

Taliadau Debyd Uniongyrchol

Y ffordd hawdd o dalu. Gofynnwch am orchymyn Debyd Uniongyrchol trwy ffonio 01978 292031.

Lawrlwytho'r y Debyd Uniongyrchol:

Gorchymyn Debyd Uniongyrchol Treth y Cyngor

Gorchymyn Debyd Uniongyrchol Treth Fusnes

Taliadau Debyd Uniongyrchol - Dim Llythyrau atgoffa; Dim gwys; Dim aros.

Talu Dros Y Ffôn

Gellir talu â cherdyn Credyd/Debyd hefyd drwy ffonio 01978 292851/292852/292857 rhwng 9am a 4.00pm.

Llythyr Atgoffa

Os methwch â gwneud rhandaliad erbyn y 15fed o bob mis, yna, byddwch yn derbyn llythyr atgoffa.

Os ydych yn talu'r rhandaliad(au) coll o fewn saith diwrnod, yna cewch barhau i dalu mewn rhandaliadau misol.

Os na wnewch hynny, yna bydd y swm cyfan ar gyfer y flwyddyn yn ddyledus.

Ail Lythyr Atgoffa

Os methwch â thalu'r rhandaliadau ail waith, yna anfonir ail lythyr atgoffa. Os nad ydych yn talu o fewn saith diwrnod, rydych yn colli'r hawl i dalu bob mis ac mae'r cyfan yn ddyledus.

Rhybudd Terfynol - 3ydd Llythyr Atgoffa

Os ydych eisoes wedi cael dau lythyr atgoffa ac wedi talu'r rhandaliadau coll o fewn sai(h diwrnod, ac yna'n methu am y trydydd tro, yna bydd y swm llawn yn ddyledus ar unwaith.

Gwys

Ar ôl i chi golli'r hawl i dalu mewn rhandaliadau, mae'n ofynnol i'r Cyngor, yn ôl y gyfraith, roi gwys am y gweddill, ynghyd â chostau, set £30.30 am y gwys a £16.50 am y gorchymyn atebolrwydd ar hyn o bryd.

Gorchymyn Atebolrwydd

Unwaith y mae gorchymyn atebolrwydd wedi ei gyflwyno, mae'n rhoi hawl i'r awdurdod:

  1. Wneud cais i atafaelu eich enillion/cymorth Incwm.
  2. Gyfarwyddo beili i atafaelu eich nwyddau.
  3. Wneud cais i'r llys i'ch traddodi i garchar am beidio thalu.

Ond Medrwch hefyd wneud trefniadau gyda swyddfa Treth y Cyngor i dalu'r balans yn wythnosol/yn fisol cyn belled â bod y swm yn un derbyniol.

 
English
 

Cyswllt i

Taliadau Treth y Cyngor
Llythyr yr Arweinydd
Treth y Cyngor 07/08
Taliadau yn ol Band D
Newyddion
Sut Caiff Eich Arian Ei Wario
Taliadau yn ol Band A-I
Eich Hawliau
Os wyf angen help?
Gostyngiadau A Disgowntiau
Apelio
Dychwelyd i'r Mynegai
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 


CBSW
Hawlfraint