Llamu Cysylltiadau    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd

Gwerth Gorau

 

Rhoi Gwerth Gorau i chi

Mae "Gwerth Gorau" yn golygu bod rhaid i'r Cyngor edrych ar yr hyn mae'n ei wneud fel ei fod yn gallu gwneud gwelliannau go iawn a phositif i'r gwasanaethau rydych yn eu derbyn.

Bydd popeth rydym yn ei wneud yn cael ei archwilio dros y pum mlynedd nesaf:

  • Herio

    A yw'r gwasanaethau rydym yn eu darparu yn wasanaethau rydych yn eu dymuno ac a oes modd i ni eu gwella. Mae'n rhaid i ni feddwl yn wahanol am y ffordd rydym yn ymdrin â materion pwysig, fel yr amgylchedd a diogelwch y cyhoedd.

  • Cymharu

    Gyda sefydiadau eraill i weld sut maent yn gweithredu, fel ein bod yn darganfod y ffordd orau a mwyaf cost-effeithiol o wneud pethau. Mae gwybod sut mae'n gwasanaethau'n cymharu â gwasanaethau'r Cynghorau eraill yn golygu y gallwch farnu gwerth ein gwasanaethau.

  • Ymgynghori

    Gyda chi fel trigolion lleol, trethdalwyr, busnesau, grwpiau lleol, ayb i ddarganfod eich barn am y gwasanaethau rydym yn eu darparu a'r gwasanaethau yr hoffech eu derbyn. Fodd bynnag, mae'r arian sydd ar gael i wario ar wasanaethau yn gyfyng felly mae angen cael cydbwysedd rhwng y gwasanaethau dymunol a'r rhai hanfodol.

  • Cystadlu

    "Yr hyn sy'n bwysig yw'r hyn sy'n gweithio". Rhaid i ni edrych am ffyrdd gwahanol a gwell o ddarparu gwasanaethau. Gallai hyn olygu bod y Cyngor a sefydliad arall yn gweithio gyda'i gilydd i ddarparu gwasanaeth, neu fod sefydliad arall yn darparu gwasanaeth yn lle'r Cyngor.

I sicrhau bod yr holl bethau hyn yn digwydd ac yn digwydd yn iawn, mae'r Llwyodraeth wedi sefydlu Arolygiaeth Gwerth Gorau. Bydd arolygwyr yn cynnal gwiriadau annibynnol i weld a ydym yn gwneud gwelliannau.

Yn y pen draw, nod "Gwerth Gorau" yw eich bod chi, y cwsmer, yn cael budd o'r gwasanaethau gwell ac eich bod yn cael mwy o werth ohonynt.

 

 
English
 

Cyngor

Cysylltiadau Cyngor
Dychwelyd i Dudalen Gynnwys y Cyngor
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 


CBSW
Hawlfraint