Beth yw twyll budd-dal?
Mae twyll budd-dal yn digwydd pan fydd pobl yn hawlio budd-dal tai neu dreth y cyngor neu fudd-daliadau nawdd cymdeithasol eraill ond nid oes ganddynt hawl i'w hawlio. Mae sawl math o dwyll budd-dal - dyma rai enghreifftiau o'r achosion mwyaf cyffredin:
- Pobl sy'n gweithio ond nad ydynt yn datgan hyn pan fyddant yn hawlio budd-dal
- Pobl sy'n hawlio fel unigolyn sengl ond sy'n byw gyda phartner
- Pobl sy'n hawlio o gyfeiriad nad ydynt yn byw yno
- Pobl sy'n hawlio budd-dal tai am eiddo lle nad oes gofyn iddynt dalu rhent e.e. mae'r hawlydd neu bartner yn berchen ar yr eiddo
- Pobl nad ydynt yn datgan eu hincwm, cynilion na chyfalaf llawn pan fyddant yn hawlio budd-dal
- Pobl sy'n rhoi gwybodaeth ffug yn fwriadol ar eu ffurflen gais am fudd-dal
Pam ddylwn boeni am dwyll budd-dal?
Bob blwyddyn, mae twyll budd-dal yn dwyn biliynau o bunnoedd o arian cyhoeddus. Hyd yn oed os na thalwch dreth incwm, rydym oll yn talu rhyw fath o drethi'n anuniongyrchol, felly maent yn dwyn oddi wrthych chi!
Beth allwn ei wneud i roi'r gorau i hyn?
Mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam dîm penodol o ymchwilwyr twyll hyfforddedig sy'n defnyddio'r dechnoleg a'r systemau casglu data diweddaraf i atal a datgelu hawliau twyllodrus. Mae gan bob ymchwilydd gymwysterau proffesiynol llawn, gall gyfweld â thwyllwyr honedig yn unol â'r Ddeddf Tystiolaeth yr Heddlu a Throseddol a gallant weithredu a pharatoi achosion ar gyfer y llys.
Darllenwch restr o erlyniadau llwyddiannus diweddar
A yw'r ymchwilwyr twyll yn gweithio gyda chyrff eraill?
Ymgymerir â sawl achos fel cyd-ymchwiliadau gyda swyddogion o'r Adran Gwaith a Phensiynau a chyflwynir achosion i'r llys fel cyd-erlyniadau yn aml. Mae gan ymchwilwyr y Cyngor bwerau i edrych ar wybodaeth sydd gan Gyllid y Wlad, yr Adran Gwaith a Phensiynau, Cofrestrfa Tir, cyflogau gweithwyr, banciau a chwmnïau credyd, darparwyr pensiynau, awdurdodau lleol eraill a sawl cofnod arall a ddelir ar wahanol systemau data.
Beth sy'n digwydd i bobl sy'n twyllo?
Bydd unrhyw un a euogfarnir mewn llys ynadon neu lys y goron yn cael cofnod troseddol. Ni chyfeirir pob achos i'r llys ac mae'n bosibl ymdrin ag achosion llai difrifol yn weinyddol, naill ai ar ffurf rhybudd ffurfiol neu gosb weinyddol.
Rhybudd ffurfiol
Pan fydd unigolyn yn cyfaddef i drosedd ac nad yw'r golled i gronfeydd cyhoeddus yn rhy ormodol, gellir cynnig rhybudd ffurfiol. Mae rhybudd ffurfiol yn rhybudd ysgrifenedig yn debyg i rybudd heddlu ond delir ef fel cofnod gan yr awdurdod lleol a'r Adran Gwaith a Phensiynau'n unig. Os yw unigolyn yn aildroseddu, bydd y rhybudd yn cael ei ystyried os byddwn yn ystyried erlyn.
Cosb weinyddol
Os nad yw rhybudd ffurfiol yn briodol, y dewis arall yw cosb weinyddol. Mae hon yn gosb ariannol, yn debyg i ddirwy, ac sy'n 30% o unrhyw ordaliad budd-dal. Pan fydd unigolyn yn derbyn cosb weinyddol, gofynnir iddynt ad-dalu'r gordaliad a'r gosb weinyddol. Ystyrir y gosb hon os yw'r unigolyn yn aildroseddu hefyd.
Gweld canlyniadau cosbau'r Cyngor

|
Rhybuddion |
Cosbau Gweinyddol |
Gwys |
Arddeliadau |
| Mawrth 07 |
0 |
21 |
2 |
4 |
| Ebrill 07 |
1 |
4 |
2 |
3 |
| Mai 07 |
2 |
17 |
4 |
1 |
| Mehefin 07 |
4 |
5 |
1 |
2 |
Cysylltiadau eraill
Sut allaf sôn am unigolyn sy'n twyllo?
Cysylltwch â'r tîm twyll yn gyfrinachol ar 01978 292728.
Anfonwch ebost at stampoutfraud@wrexham.gov.uk
Cwblhewch y ffurflen adrodd am dwyll ar-lein
Neu postiwch hi i STAMP OUT FRAUD, Blwch SP 2069, WRECSAM.
Framwaith Gwirio
Darganfod mwy o wybodaeth am y Fframwaith Gwirio.
Twyll Yswiriant
Gall hawliadau yswiriant twyllodrus yn erbyn Awdurdodau Lleol gostio miloedd o bunnau i drethdalwyr y Cyngor bob blwyddyn. Mae Cynghorau yn derbyn hawliadau ffug gan leiafrif o bobl sy’n honni trwy dwyll eu bod wedi cael anaf neu fod eu heiddo wedi’i ddifrodi.
Os ydych yn amau unrhyw un o hawlio taliadau yswiriant trwy dwyll, ffoniwch y rhif rhadffôn cyfrinachol.
Ffôn: 0800 3289270
Sut ydych yn graddio'r wybodaeth / gwasanaeth hwn?
|