|
Mae hwn yn rhoi’r canlyniadau allweddol o holiadur Llais y Bobl a wnaed rhwng Awst a Medi 2006. Dychwelwyd 517 o holiaduron sy’n gyfradd ymateb o 68%. Amlinellir y canlyniadau allweddol isod.
Gwasanaethau rheoli gwastraff
Disgrifia dau allan o bum ymatebwr y casgliad sbwriel fel rhywbeth gweddol dda (42%) gyda 45% yn dweud ei fod yn dda iawn. Canfyddir bod ansawdd glanhau strydoedd ac ailgylchu gwastraff ychydig yn is na’r casgliad sbwriel ond mae tri allan o bump (61%) yn datgan bod y gwasanaethau hyn yn weddol neu’n dda iawn.
Mae ymatebwyr yn fodlon iawn â holl agweddau o wasanaeth casglu gwastraff y Cyngor. Dywed ymatebwyr fod y gwasanaeth yn ddibynadwy ac mae bron i naw allan o ddeg (89%) yn dweud eu bod yn fodlon iawn neu’n weddol fodlon.
Mae bodlonrwydd yn uchel ym mhob agwedd o’r gwasanaethau ailgylchu a ddarperir gan y Cyngor. Mae 70% o’r ymatebwyr yn weddol bodlon neu’n fodlon iawn â glendid a thriniaeth y safleoedd. Yr agwedd fwyaf gwan yw hygyrchedd y cyfleusterau gyda 14% yn dweud eu bod yn weddol anfodlon a 7% yn dweud eu bod yn anfodlon iawn â hyn.
Cynllun Cydraddoldeb Anabledd
Mae chwarter o’r holl ymatebwyr (25%) yn datgan bod ganddynt salwch hirsefydlog neu anabledd. O’r rhai sy’n anabl neu’n sâl, dywed pedwar allan o bump fod y salwch neu anabledd yn cyfyngu eu gweithgareddau mewn rhyw ffordd.
Mae un allan o bump (20%) yn teimlo bod rhywun wedi gwahaniaethu yn eu herbyn neu eu bod wedi cael eu trin yn annheg. Mae bron i chwarter o’r bobl anabl o oed gweithio (23%) yn datgan eu bod wedi profi gwahaniaethu neu driniaeth annheg, bron i ddwywaith yn uwch na’r rhai nad ydynt o oed gweithio (13%).
Gofynnwyd i’r holl drigolion ag anabledd neu salwch hirdymor a oeddent yn teimlo’n rhan o’r broses o wneud penderfyniadau lleol. Yr ymateb mwyaf cyffredin oedd nad oedd ymatebwyr yn fodlon nac yn anfodlon (42%). O’r rhai na fu iddynt fynegi barn niwtral, mae mwy o bobl yn fodlon iawn neu’n weddol bodlon (32%) nag yn anfodlon (18%).
Y gwasanaethau sy’n bodloni anghenion ymatebwyr anabl orau yw meddygfeydd ac mae bron i dri chwarter (72%) yn dweud eu bod yn bodloni eu hanghenion yn llawn. Roedd cefnogaeth frwd am fferyllfeydd lleol (70%) ac optegwyr lleol (65%). Y gwasanaethau nad ydynt yn bodloni anghenion yr ymatebwyr yw deintyddion (25% o’r ymatebwyr), tai’r Cyngor (22%) a’r gwasanaethau cymdeithasol (19%).
Mannau agored a parciau
Yn gyffredinol, dim ond un allan o ddeg o’r ymatebwyr (10%) sy’n teimlo bod parciau a mannau agored yn weddol gwael neu’n wael iawn. Mae bron i hanner yn datgan eu bod yn weddol ac mae 17% ychwanegol yn datgan eu bod yn dda iawn.
Mae ymatebwyr anabl yn defnyddio parciau a mannau agored yn aml ac mae 56% o’r grŵp hwn yn datgan bod parciau a mannau agored yn dda iawn neu’n weddol. Fodd bynnag, mae’r ffigwr ar gyfer pobl heb anabledd yn sylweddol uwch, sef 64%.
Parciau a mannau agored yw cyfleuster y Cyngor a ddefnyddir amlaf ac mae mwy nag un allan o ddeg (13%) yn eu defnyddio bron i bob dydd, a chwarter arall yn eu defnyddio o leiaf unwaith yr wythnos (27%).
Yn gyffredinol, mae’r defnydd o fannau chwarae a ddarperir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn llawer is na pharciau a mannau agored, gyda 28% yn eu defnyddio.
Hamdden
Mae pedwar allan o bump (83%) wedi defnyddio cyfleusterau chwaraeon a hamdden y Cyngor ac, yn gyffredinol, mae bron i dri allan o bump (58%) wedi eu defnyddio yn y flwyddyn ddiwethaf.
Dim ond un allan o ddeg merch (11%) sydd heb ddefnyddio cyfleuster chwaraeon/hamdden y Cyngor erioed o gymharu ag 20% o ddynion, sy’n awgrymu y gallai dynion fod yn grŵp targed allweddol mewn unrhyw ymdrech i gynyddu pa mor aml mae pobl yn defnyddio’r cyfleusterau hyn.
Barn am y Cyngor
Gofynnwyd i’r holl ymatebwyr pa mor fodlon neu anfodlon roeddent â’r ffordd y mae’r Cyngor yn rhedeg pethau. Mae hanner yr ymatebwyr yn fodlon ac mae 7% yn fodlon iawn. Mae bron i chwarter (22%) yn datgan nad ydynt yn fodlon nac yn anfodlon, sy’n gadael 19% sy’n anfodlon iawn neu’n weddol anfodlon.
Mae dau allan o bump (43%) yn dweud bod y Cyngor yn gwneud gwaith da tra bod 37% yn credu bod y Cyngor yn gwella’r ardal.
Nid yw ymatebwyr yn fodlon â’r ffordd y mae’r Cyngor yn delio â chwynion. Roedd chwarter o’r rhai a oedd wedi cwyno’n weddol anfodlon (26%) ac roedd chwarter arall (24%) yn anfodlon iawn.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch:
Swyddog Cynorthwydd Polisi
Ffôn: 01978 292176
Ebost: statistics@wrexham.gov.uk
|