Llamu Cysylltiadau    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd

Llais Y Bobl - Cynnal, Cadw ac Arolygu Ffyrdd dros y Gaeaf

 

Roedd yr ymchwil yn chwilio am farn ac agweddau trigolion lleol tuag at waith cynnal a chadw ffyrdd dros y gaeaf, Parc Gwledig Dyfroedd Alun, agweddau o’r Gwasanaethau Cymdeithasol a sut hoffech dderbyn gwybodaeth gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dychwelwyd cyfanswm o 279 holiadur, sy’n gyfradd ymateb o 55%.

Cynnal, Cadw ac Arolygu Ffyrdd dros y Gaeaf

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol (CBS) Wrecsam yn gyfrifol am waith cynnal a chadw dros fisoedd y gaeaf.  Mae’r gwaith yn cynnwys grudio i atal rhew a chlirio eira o ffyrdd a llwybrau troed.

  • Mae mwyafrif yr ymatebion (81%) yn fodlon iawn neu’n weddol fodlon â grudio ffyrdd mawr y fwrdeistref.  Roedd 13% o’r panel yn weddol anfodlon neu’n anfodlon iawn â grudio ffyrdd mawr.

  • Roedd pobl yn anfodlon iawn â grudio ffyrdd a llwybrau ar ystadau tai gan i 49% a 58% o’r panel nodi eu bod yn weddol anfodlon neu’n anfodlon iawn.

  • Er mwyn gwella cyflwr ffyrdd a llwybrau, mae trefn arolygu ffyrdd ar waith.  Gofynnwyd i’r ymatebwyr pa mor fodlon neu anfodlon maent o ran hyn.  Roedd 61% o’r ymatebwyr yn fodlon iawn neu’n weddol bodlon â chyflwr ffyrdd mawr neu brif ffyrdd.

  • Mae pobl yn llai bodlon â chyflwr ffyrdd a llwybrau ar ystadau tai.  Roedd 44% yn anfodlon iawn neu’n weddol anfodlon â’u cyflwr

Parc Gwledig Dyfroedd Alun

Mae CBS Wrecsam yn parhau i anelu at wella Parc Gwledig Dyfroedd Alun a’r gwasanaethau y mae’n eu cynnig i ymwelwyr.  Felly, gofynnwyd cyfres o gwestiynau i’r panel mewn perthynas â’r parc.

  • Gofynnwyd iddynt a oeddent wedi ymweld â Pharc Gwledig Dyfroedd Alun yn y 12 mis diwethaf.  Roedd bron i draean (30%) wedi ymweld â’r parc yn y 12 mis diwethaf ond nododd y mwyafrif nad oeddent (69%).

  • Mae dynion, pobl o oed gwaith a phobl sy’n economaidd weithredol yn fwy tebygol o ddefnyddio’r parc.  Yn ogystal, mae ymatebwyr â phlant yn llawer mwy tebygol (39%) o ymweld â’r parc na’r rhai heb blant (24%).  

  • Mae’n ymddangos mai ochr Gwersyllt yw’r ochr fwyaf poblogaidd gan fod 68% o’r panel wedi ymweld â hi o gymharu â 43% sydd wedi ymweld ag ochr Llai, sy’n cynnwys y man chwarae i blant a’r man ymarfer golff.

  • Gofynnwyd i’r ymwelwyr pa mor aml roeddent yn ymweld â’r parc.  Yr ymateb mwyaf poblogaidd yw 2-3 gwaith y flwyddyn (46%) tra bod 38% yn ymweld â’r parc yn amlach nag unwaith y mis.

  • Gofynnwyd i’r ymwelwyr pa weithgareddau roeddent wedi ymgymryd â nhw y tro diwethaf iddynt ymweld â’r parc.  Y gweithgaredd mwyaf poblogaidd yw cerdded, naill ai’n gyffredinol (55%) neu â’r ci (27%).  Mae 12% yn defnyddio’r parc i feicio tra bod degfed wedi ymweld â’r ganolfan ymwelwyr a’r caffi (10%) neu gan eu bod yn mwynhau natur (10%).

  • Rhoddwyd rhestr o 12 gwelliant posibl i’r ymwelwyr a gofynnwyd iddynt i nodi’r gwelliant pwysicaf un, yr ail a’r trydydd.  Parc glanach â llai o faw ci (17%), mwy o lwybrau ag arwynebau (15%) a mwy o staff yn patrolio’r parc (14%) oedd y tri ateb mwyaf poblogaidd.

  • Gofynnwyd i’r ymwelwyr pa mor fodlon neu anfodlon roeddent ag ansawdd Parc Gwledig Dyfroedd Alun yn gyffredinol.  Yn galonogol, mae’r mwyafrif yn fodlon (85%) gan gynnwys 34% sy’n fodlon iawn.  Dim ond 2% a fynegodd anfodlonrwydd â’r parc.

  • Gofynnwyd i’r rhai nad oeddent wedi ymweld â’r parc (194 o’r ymatebwyr) beth fyddai’n eu hannog i fynd yno.  Gwybod beth oedd ar gynnig yno (43%), cael mwy o amser (24%) a gwell cludiant cyhoeddus i’r parc (10%) oedd y tri ateb mwyaf poblogaidd

Gwasanaethau Cymdeithasol

Mae Gwasanaethau Cymdeithasol CBS Wrecsam yn cynnig ystod o wasanaethau i oedolion a phlant hawdd eu niweidio, gan geisio mwyhau eu hanibynniaeth bersonol.  

  • Yn y lle cyntaf, gofynnwyd i’r holl ymatebwyr a oeddent yn defnyddio unrhyw un o’r gwasanaethau a gynigiwyd.  Mae un allan o 11 (9%) yn defnyddio’r gwasanaethau cymdeithasol ar hyn o bryd.  Nid yw’r mwyafrif (90%) yn eu defnyddio.  Mae’r defnyddwyr presennol yn hŷn neu’n ddiwaith.

  • Gofynnwyd i ddefnyddwyr y gwasanaethau (24 o ymatebwyr) pa mor fodlon neu anfodlon roeddent â lefel y gefnogaeth a gynigir iddynt.  Er gwaethaf y nifer fach, mae’r mwyafrif i weld yn fodlon â lefel y gefnogaeth a gynigir iddynt (70% neu 17 o ymatebwyr).  Dim ond 15% neu 4 sy’n mynegi anfodlonrwydd.

  • Gofynnwyd i’r defnyddwyr presennol (24 o ymatebwyr) pa mor fodlon neu anfodlon roeddent â lefel sgiliau a hyfforddiant y staff o ran cynnig cefnogaeth.  Unwaith eto, er gwaethaf y nifer fach o ymatebwyr, roedd y mwyafrif i weld yn fodlon bod gan staff y sgiliau a’r hyfforddiant priodol (69% neu 16 o ymatebwyr).  Dim ond 7% neu 2 ymatebydd a fynegodd anfodlonrwydd mewn perthynas â hyn.

Gwybodaeth gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Er mwyn i CBS Wrecsam ddefnyddio ei gylchgrawn i drigolion yn fwy effeithiol, hoffai ddeall mwy am y wybodaeth y mae trigolion ei hangen.  Gofynnwyd cyfres o gwestiynau i’r panel mewn perthynas â sut maent yn derbyn gwybodaeth nawr, sut hoffent gael y wybodaeth hon ac am ba bethau yr hoffent wybodaeth.

  • Mae rhyw dri allan o bump yn cael eu gwybodaeth o gylchgrawn y Cyngor – Cyswllt (63%) ac erthyglau yn y wasg leol (59%).

  • Yn ogystal, mae dau allan o bump yn cael gwybodaeth o daflenni sy’n cael eu postio trwy’r drws (44%) a hysbysebion yn y wasg leol (42%).

  • Gofynnwyd i’r ymatebwyr a oeddent yn teimlo bod y wybodaeth yn ormodol, yn iawn neu’n annigonol.  Ni ddywedodd unrhyw un eu bod yn derbyn gormod o wybodaeth ond mae hanner yn teimlo bod y lefel yn ddigonol (48%).  Teimla 45% nad ydynt yn cael digon o wybodaeth gan y Cyngor. 

  • Gofynnwyd i’r ymatebwyr am ba bethau yr hoffent wybod mwy.  Gwella ansawdd yr amgylchedd lleol, ailgylchu a lleihau swm y sbwriel a gladdwn, gwella ffyrdd a chludiant yw’r pethau mwyaf poblogaidd.

  • Roedd ymatebwyr yn llai tebygol o ofyn am wybodaeth am hybu’r iaith Gymraeg a diwylliant Cymru, busnesau lleol ac adfywiad cymunedol, gwella’r stoc tai a glyniad cymunedol.  

  • I gloi, gofynnwyd i’r ymatebwyr pa un o agweddau canlynol o waith y Cyngor yr hoffent wybod mwy amdanynt.  Y tair agwedd fwyaf poblogaidd oedd sut mae Cyngor Wrecsam yn gwario ei arian (62%), y rhesymau dros wneud rhai penderfyniadau (56%) a gwelliannau a gynlluniwyd ar gyfer gwasanaethau (49%).

Am fwy o wybodaeth cysylltwch:
Swyddog Cynorthwydd Polisi
Ffôn: 01978 292176
Ebost: statistics@wrexham.gov.uk

 
English
 

Cyswllt i

Dweud Eich Dweud!
Llais Y Bobl
Gwybodaeth Proffil
Dychwelyd i'r mynegai
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 


CBSW
Hawlfraint