|
Dosbarthwyd pedwerydd arolwg Llais y Bobl, sy'n ceisio cael barn y cyhoedd am hawliau tramwy cyhoeddus, yn ystod Awst a Medi 2005.
Dychwelwyd cyfanswm o 303 o holiaduron gan aelodau o'r panel, gan roi cyfradd ymateb o 58%.
Hawliau Tramwy Cyhoeddus
-
Y gweithgaredd a wneir yng nghefn gwlad gan y gyfran uchaf o ymatebwyr yw cerdded. Mae bron i hanner yr ymatebwyr (45%) yn gwneud hyn o leiaf unwaith yr wythnos.
-
Ar y cyfan, yn ystod y 12 mis diwethaf, mae 87% wedi cerdded yng nghefn gwlad, 29% wedi beicio, 6% wedi marchogaeth ceffyl ac mae 6% wedi gwneud gweithgareddau eraill.
-
Dim ond 20 o ymatebwyr oedd heb ddefnyddio hawliau tramwy o gwbl. Y pedwar rheswm a gafwyd ganddynt am beidio â'u defnyddio yw:
1. Problemau iechyd / anabledd (46%)
2. Diffyg amser (21%)
3. Dim rheswm (16%)
4. Dim diddordeb (13%)
-
Gofynnwyd i'r ymatebwyr sy'n gwneud unrhyw un o'r gweithgareddau hyn pa mor hir y maent yn ei dreulio fel arfer yn gwneud y gweithgareddau. Ar y cyfan ,mae'r gyfran uchaf o ymatebwyr (38%) yn dweud eu bod yn treulio rhwng 30 munud ac un awr yn eu gwneud, wedi'i ddilyn gan y rheiny sy'n treulio rhwng awr a dwy awr yn eu gwneud (31%).
-
Y tri math gorau i gael mynediad i gefn gwlad yn ôl yr ymatebwyr yw trwy:
1.
Llwybrau cyhoeddus;
2.
Parciau gwledig; a
3.
Lonydd gwledig tawel
-
Y tri math llai ffafriol yn ôl ymatebwyr yw trwy:
1. Tir mynediad agored;
2. Tir coedwig; a
3. Hawliau tramwy eraill (llwybrau ceffyl neu gilffyrdd)
-
Pan ofynnwyd i ymatebwyr beth yw eu rheswm pennaf dros ddefnyddio hawliau tramwy, dywedodd dros draean (36%) mai eu rheswm oedd er mwyn gwneud gweithgaredd iachus (e.e. cerdded i gadw'n heini). Mae tair rhan o ddeg o ymatebwyr (29%) yn defnyddio hawliau tramwy yn bennaf er mwyn gwneud gweithgaredd hamdden (e.e. cerdded neu farchogaeth fel diddordeb), 15% ar gyfer mynd â chi am dro, 8% er mwyn cael mynediad cyffredinol i gefn gwlad ac mae 2% yn defnyddio hawliau tramwy i gael mynediad at gyfleusterau eraill
-
Gofynnwyd i ymatebwyr pa mor bwysig yw llwybrau penodol iddynt. Mae'r gyfran uchaf o ymatebwyr yn teimlo mai teithiau cerdded lleol yn eu cymdogaethau sydd fwyaf pwysig iddynt (77%), wedi'i ddilyn gan lwybrau cylch (54%) a llwybrau ar themâu neu lwybrau a ddisgrifiwyd mewn taflenni (45%).
-
Y pum lle y mae ymatebwyr yn fwyaf tebygol o edrych am wybodaeth am hawliau tramwy yw:
-
Mapiau Arolwg Ordnans;
-
Gwasanaethau canolfannau croeso;
-
Canolfan Ymwelwyr Parciau Gwledig;
-
Arweinlyfrau; a
-
Llyfrau teithiau cerdded.
-
Y prif ardaloedd y mae angen rhagor o lwybrau ynddynt yn ôl yr ymatebwyr yw:
- Ardal Coedpoeth (8%);
- Mynydd Rhiwabon (7%);
- Mynydd Rhos (5%); a
- Lôn Groes (5%).
-
Oherwydd bod Tir Mynediad Agored ar gael bellach, bydd 72% wedi neu yn ei defnyddio er mwyn dilyn llwybrau diffiniedig, bydd 10% wedi neu yn ei ddefnyddio i fynd am dro ar draws y tir, nid yw 11% ohonynt wedi nac yn bwriadu gwneud defnydd ohono .
Am fwy o wybodaeth cysylltwch:
Swyddog Cynorthwydd Polisi
Ffôn: 01978 292176
Ebost: statistics@wrexham.gov.uk
|