Llamu Cysylltiadau    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd

Llais Y Bobl - Mynediad i Wybodaeth

 

Dosbarthwyd trydydd arolwg Llais y Bobl sy'n ceisio barn y cyhoedd am fynediad i wybodaeth, yn ystod mis Mawrth 2005.

Dychwelwyd cyfanswm o 315 holiadur gan aelodau'r panel, sy'n gyfradd ymateb o 60%.

Mynediad i Wybodaeth

  • Mae bron i dri chwarter o ymatebwyr wedi sylwi ar newyddlen Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam – Cyswllt – neu wedi ei derbyn.

  • Mae ychydig dan hanner y panel wedi sylwi ar Gyfeirlyfr Gwasanaethau’r Cyngor neu wedi ei dderbyn.

  • Mae mwy o ymatebwyr hŷn yn tueddu o sylwi ar Cyswllt neu ei dderbyn nag ymatebwyr iau. Roedd ymatebwyr 45-64 oed yn fwy tebygol o fod wedi sylwi ar Gyfeirlyfr Gwasanaethau’r Cyngor neu ei dderbyn (54%).

  • Teimlodd 94% o ymatebwyr fod y wybodaeth yn Cyswllt naill ai’n ddefnyddiol iawn neu’n weddol ddefnyddiol tra bod 97% yn teimlo bod y wybodaeth yn y Cyfeirlyfr Gwasanaethau’n ddefnyddiol iawn neu’n weddol ddefnyddiol.

  • Mae gan bron i ddau allan o dri (64%) fynediad i’r rhyngrwyd at ddefnydd personol. Fel y disgwyliwyd, mae mynediad i’r rhyngrwyd at ddibenion personol yn gostwng gydag oed, gan fod gan 82% o bobl 18-24 oed fynediad o gymharu â 36% o’r rhai 65+.

  • Mae dros hanner (56%) â mynediad i’r rhyngrwyd wedi ymweld â gwefan y Cyngor (www.wrecsam.gov.uk).

  • Y tri phrif reswm i ymatebwyr [103 aelodau o’r panel] ddefnyddio gwefan y Cyngor (www.wrecsam.gov.uk) yn y 12 mis diwethaf oedd ar gyfer ymholiad cyffredinol (60%), cais am wybodaeth (52%) a gwneud cais e.e. cynllunio (6%).

Cludiant yn y Fwrdeistref Sirol

  • Mae bron i hanner (47%) y panel yn gyrru i’r gwaith mewn car.

  • Mae tri allan o bump (60%) yn gyrru car i gyfleusterau hamdden.

  • I fynd i’r ysbyty, dywedodd y mwyafrif eu bod yn gyrru eu car (60%), roedd 13% yn deithwyr mewn car ac roedd 10% yn dal bws. Roedd 5% yn cerdded.

  • Mae tri allan o bump (60%) yn gyrru i Wrecsam i fynd i siopa ac mae bron i un allan o bump (19%) yn defnyddio’r bws. Mae un allan o 10 (10%) yn cerdded.

  • Dywedodd bron i ddau allan o bump (37%) eu bod yn defnydd cludiant cyhoeddus a dywedodd 62% nad oeddent.

  • Mae mwy o ddynion yn defnyddio cludiant cyhoeddus (39%) na merched (36%).

  • Gofynnwyd i aelodau’r panel nad ydynt yn defnyddio cludiant cyhoeddus beth sy’n eu hatal rhag ei ddefnyddio yn y fwrdeistref sirol. Y tri phrif reswm oedd nad oedd y teithiau’n mynd i fannau addas (46%), mae’r teithiau’n cymryd gormod o amser (43%) ac nid ydynt yn ddigon aml (39%).

  • Gofynnwyd i aelodau’r panel nad ydynt yn defnyddio cludiant cyhoeddus ar hyn o bryd beth fyddai’n eu hannog i’w ddefnyddio yn y fwrdeistref sirol. Y tri phrif beth oedd gwasanaethau amlach (41%), cyfleusterau parcio a theithio (41%) a gwasanaethau cyflymach (34%).

Darpariaeth Hamdden a Chwaraeon

  • Roedd bron i ddau allan o dri (65%) ymatebydd yn fodlon â’r wybodaeth a ddarperir yn y brif ganolfan hamdden a ddefnyddiant.

  • Roedd mwy na dau allan o dri (67%) yn fodlon â’r gweithgareddau a ddarperir yn y brif ganolfan hamdden a ddefnyddiant.

  • Roedd mwy na dau allan o bump (63%) yn fodlon â’r cyfleusterau a ddarperir yn y brif ganolfan hamdden a ddefnyddiant.

  • Roedd mwy na dau allan o bump (61%) yn fodlon â phrisiau’r brif ganolfan hamdden a ddefnyddiant.

  • Gofynnwyd i aelodau’r panel a ddywedodd nad oeddent wedi defnyddio canolfan hamdden yn y fwrdeistref sirol erioed (82 aelod) am resymau. Dywedodd bron i un allan o dri (31%) eu bod yn rhy hen a dywedodd 19% nad oedd ganddynt ddiddordeb. Dywedodd 18% fod ganddynt ddiddordeb mewn gweithgareddau hamdden eraill.

  • Gofynnwyd i’r holl aelodau i roi marc am y ddarpariaeth chwaraeon yn eu cymdogaeth. Yn gyffredinol, mae dau allan o bump (40%) yn rhoi marc da, gan gynnwys 12% sy’n datgan ei bod yn dda iawn. Dywedodd bron i chwarter (23%) fod y ddarpariaeth yn wael a theimlodd 10% nad oedd yn dda nac yn ddrwg.

Am fwy o wybodaeth cysylltwch:
Swyddog Cynorthwydd Polisi
Ffôn: 01978 292176
Ebost: statistics@wrexham.gov.uk

 
English
 

Cyswllt i

Dweud Eich Dweud!
Llais Y Bobl
Gwybodaeth Proffil
Dychwelyd i'r mynegai
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 


CBSW
Hawlfraint