| |
|
|
|
|
 |
Llais Y Bobl - Mynediad i Wasanaethau a Cludiant |
|
|
|
|
| |
|
Gofynnodd yr ail o arolygon Llais y Bobl am farn ynghylch mynediad i wasanaethau’r Cyngor a chludiant o gwmpas Wrecsam.
Mynediad i Wasanaethau
-
Dywedodd dros hanner o’r rhai a ymatebodd eu bod wedi ceisio cysylltu â Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn y 12 mis diwethaf. O’r rhain, teimlodd bron i 8 allan o 10 fod staff y Cyngor yn gallu delio â’u cais yn foddhaol.
-
Dim ond 2 allan o 10 a oedd wedi ceisio cysylltu â’r Cyngor yn y 12 mis diwethaf brofodd anawsterau. Yn gyffredinol, cafodd dynion anawsterau’n amlach na merched.
-
Merched a phobl rhwng 45 a 64 oed oedd y rhai mwyaf tebygol o gysylltu â’r Cyngor.
-
Mae mwy na 6 allan o 10 ar y panel yn defnyddio’r rhyngrwyd ar hyn o bryd gyda’r mwyafrif yn ei ddefnyddio gartref. Roedd mwy na chwarter wedi mynd i wefan Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn y deuddeng mis diwethaf a theimlodd bron i bawb fod y gwasanaeth a dderbyniasant yn dda.
-
O’r rhai a oedd wedi defnyddio’r rhyngrwyd mewn canolfan gymunedol, llyfrgell neu’r Byd Dwr, dywedodd y mwyafrif fod y gwasanaeth yn dda.
Cludiant
-
Gofynnwyd i ymatebwyr am eu barn ynghylch nifer o elfennau’n gysylltiedig a chludiant. Dywedodd fwy na 7 allan o 10 fod grutio ffyrdd i atal rhew yn dda. Y gwasanaeth gwaethaf oedd cadw amhariadau oherwydd gwaith ffyrdd i’r lleiaf posibl a dywedodd fwy na hanner o’r rhai a ymatebodd fod y gwasanaeth yn ddrwg.
-
Y cludiant mwyaf poblogaidd yn Wrecsam yw’r car. Y bws yw’r ail. Mae dynion yn fwy tebygol o yrru car o gwmpas Wrecsam na merched.
-
Dywedodd fwy na 9 allan o 10 fod ganddynt safle bws o fewn taith gerdded 10 munud o’u cartref er mai dim ond hanner ohonynt oedd wedi defnyddio’r gwasanaeth bws yn y 12 mis diwethaf.
-
Gofynnwyd i’r rhai a oedd wedi defnyddio’r gwasanaeth bws yn y 12 mis diwethaf eu barn am faterion sy’n ymwneud â’r gwasanaeth hwnnw. Dywedodd 7 allan o 10 fod nifer y bysiau yn ystod y dydd yn foddhaol ond dim ond 2 allan o 10 ddywedodd fod nifer y bysiau gyda’r nos a nifer y bysiau ar ddydd Sul yn foddhaol.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch:
Swyddog Cynorthwydd Polisi
Ffôn: 01978 292176
Ebost: statistics@wrexham.gov.uk
|
|
|
|
|
|
|