Dweud Eich Dweud!

Croeso i’r adran ‘Dweud eich Dweud’.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn ymgynghori â phobl leol ar adegau allweddol ar gyfer prosiectau a phenderfyniadau pwysig. Rydym bob amser yn croesawu pob un o’ch sylwadau, canmoliaethau neu gwynion am y Cyngor a’r gwasanaethau rydym yn eu cynnig.

Sylwadau a Chwynion

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn ymroddedig i Ofal Cwsmer. Fel rhan o’n hymdrech i ddarparu gwasanaethau effeithlon ac effeithiol, mae angen i ni wybod pan fo gennych gwyn.

Hoffem glywed gennych hefyd os oes gennych chi unrhyw awgrymiadau ynghylch sut i wella’n gwasanaethau neu os cewch chi unrhyw anhawster wrth ddefnyddio unrhyw wasanaethau neu os oes angen unrhyw wybodaeth arnoch am sut y gallwn helpu.

Adran Sylwadau a Chwynion

Ffurflen Sylwadau Ar Lein

Ymgynghoriad Cyfoes

Canlyniadau Ymgynghoriadau Blaenorol

Ein nod yw cyhoeddi crynodeb o ganlyniadau pob prosiect ymgynghori ac ymgysylltu corfforaethol pwysig. Rhestrir y rheiny sydd ar gael ar hyn o bryd isod, ac mae gwybodaeth fanylach ar gael ar gais.

Deall ein Cwsmeriaid

Bob blwyddyn rydym hefyd yn crynhoi ac yn dadansoddi’r arolwg a’r data ymgynghori sydd gennym i lunio adroddiad o’r enw ‘Deall ein Cwsmeriaid’. Mae hwn wedi’i lunio am bob un o’r tair blynedd a restrir isod.

I gael rhagor o wybodaeth am unrhyw rai o’r ymgynghoriadau hyn, neu gopïau am adroddiadau manwl lle y bo’r rhain ar gael, cysylltwch â’r: Swyddog Perfformiad a Gwelliant 01978 292 263 statistics@wrexham.gov.uk.

Diogelu Data

Bydd yr holl ddata a ddarperir gennych yn cael eu storio a’u defnyddio yn unol â thelerau Deddf Diogelu Data 1998. Gweler hefyd ein Polisi Preifatrwydd.

yn ôl i'r brig

Cyswllt i