Strategaeth Treftadaeth ar Gwfer Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Mae’r Strategaeth Treftadaeth yn nodi pam bod ein treftadaeth leol yn bwysig ac mae’n creu strategaeth ar gyfer ein treftadaeth leol ar gyfer y pum mlynedd nesaf.
Cyflwyniad
Mae gan Fwrdeistref Sirol Wrecsam dreftadaeth gyfoethog o gyfnodau cyn-hanesyddol hyd heddiw. Yn y fwrdeistref sirol mae treftadaeth yn bwysig o safbwynt rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol (Adran 2.1 am fanylion).
Mae nifer o wahanol sefydliadau yn gysylltiedig â chadwraeth, rhannu gwybodaeth a hyrwyddo ein treftadaeth leol gan gynnwys:
-
Gwasanaeth Treftadaeth y Fwrdeistref Sirol (adran 2.2 a 2.3)
-
Yr adrannau Cynllunio, Addysg a Datblygiad Economaidd yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
-
Sefydliadau treftadaeth cenedlaethol a rhanbarthol e.e. Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a Dyfrffyrdd Prydain
-
Grwpiau treftadaeth cymunedol e.e. Cyfeillion Amgueddfeydd Wrecsam, grwpiau hanes lleol, Ymddiriedolaeth Ddinesig Wrecsam a Sefydliad Coffa Ceiriog.
-
Cyrff cenedlaethol a rhanbarthol: CyMAL - Cyngor Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd Cymru, Cadw, Comisiwn Brenhinol Henebion Hynafol a Hanesyddol Cymru ac Amgueddfeydd Cenedlaethol ac Orielau Cymru. (Adrannau 2.2 a 2.3 am fanylion)
Mae’r strategaeth yn trafod cryfderau a gwendidau yn ein treftadaeth leol (Adran 3.1 am fanylion)
Mae hefyd yn disgrifio’r cyfleoedd a’r bygythiadau sy’n wynebu ein treftadaeth leol (Adran 3.2 am fanylion)
Ein gweledigaeth a’n hamcanion ar gyfer treftadaeth
Mae nifer o bobl a chymdeithasau o fewn ein cymunedau eisoes yn cydnabod pwysigrwydd ein treftadaeth. Rydym am i’n treftadaeth fod o bwys i bawb ac iddi wneud gwahaniaeth i’w bywydau.
Ein gweledigaeth ar gyfer treftadaeth yn Wrecsam yw
Galluogi i wir botensial ein treftadaeth ffynnu fel y gall wneud y cyfraniad gorau posibl a chyfoethogi pob agwedd ar fywyd y fwrdeistref sirol, er budd trigolion lleol ac ymwelwyr.
Mae’r Strategaeth yn cynnig cyfres o argymhellion ar gyfer y pum mlynedd nesaf, 2005-2010 (Adran 4.2 am fanylion):
-
Codi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o’n treftadaeth a sut y gall gyfrannu at fywydau pawb
-
Atgyfnerthu’r partneriaethau a’r adnoddau sy’n cefnogi treftadaeth
-
Sicrhau bod treftadaeth yn chwarae rhan lawn wrth gryfhau ein cymunedau
-
Sicrhau y cedwir ein treftadaeth er budd cenedlaethau’r dyfodol
Strategaeth Treftadaeth ar Gyfer Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Strategaeth Treftadaeth ar Gyfer Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Mae'r ddogfen yma as gael i ddadlwytho yn y ffortmat isod:
Strategaeth Treftadaeth ar Gyfer Bwrdeistref Sirol Wrecsam - Fersiwn Word 138Kb 
Strategaeth Treftadaeth ar Gyfer Bwrdeistref Sirol Wrecsam - Fersiwn PDF 206Kb 
Strategaeth Treftadaeth ar Gyfer Bwrdeistref Sirol Wrecsam - Fersiwn RTF 212Kb 
Atodiad 1 - Crynodeb o’r Argymhellion
Mae'r ddogfen yma as gael i ddadlwytho yn y ffortmat isod:
Atodiad 1 - Crynodeb o’r Argymhellion - Fersiwn Word 53Kb 
Atodiad 1 - Crynodeb o’r Argymhellion - Fersiwn PDF 117Kb 
Atodiad 1 - Crynodeb o’r Argymhellion - Fersiwn RTF 70Kb 
Atodiad 2 - Cynllun Gweithredu 2005/06
Mae'r ddogfen yma as gael i ddadlwytho yn y ffortmat isod:
Atodiad 2 – Cynllun Gweithredu 2005/06 - Fersiwn Word 71Kb 
Atodiad 2 – Cynllun Gweithredu 2005/06 - Fersiwn PDF 141Kb 
Atodiad 2 – Cynllun Gweithredu 2005/06 - Fersiwn RTF 139Kb 
I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Gwasanaeth Newid Abobe. |
|
I weld ac argraffu ffeiliau Microsoft Word, rhaid fod Microsoft Word wedi ei sefydlu ar eich cyfrifiadur neu gallwch ddadlwytho Meddalwedd Gwyliwr Microsoft Word: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

|
|