Llamu Cysylltiadau    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd

Cychwyn Cadarn

 

Beth ydyw?

Rhaglen a sefydlir yn lleol yw Cychwyn Cadarn, ond sy'n gweithredu trwy'r DU gyfan ac a gyllidir yn uniongyrchol gan y Llywodraeth. Mae'r rhaglen waith wedi ei thargedu ar gyfer plant yn y grwp oedran 0 - 3 oed a'u rhieni, gyda'r nod cyffredinol o sicrhau bod pob plentyn yn barod i ffynnu pan yw'n cyrraedd yr ysgol.

Tri phrif nod y Rhaglen Cychwyn Cadarn yw:

  • gwella iechyd
  • gwella'r gallu i ddysgu
  • gwella datblygiad cymdeithasol

Pwy sy'n gweithyddu'r rhaglen, ac ar gyfer pwy?

Trwy Gymru gyfan, gweinyddir y rhaglen gan bartneriaethau rhwng yr awdurdod lleol, y gwasanaethau iechyd a chyrff gwirfoddol. Mae Partneriaeth Wrecsam wedi penodi nifer o weithwyr Cychwyn Cadarn arbenigol, ac wedi cefnogi amrediad o brosiectau ar gyfer plant sydd o dan 4 oed. Y staff Cychwyn Cadarn allweddol a benodwyd yw: -

  • 3 Ymwelydd Iechyd Cychwyn Cadarn a 3 Gweithiwr Cefnogi Iechyd Plant - i ddarparu rhagor o ymweliadau cartref mewn rhai ardaloedd, cynnal amrediad o grwpiau er mwyn cynghori a chefnogi rhieni sy'n gofalu am blant ifainc iawn, a darparu cyngor ar iechyd a gofal rhieni i grwpiau cymunedol sydd eisoes wedi eu sefydlu, megis grwpiau rhiant/plentyn a grwpiau chwarae o dan oed ysgol.
  • 1 Athrawes Plant o Dan Oed Ysgol and 2 Nyrs Feithrin Addysg - i weithio gyda phlant unigol a'u rhieni, grwpiau cymunedol megis grwpiau rhiant/plentyn a'r grwpiau a drefnir gan yr Ymwelwyr Iechyd Cychwyn Cadarn, i hyrwyddo profiadau dysgu o ansawdd da ar gyfer plant ifainc iawn.
  • Swyddog Hawliau Lles - i helpu rhieni unigol sydd â phlant ifainc iawn i ddatrys eu problemau ariannol, a chynnig cyngor ar reoli cyllideb deuluol i grwpiau o rieni, megis grwpiau rhiant/plentyn a'r grwpiau a drefnir gan yr Ymwelwyr Iechyd Cychwyn Cadarn.

Mae'r staff hyn yn gweithio mewn pedair ardal darged Cychwyn Cadarn o fewn y Fwrdeistref Sirol - Parc Caia, Plas Madog a Chefn Mawr, Brynteg a Southsea, a Gwersyllt.

Defnyddir peth o'r cyllid i ddarparu'r gwasanaethau yn Adeilad y Bartneriaeth yn First Avenue, Gwersyllt:

Grwp rhiant / plentyn - a gynhelir bob bore o 9.15am tan 11.45am.

Llyfrgell Deganau - sy'n cynnig dewis o deganau o ansawdd da, y gall rhieni eu benthyca ar gyfer eu plant.

Defnyddir cyllid i ddarparu gwasanaethau yn y pedair ardal darged Cychwyn Cadarn o fewn y Fwrdeistref Sirol - Parc Caia, Plas Madog a Chefn Mawr, Bryn-teg a Southsea, a Gwersyllt.

  • Relate - gwasanaeth cynghori personol, sy'n cynnig gyngor ac arweiniad ynghylch anawsterau perthynas.
  • Prosiect Dysgu Teuluol - sy'n helpu rhieni i helpu eu plant i ddysgu, ac i symud ymlaen eu hunain at gyfleoedd dysgu newydd.
  • Prosiect Bwydo o'r Fron - i annog a chefnogi mamau i fwydo'u babanod o'r fron.
  • Prosiect Diogelwch Plant Stay-Safe - i ddarparu offer diogelwch cartref i deuluoedd na allant ei fforddio.

Defnyddir rhywfaint o'r cyllid i gynorthwyo plant ifainc a'u rhieni sydd mewn angen, lle bynnag y bônt y byw.

  • Cronfa Gofal Dydd Noddedig - telir hyd at £5 yr wythnos tuag at leoliad gofal dydd i blant ifainc a fyddai'n cael budd o sesiynau o'r fath, pan na all y rhieni eu fforddio.
  • Cronfa Carfan Gweithwyr Gofal Plant a Meithrinfeydd - i ddarparu gofal plant mewn meithrinfa, er mwyn galluogi rhieni i fynychu sesiynau hyfforddiant cyflogaeth neu grwpiau cymorth arbennig.
  • Home-Start - sy'n recriwtio, hyfforddi a rheoli gwirfoddolwyr i helpu a chefnogi rhieni sydd dan bwysau sylweddol yn eu cartrefi eu hunain, ac yn cydweithio â phobl o asiantaethau eraill i ddatblygu rhaglen ar gyfer tadau.

Darperir peth cyllid i gynnal gwasanaethau ar gyfer plant gydag anghenion arbennig.

  • Prosiect diagnosis cynnar ar gyfer awtistiaeth er mwyn datblygu ffyrdd o adnabod a darparu cymorth priodol i blant awtistig mor gynnar ag y bo modd.
  • Cynllun gwarchod plant cymunedol - darparu seibiant a chymorth pan fo angen i rieni sydd dan bwysau sylweddol, a phosibilrwydd bod angen amddiffyn y plant.

Am wybodaeth bellach, cysylltwch â'ch Ymwelydd Iechyd neu'r cydgysylltydd Cychwyn Cadarn, Ty Henblas, Queen's Square, Wrecsam LL13 8AZ, Teleffon 01978 297553.

 
English
 

Cyswllt i

Cyflwyniad
Ymwelydd Iechyd
Cychwyn Cadarn Addysg
Homestart
NCMA
Cymru PPA
Adnabod Awtistiaeth yn Gynnar
Cyswllt
surestart.gov.uk
Cysylltiadau Plant
Cymuned a Bywyd
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 


CBSW
Hawlfraint