Adnabod Awtistiaeth yn Gynnar
Yr ardal a gwmpesir - Awdurdod lleol Wrecsam
Y grwp cleientiaid a gwmpesir - Plant o dan oed ysgol
Beth yw awtistiaeth?
Nod y prosiect adnabod awtistiaeth yn gynnar yw gwella'r gwasanaeth i'r rhieni/gofalwyr ac i'r gweithwyr proffesiynol sy'n bryderus y gallai fod plentyn sydd o dan eu gofal yn awtistig. Anabledd datblygiadol yw awtistiaeth sydd, yn nodweddiadol, yn ymddangos yn ystod y tair blynedd gyntaf yn oes y plentyn. Mae'r plant sy'n dioddef o'r anhwylderau sy'n perthyn sbectrwm awtistig yn cael anawsterau mewn tri maes:
- Rhyngweithio yn gymdeithasol
- Cyfathrebu
- Chwarae / dychmygu
Asesu
Dyrannwyd grant bychan gan Cychwyn Cadarn i ddatblygu tîm asesu clinigol, sy'n cynnwys gweithwyr proffesiynol iechyd ac addysg. Atgyfeirir achosion ato trwy Ganolfan Iechyd Plant Wrecsam, a gwneir yr atgyfeiriadau yn aml, ond nid yn ddieithriad, gan bediatryddion ac ymwelwyr iechyd. Os credir, ar ôl trafodaeth ragarweiniol, bod posibilrwydd mai awtistiaeth yw achos anawsterau'r plentyn, cynigir trefnu apwyntiad i'r plentyn a'i rieni/gofalwyr ar gyfer asesiad. Mae taflen ar gael sy'n disgrifio'r broses o asesu. O'r Ganolfan Iechyd Plant yn Wrecsam y trefnir yr asesu, ond edrychir ar y plentyn hefyd yn ei gefndir arferol ei hunan, sef yn ei gartref fel arfer, er y gallai'r asesiad ddigwydd mewn grðp chwarae neu sefyllfa gyfarwydd arall. Yn dilyn yr asesiad, cyflwynir atborth manwl i'r rhieni/gofalwyr ynglþn â'r canlyniadau, a rhoddir cyfle iddynt ofyn cwestiynau. Os yw'n briodol, rhoddir rhagor o wybodaeth hefyd i'r rhieni am natur y cyflwr, ac am y ffynonellau cymorth sydd ar gael yn lleol.
Gwerthuso
Yn ychwanegol at y tîm asesu, mae prosiect gwerthuso ar droed yn ystod 2001-2002. Cysylltwyd â nifer o rieni i ofyn a fyddent yn barod i ateb cyfres o gwestiynau am eu profiadau. Bydd rhai o'r rhieni hyn wedi bod trwy'r broses asesu eu hunain yn Wrecsam, ac eraill gyda phrofiad o gael y diagnosis mewn cyfnod cynharach, cyn bod y tîm presennol wedi ei sefydlu. Pwrpas y gwerthuso yw canfod a yw'r drefn newydd wedi gwella'r gwasanaeth ac, yn dra phwysig, casglu gwybodaeth gan ddefnyddwyr y gwasanaeth am y modd y gellir ei wella ymhellach. Ar ôl cael y wybodaeth honno, gobeithiwn gynnwys unrhyw newidiadau yn y gwasanaeth, y tybir bod eu hangen, yn ystod y cam nesaf yn y prosiect.
|