|
Mae Home-Start yn gweithredu yn unol â'r safonau a'r arferion cyffredin, i gefnogi teuluoedd sydd ag o leiaf un plentyn o dan bump oed o fewn y rhaglen Cychwyn Cadarn, trwy'r cyfan o Fwrdeistref Sirol Wrecsam, ond gan roi pwyslais penodol ar atgyfeirio teuluoedd yn y tair ardal ganolbwynt ddiffiniedig, sef Parc Caia, Gwersyllt a Phlas Madog.
Yn ei brosiect Cychwyn Cadarn, mae gan Home-Start 10 o wirfoddolwyr, sy'n gweithio gyda rhwng 10 a 15 o deuluoedd ar y tro, gan naill ai ymweld â'u cartrefi neu gynnig cymorth mewn grðp, yn ôl angen y teuluoedd.
Gyda chymorth gwirfoddolwr Home-Start , galluogir teuluoedd sydd dan anfantais i gael mynediad at wasanaethau eraill, o'r rhaglen Cychwyn Cadarn ac o fewn eu cymuned eu hunain. Unwaith bob mis, bydd swyddog Hawliau Lles Cychwyn Cadarn yn ymweld â sefyllfaoedd grðp Home-Start i gynnig cymorth gyda hawlio budd-daliadau, ac y mae llawer o'r teuluoedd wedi llwyddo i gynyddu eu hincwm wythnosol o ganlyniad.
Ceisir hwyluso mynediad i'r teuluoedd at y llyfrau a'r teganau sydd ar gael o Lyfrgell Deganau'r rhaglen, naill ai trwy eu cyflwyno mewn sefyllfa Grðp Home-Start , neu trwy gael gwirfoddolwyr i gynghori ac i roi gwybod am eu bodolaeth a sut i'w defnyddio.
Gall yr ymwelwyr cartref gwirfoddol helpu teuluoedd yn ymarferol,i weithredu yn unol â'r cyngor a roddir iddynt ynghylch addysg a gofal rhieni gan weithwyr proffesiynol eraill o fewn y rhaglen; gallant roi sicrwydd iddynt eu bod yn gwneud yn iawn, eu hannog i ddal ati pan fo'r cynnydd yn arafach na'r disgwyl, a'u sicrhau y byddant yn llwyddo yn y diwedd.
Pam y mae angen Home-Start ?
Gall magu teulu fod yn waith caled iawn yn yr oes hon. Weithiau mae'n waith dirdynnol, anodd a blinedig. Os ychwanegir problemau eraill at hynny, megis salwch, unigrwydd neu ddieithrwch ac os collir cefnogaeth perthnasau a chyfeillion agos, gall yr anawsterau ymddangos yn llethol.
Beth yw Home-Start ?
Y dull syml a ddefnyddir gan Home-Start yw cynnig cymorth un gwirfoddolwr, sy'n rhiant hyfforddedig, i unigolyn arall sy'n wynebu anawsterau ac yn rhiant i o leiaf un plentyn o dan bump oed. Mae'r cyfeillgarwch a'r cymorth ymarferol ac emosiynol gan y gwirfoddolwr, yng nghartref y teulu ei hunan, yn galluogi'r rhieni i ymdopi â'r bwysau sydd arnynt, ac yn lleihau'r perygl o argyfwng teuluol.
Beth mae'n ei wneud?
Mae Home-Start a Cychwyn Cadarn yn Wrecsam yn:
- recriwtio gwirfoddolwyr o'r gymuned leol
- eu paratoi ar gyfer eu swyddogaeth fel gwirfoddolwyr
Home-Start
- eu cefnogi trwy gydol eu perthynas â'r teulu.
Mae'n cynnig amrediad da o wasanaethau ar gyfer cynorthwyo teuluoedd:
Ymweliadau Cartref:- Mae'r gwirfoddolwyr yn cael eu paru'n ofalus â'r teuluoedd y byddant yn ymweld â hwy'n rheolaidd, unwaith yr wythnos fel arfer yn eu cartrefi. Maent yn cynnig cefnogaeth ymarferol ac emosiynol, er mwyn hybu'r cryfderau teuluol.
Sesiynau i Grwpiau Teuluol:- Darpariaeth grðp a gynhelir unwaith yr wythnos, sy'n darparu cludiant i'r man cyfarfod ac yn ôl, cyfleuster sesiynol mewn meithrinfa gofrestredig ar gyfer y plant, a grðp rhieni sy'n cynnig amrywiaeth o bynciau, gan gynnwys coginio a chrefftwaith.
Sesiynau Galw-heibio:- Darpariaeth grðp unwaith yr wythnos, lle mae gwirfoddolwyr yn darparu cyfleusterau chwarae a lluniaeth ysgafn i blant ifainc, ynghyd â sicrwydd sgwrs ar gyfer rhieni newydd.
Boreau Trafod a Choffi:- Darpariaeth grðp unwaith y mis, pan ddarperir cyfleuster meithrinfa gan wirfoddolwyr, er mwyn i'r rhieni ymuno mewn trafodaeth grðp ar faterion o ddiddordeb, fel arfer dan arweiniad siaradwr gwadd.
Storfa Ddillad:- Stoc o ddillad sydd bron yn newydd, ar gyfer plant ac oedolion, a gedwir yng nghanolfan weinyddol y cynllun. Gall teuluoedd dynnu allan o'r storfa neu gyfrannu iddi fel y bo'n briodol.
Cylchlythyr:- Cylchlythyr chwarterol sy'n rhoi gwybod i deuluoedd am faterion o ddiddordeb i rieni, a manylion am ddigwyddiadau a drefnir yn lleol.
Gwibdeithiau:- Taith haf i roi cyfle i'r teuluoedd a'r gwirfoddolwyr fwynhau diwrnod i ffwrdd gyda'i gilydd, mewn cyrchfan a ddewisir gan y rhieni a'r gwirfoddolwyr.
Hyfforddiant i Oedolion:- Cyfle i ymuno mewn sesiynau hyfforddiant mewn pynciau sydd o ddiddordeb i'r rhieni, naill ai o fewn y gyfundrefn, neu a ddarperir yn lleol.
Mae pob un o'r gwasanaethau uchod ar gael i'r teuluoedd a gyfeirir i'r cynllun trwy'r rhaglen Cychwyn Cadarn.
Sut mae'r gwirfoddolwyr yn helpu?
Mae'r gwirfoddolwyr yn cefnogi teuluoedd mewn nifer o wahanol ffyrdd, gan gynnig cyfeillgarwch diffuant ochr yn ochr â chymorth emosiynol ac ymarferol. Ni fydd dau deulu byth yn cael union yr un cymorth, gan y bydd gwirfoddolwyr yn ymateb yn ddisyfyd i anghenion y teulu ar y pryd.
Cymorth Rheolaidd
Fel arfer byddant yn ymweld yn wythnosol, ond weithiau'n amlach. Bydd llawer ohonynt yn siarad â'u teuluoedd ar y teleffon rhwng ymweliadau, a bydd rhai teuluoedd hefyd yn mynychu un, neu'r ddau, o'r grwpiau a drefnir o fewn y cynllun.
Cyfeillgarwch
Byddant yn dangos eu cyfeillgarwch â'r teuluoedd mewn llawer o wahanol ffyrdd, trwy anfon cerdyn cyfarch ar achlysur megis pen-blwydd, genedigaeth, priodas, bedydd neu farwolaeth. Byddant yn cynnig cymorth i'r teuluoedd y tu allan i'r oriau swyddfa arferol, ac yn sefydlu perthynas o ymddiriedaeth gilyddol.
Cymorth Emosiynol
Dywed y teuluoedd wrthym mai swyddogaeth fwyaf gwerthfawr y gwirfoddolwyr yw gwrando, boed eu pryder ynghylch eu perthynas o fewn y cartref neu'r tu allan, arian, materion iechyd, addysg neu lety.
Cymorth Ymarferol
Mae'r gwirfoddolwyr yn cynorthwyo'n ymarferol mewn lawer o wahanol ffyrdd. Gallant helpu teuluoedd i gyrraedd cyfweliadau mewn pryd, cynnig pâr arall o ddwylo i gyflawni rhai tasgau neu helpu gyda'r plant, gwarchod y plant yn y cartref a thu allan, er mwyn rhoi seibiant hollbwysig i'r rhieni, neu fod wrth eu hochr tra'n delio â sefyllfa neu ymddygiad anodd.
Cyngor, Gwybodaeth ac Eiriolaeth
Gall y gwirfoddolwyr fod yn ffynhonnell gwybodaeth a chyngor, er mwyn annog y teuluoedd i wneud y defnydd gorau o'r adnoddau cymunedol sydd ar gael. Weithiau byddant yn gweithredu fel eiriolwyr dros y teulu, i'w helpu allan o sefyllfaoedd anodd.
Sut yr atgyfeirir teuluoedd at Home-Start?
Mae polisi atgyfeirio'r cynllun yn un agored, ac yn gwahodd atgyfeiriadau o nifer o ffynonellau, gan gynnwys gweithwyr proffesiynol, y cyhoedd a'r teuluoedd eu hunain. Y prif rai sy'n atgyfeirio achosion yw'r Ymwelwyr Iechyd, Gweithwyr Cymdeithasol, Gweithwyr Iechyd, Cyrff Gwirfoddol a'r teuluoedd eu hunain.
Gwneir yr atgyfeiriadau ar ffurflen safonol, a rhaid i'r teulu gytuno a llofnodi pob atgyfeiriad.
Datblygiadau newydd yn y prosiect
Yn rhan o'i ymrwymiad i'r rhaglen Cychwyn Cadarn yn Wrecsam, mae Home-Start yn arwain menter i gynyddu'r gefnogaeth a roddir i'r tadau.
Mae'n hwyluso gweithgor a fydd yn edrych ar sefydlu grðp i gefnogi tadau. Yn y cyfnod rhagarweiniol presennol, mae'r gweithgor yn casglu gwybodaeth, yn edrych ar y gwasanaethau cyfredol, yn trafod gyda'r rhieni er mwyn gweld beth yw eu dymuniad, ac yn ymchwilio i'r gwasanaethau ar gyfer tadau mewn rhannau eraill o'r wlad. Gobeithir lansio'r fenter newydd ar ddiwrnod tadau a phlant, sydd i'w gynnal yn ystod haf 2002.

Lleolir canolfan Home-Start Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn:
Byddin yr Iachawdwriaeth
Garden Road
Rhosddu
Wrecsam
LL11 7NU
Teleffon: 01978 366660
|