Adroddiad Ymwelydd Iechyd - Gwersyllt
Bwydo o'r fron
Cyfraddau bwydo o'r fron ar enedigaeth ac ar ôl 28 diwrnod.
Trwy ychwanegu'r gwasanaeth ymwelwyr iechyd, galluogir yr ymwelwr iechyd traddodiadol i ymweld yn amlach cyn yr enedigaeth, ac i roi rhagor o wybodaeth i rieni am fanteision bwydo o'r fron.
Ymwelwyd â'r ysgol uwchradd yn Gwersyllt i hyrwyddo ymgyrch bosteri ar fanteision bwydo o'r fron.
Datblygwyd y cynllun Adeiladau Cyfeillgar i Fwydo o'r Fron (cofrestrwyd 4 ohonynt yng Ngwersyllt).
Lefelau Gofal Deintyddol ymysg plant 5 oed
Cynigir ymweliadau cartref i bob rhiant yn yr ardal, i drafod diddyfnu pan fo'u plentyn tua 12 wythnos oed. Gwneir hyn gan y Gweithiwr Cefnogi Cychwyn Cadarn (sydd â chymhwyster NNEB). Darparwyd cymysgwyr bwyd a ddelir yn y llaw pan oedd eu hangen. Mae'r cyngor a roddir yn canolbwyntio ar ddefnyddio cynnyrch ffres, sy'n cynnwys ychydig neu ddim siwgr, i fwydo'r plentyn. Bu hyn yn anogaeth i'r rhieni adolygu eu harferion dietegol eu hunain.
Mewn partneriaeth a'r dietegydd cymunedol a'r rhieni, yr ydym wedi datblygu prosiect a elwir Coginio a Bwyta, sy'n annog rhieni i ddysgu sgiliau coginio, ac i osgoi bwydydd prin o faeth, drud, prosesedig, sy'n uchel mewn braster a siwgr, ar gyfer y rhieni eu hunain a'u teuluoedd. Mae hylendid yn y gegin ac wrth drin bwyd hefyd yn rhan o'r prosiect.
Mae tadau yn bwysig hefyd
Mae weithiau'n anodd cymell tadau i ymddiddori mewn gofalu am eu plant. Bu'r staff Cychwyn Cadarn yng Ngwersyllt yn adolygu eu hagwedd at y tadau. Ein bwriad yw datblygu prosiectau a fydd yn cynnwys tadau yn y gwaith o adeiladu'r Bartneriaeth yng Ngwersyllt.
Mynediad Plant i Adrannau Damweiniau ac Argyfwng Datblygu Clwb Traffig y Plant.
Mae 70 o aelodau bellach yn ward Gwersyllt. Yr oedd hyn yn galw am gyswllt a chydweithio agos ag Adran Diogelwch Ffyrdd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Mae datblygu'r Clwb Traffig hwn wedi dylanwadu ar ymarfer yr ymwelwyr iechyd ym mhob rhan o'r Fwrdeistref Sirol.
Y bartneriaeth newydd, gan gynnwys Uned Plant ac Adran Ddamweiniau Ysbyty Maelor, a fu'n gyfrifol am ddatblygu a hwyluso'r Diwrnod Gweithredu Strydgall ar 1 Medi 2002.
Y cynllun Stay Safe - Atgyfeirir plant sydd dan risg o ddioddef damweiniau gan y gwasanaeth ymwelwyr iechyd, sy'n gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Cyflenwir a gosodir giatiau grisiau a sgriniau tân i'r rhai sydd mewn angen. Cyfarfu'r cynllun â rhai anawsterau ar y dechrau, ond mae pethau'n gwella erbyn hyn.
Mae cysylltiad agos yn aml rhwng problemau tai ac iechyd, ac yr ydym yn parhau i weithio er mwyn datblygu'n perthynas waith â'r adran dai.
Lefelau Pwysau Geni Isel
Mae'r ymwelwyr iechyd bellach yn cael rhagor o gyfleoedd i ymweld â'r rhieni sy'n agored i niwed cyn yr enedigaeth, ac i gynnig cyngor maethegol yn ystod y beichiogrwydd.
Byddant hefyd yn cyfeirio rhieni at yr Arbenigwr Diweddu Ysmygu neu'r Ymwelydd Iechyd Cychwyn Cadarn, ill dau'n gweithio yn Adeilad y Bartneriaeth.
Bydd y Fydwraig Gymunedol yn ymweld ag Adeilad y Bartneriaeth yn wythnosol i gyfarfod â'r darpar rieni ac i drafod unrhyw bryderon gyda'r ymwelydd iechyd.
Lefelau Iselder Ôl-eni
Os yw'r dangosyddion yn awgrymu bod teulu dan risg, ymwelir â'u cartrefi'n amlach, i'w cefnogi ac i "wrando" yn ystod y cyfnodau cyn- ac ôl-eni.
Mae Home-Start, Relate, Hawliau Lles a'r Canolfannau Cynghori i gyd yn asiantaethau buddiol i gyfeirio atynt yn y cyswllt hwn.
Mae massage i fabanod, a gynigir gan Rachel Galliard sy'n Ymwelydd Iechyd Cychwyn Cadarn, wedi bod yn boblogaidd yn ystod y cyfnod ôl-eni yng Ngwersyllt, a dangoswyd bod yr arferiad yn lliniaru iselder ôl-eni.
Pa sylw a roddir i'r dangosyddion hirdymor?
Datblygwyd rhai dulliau newydd ar ôl trafodaethau gyda'r rhieni a'n partneriaid gwaith.
Sefydlwyd cysylltiadau cryf gyda nifer o wahanol asiantaethau, e.e. y gwasanaethau ieuenctid ac addysg, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a'r asiantaethau gwirfoddol.
Ymdrechir yn barhaus i wella hunanbarch y rheini a'r plant trwy wahanol ddulliau, gan gynnwys datblygu cymunedol. Pan fo modd, mae'r gweithgareddau a drefnir yn cynnwys elfennau cryf o hwyl. Mae rhai ohonynt wedi eu cyflwyno megis "trwy'r drws cefn".
Lleihau nifer yr atgyfeiriadau i'r Tîm Cynnal Ymddygiad yn MCC
Ceir atgyfeiriadau gan ymwelwyr iechyd eraill pan fo teuluoedd mewn anhawster oherwydd ymddygiad eu plentyn. Bydd yr ymwelydd iechyd Cychwyn Cadarn yn ymweld â'r cartrefi pan fo angen.
Mae'r teuluoedd yn helpu i wneud yr asesiad gwaelodlin, a defnyddir hwnnw yn sail ar gyfer adeiladu rhaglen newid ymddygiad, trwy gydweithrediad â'r rhieni.
Ymunodd llawer o'r rhieni â'r Rhaglenni Gofal Rhieni a drefnwyd yn ward Gwersyllt.
Imiwneiddio a Brechu
Mae cyswllt agos â'r ymwelwyr iechyd traddodiadol yn hanfodol er mwyn cyrraedd y targedau imiwneiddio, ac er mwyn statws rhai plant unigol.
Dehonglir yr wybodaeth am imiwneiddio i'r rhieni fel y bo angen, gan geisio gwasgaru'r mythau a chyflwyno ffeithiau.
Danfonir rhai teuluoedd i'r feddygfa i weld eu meddyg teulu, er hwylustod i'r rhai y mae teithio'n broblem iddynt.
Lefel Genedigaethau yn yr Arddegau
Yr ydym wedi datblygu "Cwrs Paratoi at Warchod Plant" sydd dan ystyriaeth ar hyn o bryd ar gyfer ei achredu gan Rwydwaith Coleg Agored Gogledd Cymru. Buom yn cydweithio'n agos gyda'r Gwasanaeth Ieuenctid ar y prosiect hwn. Cydnabuwyd ymdrechion ein myfyrwyr eleni yn seremoni'r Wobr Ieuenctid.
Y rhesymeg tu ôl i'r prosiect yw y dylai'r bobl ifainc, trwy fewnwelediad a deall holl gymhlethdodau swyddogaeth rhieni, sylweddoli bod y rhywogaeth honno'n rhywbeth y dylent feddwl yn ofalus iawn yn ei chylch.
Mae angen gwneud gwaith rhagweithiol pellach gyda'r grwpiau sydd dan risg.
Y Materion Ychwanegol!!
Anogir rhieni i geisio addysg bellach trwy gyfrwng Drome ac Iâl yn y Gymuned - sgiliau cyfrifiadurol a gloywi'r sgiliau ysgrifennu.
Byddwn yn hwyluso Cwrs Hylendid Sylfaenol.
|